Osian Roberts 'yn falch' o arwain Como i Serie A
- Cyhoeddwyd
Be sy鈥檔 dod i鈥檙 meddwl pan mae rhwyun yn s么n am Como?
Dinas sy鈥檔 cael lot o ymwelwyr yn un peth, gan fod Llyn Como ar garreg y drws, a hefyd gan ei bod hi mor agos at Yr Alpau.
Mi fydd yna atyniad newydd yno o fis Awst ymlaen, sef p锚l-droed o鈥檙 radd flaenaf, achos mae clwb Como newydd ennill dyrchafiad i brif adran Yr Eidal, sef Serie A.
A phwy sydd wedi eu harwain nhw yno? Wel, neb llai na chyn is-reolwr Cymru Osian Roberts.
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd5 Ionawr
鈥淒wi鈥檔 eithriadol o falch achos pan ddois i yma mi oedd ganddon ni lot o waith i鈥檞 wneud," meddai.
鈥淥nd chwarae teg i鈥檙 chwaraewyr am y ffordd maen nhw wedi mynd o鈥檌 chwmpas hi.
鈥淔edra i ddim eu canmol nhw ddigon 鈥 maen nhw wedi bod yn ffantastig.
鈥淔el staff 鈥榙an ni wedi dod at ein gilydd yn sydyn iawn, wedi cydweithio鈥檔 agos a 鈥榙an ni wedi medru llwyddo i wneud be oedd y targed, sef cyrraedd Serie A.
鈥淢ae鈥檙 freuddwyd wedi dod yn realiti."
Cyfnodau anodd
Mae stori clwb Como yn un ryfeddol. Y tro diwethaf iddyn nhw fod yn Serie A oedd yn nhymor 2002-03, pan orffenon nhw un safle o waelod y tabl a disgyn i Serie B.
Fe aeth pethau o ddrwg i waeth ar 么l hynny, gyda鈥檙 clwb yn disgyn i Serie D, sef y bedwaredd haen ym mhyramid p锚l-droed Yr Eidal.
Yn ogystal 芒 hynny mi roedd yn rhaid dirwyn y clwb i ben ar ddau achlysur oherwydd problemau ariannol.
Ond mae pethau wedi bod ar eu fyny ers 2019 ar 么l i gwmni tobacco Djarum o Indonesia brynu鈥檙 clwb.
鈥淢aen nhw wedi cael amser caled iawn," meddai Osian. "Maen nhw wedi bod yn y diffeithwch am y ddau ddegawd diwethaf.
鈥淢ae hi wedi bod yn galed iawn ar bawb sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 clwb.
鈥淥nd mae鈥檙 perchnogion newydd wedi dod i fewn ryw bedair blynedd yn 么l, a r诺an maen nhw isho adeiladu rhywbeth sbesial. Mae ganddon ni bobl dda yma鈥檔 y clwb.
鈥淢ae鈥檔 glwb mewn lleoliad sbesial iawn. Mae gen ti agosatrwydd cymuned Como, hanes Como a chymeriadau Como reit yn nghanol popeth.
鈥淢ae鈥檔 glwb ac yn ddinas arbennig iawn. Dwi wedi bod yn hynod o ffodus i gael y profiad yma.鈥
Cefnogaeth Thierry Henry
Mi gafodd Osian ei benodi鈥檔 rheolwr dros dro n么l ym mis Rhagfyr ar 么l i Thierry Henry ei awgrymu i berchnogion y clwb.
Mae cyn-ymosodwr Ffrainc ac Arsenal yn un o gyfranddalwyr y clwb ers 2022.
Mae鈥檙 ddau yn nabod ei gilydd ers rhai blynyddoedd bellach, ar 么l i Henry wneud ei gymwysterau hyfforddi gyda Chymdeithas B锚l-droed Cymru ym Mharc y Ddraig yng Nghasnewydd.
Roedd y cyrsiau鈥檔 cael eu rhedeg gan Osian, oedd yn gyfarwyddwr technegol CBDC ar y pryd.
鈥淢i oedd cael rhywun fel Thierry yn rhoi ei ffydd ynddai yn golygu lot.
鈥淥nd mi oedd yna bwysau arna'i wedyn i fod yn llwyddiannus. Dwi鈥檔 teimlo rhyddhad mawr fy mod i wedi llwyddo i arwain y clwb i Serie A.
鈥淒wi wedi bod yn siarad gyda Thierry ryw dair i bedair gwaith yr wythnos, a mae o bob tro wedi bod yn gefnogol.
鈥淢i fydd y cyfnod yma yn cael ei gofio fel pennod hynod lwyddiannus yn hanes y clwb.鈥
Tydi hi ddim yn glir eto be fydd r么l Osian y tymor nesaf.
Mae o hefyd yn gweithio fel pennaeth datblygiad y clwb, ac y bwriad gwreiddiol oedd ei fod yn canolbwyntio鈥檔 llwyr ar y swydd honno o ddechrau tymor 2023-24 ymlaen.
Ond a fydd hynny鈥檔 newid ar 么l yr hyn mae wedi ei gyflawni y tymor yma?
鈥淢ae rhan gyntaf fy swydd wedi ei chwblhau, ac ar 么l pwyso a mesur 鈥榥awn ni gael sgwrs eto i weld sut awn ni o鈥檌 chwmpas hi y flwyddyn nesaf.
鈥淢ae 鈥榥a nifer o bosibiliadau a dwi ddim wedi meddwl dim am hynny i fod yn onest oherwydd y nod yn glir oedd ceisio mynd i fyny eleni. Os ddim eleni 鈥 allen ni fynd fyny y tymor nesa?
鈥淥nd 鈥榙an ni wedi llwyddo i鈥檞 gwneud hi y tymor yma, sy鈥檔 sbesial iawn gan gofio鈥檙 clybiau mawr sydd o鈥檔 cwmpas ni.
鈥淢i fydd 鈥榥a gyfle i eistedd lawr cyn bo hir a sortio allan sut mae鈥檙 clwb yma鈥檔 mynd i symud ymlaen.鈥
Paratoi at Serie A
Beth bynnag fydd r么l Osian y tymor nesaf, mi fydd ganddo ran bwysig i鈥檞 chwarae yn ymdrechion Como i aros yn Serie A.
Ar y funud mae stadiwm y clwb, Stadio Comunale G. Sinigaglia, dim ond yn gallu dal 7,500 o gefnogwyr, ond mae yna gynlluniau鈥檔 barod i wneud rhywbeth am hynny.
鈥淢ae鈥檔 ymddangos y bydd yna waith yn cael ei wneud i ddatgblygu鈥檙 stadiwm. 鈥楧an ni鈥檔 gobeithio y bydd pawb, gan gynnwys y cyngor lleol, yn ein helpu ni fel ein bod yn gallu gwneud hynny mor sydyn 芒 phosibl.
鈥淒wi鈥檔 gobeithio hefyd y bydden ni鈥檔 gallu cryfhau鈥檙 garfan, ond mae鈥檔 bwysig cofio hefyd fod yna chwaraewyr da yma鈥檔 barod.
鈥淢ae鈥檔 bwysig pan 鈥榙an ni鈥檔 mynd i Serie A ein bod ni鈥檔 mynd i gystadlu. Tydi鈥檙 perchnogion ddim eisiau i hyn fod yn rhywbeth dros dro.
"Sylfaen ydi hyn eleni i adeiladu arno, ac i barhau i adeiladu arno. Mae 鈥榥a amser cyffrous iawn o flaen y clwb ac o flaen y ddinas, ac yn ffodus iawn i mi dwi reit yn ei chanol hi."