Hybu Cig Cymru yn 'siop siafins eilradd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sydd yn hyrwyddo cig coch Cymreig wedi ei labelu yn "siop siafins eilradd" gan gynrychiolwyr y diwydiant cig.
Yn 么l Cymdeithas Annibynnol Cyflenwyr Cig, mae angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd i wneud yn si诺r bod Hybu Cig Cymru yn gwneud eu gwaith yn iawn.
Datgelodd rhaglen Newyddion S4C ym mis Chwefror eleni bod chwech aelod o staff y corff wedi cwyno, ar wah芒n, eu bod nhw'n cael eu bwlio.
Dywed Hybu Cig Cymru eu bod nhw'n "gweithio'n ddiflino i hyrwyddo'r diwydiant cig coch yng Nghymru, drwy'r Deyrnas Unedig ac ar draws y byd".
- Cyhoeddwyd8 Chwefror
Fe ysgrifennodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros ogledd Cymru, Llyr Gruffydd, at y Gweinidog Materion Gwledig ar y pryd, Lesley Griffiths, i alw arni i ymyrryd.
Roedd e'n poeni am ddiwylliant y corff.
Ond dweud na allan nhw wneud sylw ar faterion staffio mewnol corff hyd braich wnaeth y llywodraeth.
Mae bellach wedi dod i'r amlwg i ddau o gyfarwyddwyr Hybu Cig Cymru ymddiswyddo yr wythnos ddiwethaf.
Does dim awgrym eu bod nhw'n ymwneud 芒'r honiadau o fwlio.
A phrynhawn Mawrth, fe gadarnhaodd Hybu Cig Cymru bod y Prif Weithredwr, Gwyn Howells, wedi ymddiswyddo ar 么l bod i ffwrdd o'i waith ers haf y llynedd.
Does dim awgrym ei fod e, chwaith, yn ymwneud 芒'r honiadau bwlio.
'Baner goch reit fawr'
Ysgrifennodd Llyr Gruffydd at yr Ysgrifennydd cyfredol dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies ddydd Mawrth, gan alw o'r newydd am ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae wedi cyrraedd y pwynt erbyn hyn lle mae cyfarwyddwyr yn ymddiswyddo. I fi, mae honna yn faner goch reit fawr.
"Mi ddylai'r Gweinidog fod yn rhannu fy mhryder i, ac eisiau sicrhau ei hun bod y sefyllfa yn cael ei ddelio ag e mewn modd cywir."
Dywedodd James Evans AS, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig bod "diwylliant y corff yn peri pryder".
Mae rhai o fewn i'r diwydiant amaeth hefyd wedi lleisio pryder am Hybu Cig Cymru.
Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru mewn datganiad: "Mae angen tryloywder gan Lywodraeth Cymru sydd wedi bod yn ymwybodol o broblemau o fewn y sefydliad ers blwyddyn.
"Gweinidogion Llywodraeth Cymru sy鈥檔 penodi Cadeirydd ac aelodau bwrdd HCC ac fel corff cyhoeddus eu cyfrifoldeb yw ail-adeiladu hyder y diwydiant amaeth yng ngwaith Hybu Cig Cymru i鈥檙 dyfodol."
Ymatebodd Hybu Cig Cymru drwy ddweud eu bod nhw'n dal i barhau 芒'u gwaith pwysig a bod cynlluniau wedi hen ddechrau ar gyfer y Sioe Frenhinol fis nesaf.