Cyfyngiad 20mya yn 'lot o ffws dros ddim byd'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am gynlluniau i gyflwyno cyfyngiad cyflymder o 20mya mewn ardaloedd preswyl yn dweud y bydd pobl ymhen blwyddyn yn ei weld fel "lot o ffws dros ddim byd".

Ddydd Mercher bydd y Senedd yn clywed galwadau i roi stop ar y cynlluniau, fyddai'n golygu gostwng terfyniadau cyflymder o 30mya i 20mya o 17 Medi.

Mae 21,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn awgrymu y gallai'r newid wneud gyrwyr yn fwy rhwystredig.

Ond dywedodd Lee Waters ei fod yn disgwyl y byddai agweddau pobl yn newid dros amser.

'Bydd pobl yn dod i arfer'

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd y byddai gostwng y terfyn cyflymder i 20mya mewn trefi a dinasoedd yn gwneud strydoedd yn saffach.

Yn ystod y ddadl brynhawn Mercher, fe wnaeth AS Llafur feirniadu'r sylwadau am 鈥渓ot o ffws dros ddim byd鈥 yn uniongyrchol.

Dywedodd Hefin David, AS Caerffili: 鈥淩wy鈥檔 meddwl bod hynny鈥檔 anghymwynas 芒鈥檙 ddeiseb hon. Rwy鈥檔 meddwl ei fod yn anghymwynas 芒鈥檙 rhai ohonom sydd 芒 phryderon.鈥

Er iddo ddweud bod angen 20mya mewn rhannau preswyl o鈥檌 etholaeth lle bu damweiniau trasig, fe rybuddiodd Mr David y byddai鈥檔 鈥渄od i fyny yn erbyn wal frics鈥 oherwydd na fyddai rheolau Llywodraeth Cymru yn caniat谩u i ffyrdd gael eu cadw ar 30mya neu eu newid yn 么l i hynny.

鈥淩wy鈥檔 meddwl mai dyna le mae鈥檙 polisi hwn mewn perygl o ddod yn anodd ei gyflwyno ac yn anodd ei orfodi oherwydd mae鈥檔 rhaid i chi wneud hyn trwy gydsyniad a chario pobl gyda chi,鈥 meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Lee Waters y byddai pobl yn dod i arfer gyda'r newid ymhen dim o amser

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio at ffigyrau o Sbaen - ble mae'r terfyn cyflymder ar gyfer y rhan fwyaf o ffyrdd yn 30km/a (18.6mya) - sy'n dangos gostyngiad o 20% yn nifer y marwolaethau ar y ffyrdd.

Ond mae 大象传媒 Cymru wedi clywed am rywfaint o amheuaeth ymhlith Aelodau Llafur o'r Senedd am gapasiti cynghorau lleol i ymdopi 芒'r newid.

Dywedodd un bod angen i gynghorau gael eu sicrhau gan Mr Waters y gallan nhw fod yn hyderus fod modd iddyn nhw addasu ffyrdd i 30mya os oes angen.

Trafododd y Senedd ddeiseb gafodd ei sefydlu gan Ben Watkins, 23, sy'n dweud y gallai cyfyngiad o 20mya "arwain at gynnydd mewn digwyddiadau o yrwyr yn gwylltio".

"Mewn ardaloedd trefol, alla i ddeall cael terfyn cyflymder 20mya pan mae llawer o gerddwyr yn defnyddio'r ffordd," meddai Mr Watkins, sydd o Dreorci ac wedi graddio o'r brifysgol yn ddiweddar.

"Ond mewn ardaloedd fel y Cymoedd lle mae llawer mwy o bobl angen teithio i Gaerdydd i weithio... bydd 20 yn rhy isel gan achosi mwy o draffig yn yr ardaloedd hyn."

Mynnodd Mr Waters fodd bynnag nad oedd cynlluniau peilot wedi dangos cynnydd yn nifer yr achosion o yrwyr yn gwylltio.

"Dyw hynny heb ddigwydd yng Nghaeredin, lle mae hyn wedi bod yn digwydd ers pedair blynedd a lle mae tystiolaeth gref fod llai yn marw," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae rhannau o Sir Fynwy, fel Caer-went, eisoes wedi bod yn rhan o gynlluniau peilot ar gyfer ffyrdd 20mya

"Pan 'dych chi'n dechrau gyrru ar 20 mae'n teimlo'n araf iawn ac yn od iawn.

"Bydd pobl sy'n cael eu weindio gan hynny, achos 'dyn ni'n gwybod fod rhai gyrwyr yn gwylltio'n barod.

"Ond wrth i bobl arfer gyda'r newid, wrth iddo ddod yn fwy cyffredin, 'dyn ni'n meddwl y byddwn ni'n gweld yr effaith wrth i bobl arafu.

"Bydd agweddau pobl yn newid. Mewn tua blwyddyn byddwn ni i gyd yn edrych yn 么l a meddwl bod hyn yn lot o ffws am ddim byd."

Nid yw'r newidiadau yn cefnu ar 30mya yn gyfan gwbl a gall cynghorau wneud eithriadau ar gyfer ffyrdd lle nad yw'r cyfyngiad 20mya yn berthnasol - gyda chanllawiau ar sut y gall hynny weithio.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd eithriadau fel arfer ar strydoedd llai adeiledig a lle nad oes angen i bobl sy'n cerdded a beicio rannu lle gyda thraffig modur.

'Cynllun peilot heb fynd yn dda'

Mae cadeirydd y pwyllgor deisebau ac Aelod Seneddol Llafur Alun a Glannau Dyfrdwy wedi galw ar Lee Waters i roi sicrwydd i gynghorau y gallan nhw newid ffyrdd o 20mya i 30mya pe bai angen.

Dywedodd Jack Sargeant nad oedd cynllun peilot yn ardal Bwcle wedi mynd yn dda.

Fe gytunodd Mr Waters, gan ddweud wrth gwefan Deeside.com mai "camgymeriad" oedd peidio gadael i gynghorau gyflwyno eithriadau.

Dywedodd ei fod yn disgwyl ambell i broblem wrth i'r cynllun gael ei gyflwyno, ac nad oedd angen bod yn llym gyda'r rheolau newydd o'r cychwyn.

Ychwanegodd y gweinidog ei fod wedi rhoi "adnoddau" ac "amser ychwanegol" i gynghorau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Heddlu'r Gogledd y byddan nhw'n ceisio "addysgu" gyrwyr am y newidiadau i ddechrau

Yn y cyfamser, mae prif swyddog Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio y gallai unrhyw yrwyr sy'n cael eu dal yn mynd dros 30mya mewn ardal 20mya wynebu cosbau llym.

Ond ychwanegodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman y byddai cyfnod gras ac "addysg" yn cael ei gynnig i ddechrau er mwyn helpu pobl i ymdopi gyda'r newid.

Mewn ymateb i sylwadau Mr Sargeant, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai cynghorau unigol fydd yn cael y gair olaf.

"[Bydd hyn] mewn ymgynghoriad gyda phreswylwyr ac yn seiliedig ar ganllawiau er mwyn sicrhau cysondeb ar draws Cymru," meddai.

Dywedodd Plaid Cymru eu bod yn cefnogi "egwyddor" y cynllun, ond bod angen sicrhau y gall y terfyn cyflymder gael ei newid os nad yw'r gymuned yn teimlo ei fod yn briodol.

Ychwanegodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y byddai'r newid yn "arbed bywydau ac adeiladu cymunedau saffach a chryfach".