大象传媒

'O'n i methu canolbwyntio mewn arholiadau oherwydd poen mislif'

Emily HandstockFfynhonnell y llun, Emily Handstock
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Emily Handstock wybod yn 22 oed bod endometriosis ganddi

  • Cyhoeddwyd

Wrth i Emily Handstock gerdded mewn i鈥檞 harholiad roedd hi鈥檔 cael trafferth sefyll ac yn cuddio potel d诺r poeth yn ei dillad er mwyn ymdopi 芒 phoen ei mislif.

Mae'r fenyw 25 oed, sydd ag endometriosis, yn rhoi fideos ar-lein yn dogfennu'r cyflwr a鈥檙 effaith mae'n cael ar ei bywyd.

Er mwyn rhoi cyngor ymarferol i ddisgyblion sy鈥檔 wynebu problemau, mae gr诺p ymgyrchu Love Your Period wedi cyhoeddi canllawiau.

Yn 么l Cymwysterau Cymru, sy鈥檔 gyfrifol am reoleiddio cymwysterau, mae lles dysgwyr yn rhan holl bwysig o鈥檜 gwaith.

Mae Emily yn gyfarwydd 芒 cheisio rheoli poen difrifol tra ar ei mislif.

Wrth sefyll ei harholiadau Safon Uwch roedd yn cael profion ar gyfer endometriosis ac mae鈥檔 cofio ceisio lleddfu鈥檙 boen gyda thabledi a photel d诺r poeth.

鈥淩oedd gen i siwmper enfawr ymlaen a photel d诺r poeth i fyny yna a daeth y goruchwyliwr - dyn - draw gan ei fod yn meddwl fy mod yn cuddio rhywbeth,鈥 meddai.

鈥淒oeddwn i ddim ar fy ngorau, dywedais bod mislif gen i, bod potel yn fy siwmper a鈥檌 bod yn aros yna."

'Gollwng gwaed'

Mae endometriosis yn gyflwr lle mae meinwe tebyg i leinin y groth yn tyfu mewn mannau eraill fel yr ofar茂au a thiwbiau ffalopaidd.

Mae鈥檔 gyflwr hirdymor sy鈥檔 gallu achosi poen cronig difrifol, blinder ac mae鈥檔 gallu ei gwneud hi鈥檔 anodd beichiogi.

Wedi cael diagnosis yn 22 oed, dywedodd Emily nad oedd ganddi unrhyw amheuaeth ei bod o dan anfantais yn ei harholiadau o ganlyniad.

鈥淒oeddwn ni ddim yn gallu meddwl yn glir na chwaith canolbwyntio gan fy mod mewn cymaint o boen,鈥 ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Molly Fenton
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sefydlodd Molly Fenton gr诺p ymgyrchu Love Your Period yn ei harddegau

Mae鈥檙 ymgyrchydd Molly Fenton yn disgrifio cyfnod ei harholiadau fel 鈥渉unllef鈥.

鈥淩oeddwn i鈥檔 gollwng gwaed... ond y peth mawr i fi oedd y ffaith bod angen i fi fynd i'r t欧 bach drwy'r amser," meddai.

鈥淒y'n ni ddim yn cael y sgyrsiau hyn ac efallai bod hynny oherwydd nad oedden nhw鈥檔 symptomau nodweddiadol.

鈥淩o'n i hefyd yn arfer cael cur pen gwael felly byddai hynny'n effeithio ar fy ngwaith."

Sefydlodd Molly Love Your Period yn ei harddegau tra鈥檔 yr ysgol yng Nghaerdydd er mwyn ceisio dod 芒 thlodi mislif i ben a chael gwared ar y stigma i ddisgyblion ledled Cymru.

鈥淣id yw mislif poenus yn anghyffredin - mae鈥檔 peri problemau. Nid pawb sy鈥檔 cael cymorth, ac mae鈥檔 effeithio ar ansawdd bywyd," meddai.

鈥淢ae cyfran fawr o bobl yn byw gyda mislif gwael."

Galw am fwy o weithredu

Bellach yn 22 oed, dywedodd Molly bod sgyrsiau am y pwnc yn digwydd ond nad oes digon o weithredu.

鈥淢ae angen mynediad digonol at gynhyrchion mislif, codi ymwybyddiaeth am waedu trwm," meddai.

"Does dim modd newid hyn dros nos... mae angen i ni sicrhau bod pob oedolyn yn ymwybodol o sut mae mislif yn effeithio ar bobl."

Mae鈥檙 gr诺p wedi cyhoeddi canllawiau yn cynnig cyngor gan bobl sydd wedi sefyll arholiadau yn ddiweddar.

鈥淢ae'n dweud beth i'w wneud am ollwng gwaed, poen mislif, anesmwythder, symudiad y coluddyn a hunanofal,鈥 meddai Molly.

鈥淒oes dim sgwrs amdano, ry'n ni'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyrraedd pobl... allwn ni ddim newid arholiadau ond ry'n ni eisiau i bobl deimlo'n gyfforddus."

Ffynhonnell y llun, Natalie Brown
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Natalie Brown wedi cynnal arolwg ymhlith athrawon a disgyblion am addysg mislif mewn ysgolion

Mae Natalie Brown, sy'n gweithio gyda Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru, wedi cynnal arolwg ymhlith athrawon a disgyblion am addysg mislif mewn ysgolion.

鈥淒ywedodd 64% o athrawon bod mislif yn effeithio ar ddysgu cyffredinol a 45% yn credu ei fod yn effeithio鈥檔 benodol ar ganlyniadau arholiadau a pherfformiad arholiadau mewn ysgolion,鈥 meddai.

Yn 么l yr academydd o Brifysgol Abertawe, y boen oedd yn peri鈥檙 pryder mwyaf i lawer.

鈥淢ae gorfod eistedd yn llonydd am gyfnod hir mewn arholiad yn anodd鈥 mae鈥檔 anoddach fyth pan da chi鈥檔 ceisio bod ar eich gorau,鈥 meddai.

Ystyriaeth arbennig

Dywedodd Cymwysterau Cymru bod dysgwyr yn gallu gwneud cais am ystyriaeth arbennig, pan yn briodol.

鈥淢ae unrhyw ddysgwr sy鈥檔 s芒l dros dro neu sy鈥檔 cael profiad y tu hwnt i鈥檞 rheolaeth sy鈥檔 debygol o effeithio鈥檔 andwyol ar eu gallu i sefyll arholiad neu i sicrhau eu cyrhaeddiad arferol, yn gallu gofyn am broses dyfarnu Ystyriaeth Arbennig,鈥 meddai llefarydd.

Byddai鈥檙 broses yma o bosibl yn gallu arwain at f芒n addasiadau i farciau wedi鈥檙 arholiad, yn ddibynol ar natur a difrifoldeb unrhyw salwch neu ddigwyddiad.

Pynciau cysylltiedig