'Archarwr' ifanc 芒 chanser yn hel arian a chodi ysbryd
- Cyhoeddwyd
Mae "archarwr" ifanc wedi cael ei chanmol am hel miloedd o bunnoedd a chadw'r ysbryd yn uchel ar ward canser plant - er iddi dderbyn triniaeth ei hun.
Cafodd Mia Harris Jones, 15, o Gaerdydd wybod y llynedd fod ganddi lewcemia, ac mae bellach yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Plant Arch Noa.
Dywedodd ei fam, Jade, fod y diagnosis yn "j么c greulon" gan ystyried bod Mia wedi dioddef o bryder meddygol ers ei phlentyndod.
Ond er gwaethaf anawsterau ei thriniaeth ei hun, mae staff ar Ward yr Enfys wedi canmol ei heffaith ar gleifion iau, ac mae hi bellach wedi cael ei chydnabod fel Llysgennad Ieuenctid.
Ar 么l mynd yn s芒l haf diwethaf, aeth Mia i'r ysbyty lle cafodd ddiagnosis o Lewcemia Lymffoblastig Ac铆wt Cell-T.
Canfodd y meddygon fod celloedd canser eisoes wedi lledaenu i'w nodau lymff, a bod m脿s wedi'i ganfod o amgylch ei hasgwrn cefn a oedd yn golygu bod angen cemotherapi ar unwaith.
Gyda Mia'n dal i wynebu dwy flynedd arall o driniaeth, mae wedi bod yn fisoedd andros o anodd i鈥檞 theulu.
鈥淧an gawson ni ei diagnosis fe drodd ein bywydau wyneb i waered,鈥 meddai Jade.
鈥淢ae鈥檙 10 mis diwethaf wedi bod yn heriol iawn. Mae gwylio hi鈥檔 mynd trwy'r driniaeth wedi bod yn arbennig o galed, yn enwedig ar blant ifanc.
鈥淥nd tra rydyn ni yma rydan ni wedi gwylio hi鈥檔 cael cymaint o gyfleoedd newydd, ac mae prosiectau Arch Noa wedi ei chynnwys mewn llawer o weithgareddau sydd wedi cadw ei meddwl yn brysur.
鈥淔elly mae wedi bod yn braf iawn gwylio ei hyder yn tyfu er gwaethaf popeth mae hi'n mynd drwyddo.鈥
Mae鈥檙 gweithgareddau wedi cynnwys dogfennu ei thaith ganser ar Tiktok i dros 35,000 o ddilynwyr, yn ogystal 芒 helpu i godi arian ar gyfer cangen elusennol yr ysbyty.
Mae ei hyder newydd hefyd wedi ei harwain i gymryd r么l 鈥渃hwaer fawr鈥 i lawer o gleifion iau ar y ward, y mae鈥檔 eu disgrifio fel 鈥渦n teulu mawr鈥.
"Blwyddyn yn 么l os oedd rhaid i mi ddod i'r ysbyty fyswn i wedi fy syfrdanu, ond nawr mae鈥檙 ward a鈥檙 ysbyty cyfan yn teimlo fel cartref,鈥 meddai.
鈥淢ae'r holl blant bach ar y ward yn mynd trwy'r un peth, felly dwi'n ceisio dangos y gweithdrefnau iddyn nhw.
鈥淢aen nhw鈥檔 gweld rhywun fel fi sy鈥檔 mynd trwy鈥檙 un peth [ac mae hynny] yn eu helpu i deimlo'n llai ofnus.鈥
Yn dilyn enwogrwydd annisgwyl ar y cyfryngau cymdeithasol, roedd Mia'n benderfynol o ddefnyddio'i llwyfan er daioni.
"Wnaeth o chwythu i fyny felly meddyliais am godi ymwybyddiaeth ac arian i鈥檙 elusennau, yn enwedig Arch Noa sydd wedi bod o gymorth i mi ers fy niagnosis,鈥 meddai'r claf ifanc sydd eisoes wedi codi dros 拢2,000.
鈥淢ae wedi bod yn anhygoel. Mae鈥檔 gwneud i mi deimlo鈥檔 falch iawn ohonof fy hun ac yn hapus fy mod yn gallu helpu plant eraill.鈥
Un o'i ffrindiau agosaf oedd Vinnie, pedair oed, a gafodd ddiagnosis o lewcemia hefyd.
Fe glosiodd y ddau yn sgil eu hoffter 芒 thegan meddal Mia, Sully, o鈥檙 ffilm Monsters Inc., ac yn ddiweddarach fe brynodd Mia degan i Vinnie o un o gymeriadau eraill y ffilm, Mike.
Un arall o鈥檌 ffrindiau ar y ward yw Catherine, naw, o Lanfair-ym-Muallt, sy鈥檔 canmol egni cadarnhaol Mia ar y ward.
"Mae'n dda iawn fod pawb yn gallu gwneud ffrindiau yma, ac mae Mia wedi bod yn dda iawn ac yn gefnogol i bawb," meddai.
"Mae'r nyrsys yn garedig iawn, a'r meddygon hefyd. Maen nhw wedi helpu fi ddeall pethau, ac mae pawb yma'n fy helpu'n fawr i ddod trwy bopeth."
Mae Mia bellach wedi derbyn statws Llysgennad Ieuenctid gan Elusen Ysbyty Plant Arch Noa, i gydnabod 鈥渆i buddugoliaeth dros adfyd a charedigrwydd i eraill鈥.
Er bod ei thaith i wellhad yn un hir, mae hi'n benderfynol o aros yn bositif a helpu gydag ymdrechion codi arian.
O ran y dyfodol, mae ganddi ei harwyr ei hun mewn golwg.
鈥淩ydw i wir eisiau bod yn nyrs oncoleg bediatrig pan fyddaf yn h欧n,鈥 meddai Mia.
鈥淩ydw i wir yn gobeithio gwneud hynny a helpu plant eraill fel fi yn y dyfodol.鈥
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill
- Cyhoeddwyd18 Ebrill
- Cyhoeddwyd17 Ebrill