Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Lori wedi mynd ar d芒n yng nghanol Pwllheli
Mae swyddogion t芒n wedi bod yn ymateb ar 么l i lori fynd ar d芒n yng nghanol Pwllheli.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn ardal Ffordd Ala a Ffordd Caerdydd am tua 08:05 fore Mercher.
Mae lluniau yn dangos fflamau mawr yn dod o'r cerbyd wrth i griwiau t芒n geisio eu rheoli.
Dywedodd y gwasanaeth t芒n mewn datganiad fod y lori yn cludo nwyddau i siop leol ar y pryd.
Roedd pedwar criw t芒n a dwy uned arbenigol yn rhan o'r ymateb.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynghori pobl i osgoi'r ardal am y tro, gan ddiolch hefyd i'r cyhoedd am eu cydweithrediad.