Arestio dau mewn cysylltiad 芒 marwolaeth yng Nghaerdydd

Disgrifiad o'r llun, Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Chapel Wood yn Llanedern fore Sadwrn

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad 芒 marwolaeth dyn 44 oed yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Chapel Wood yn Llanedern ychydig cyn 07:00 ddydd Sadwrn 22 Mehefin.

Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r farwolaeth, sy'n cael ei thrin fel un anesboniadwy ar hyn o bryd.

Mae teulu'r dyn fu farw yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Lamerton o Heddlu'r De eu bod nhw'n apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth i gysylltu 芒'r nhw.