Trigolion pentref Wrecsam yn cwyno am arogl wyau o safle tirlenwi

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae trigolion Johnstown yn cwyno ers tro am arogleuon drwg yn dod o Safle Tirlenwi Hafod

Bydd rheolaeth safle tirlenwi yn Wrecsam sy'n creu arogl wyau drwg i drigolion cyfagos yn cael ei drafod yr wythnos hon.

Mae pobl sy'n byw ym mhentref Johnstown wedi cwyno ers tro am arogleuon drwg yn dod o Safle Tirlenwi Hafod, lle mae gwastraff domestig a masnachol yn cael ei gladdu, yn 么l y Gwasanaeth Adrodd am Ddemocratiaeth Leol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi annog y gweithredwr safleoedd Enovert i i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 broblem ar 么l rhoi hysbysiad statudol iddynt ym mis Rhagfyr 2023聽am dorri eu trwydded amgylcheddol.

Er bod rhai gwelliannau wedi'u nodi yn ystod y misoedd dilynol, dywed y pentrefwyr fod y drewdod budr yn dal i beri gofid i'w bywydau.

Mae disgwyl i gyfarfod o gynghorwyr gael ei gynnal yr wythnos hon i drafod y mater.

Ffynhonnell y llun, Enovert

Disgrifiad o'r llun, Mae capio dros dro yn digwydd ar y safle, meddai Enovert

Cyn y ddadl, mae un cynghorydd o Gyngor Wrecsam wedi tynnu sylw at yr effaith negyddol yr arogl ar iechyd pobl.

Dywedodd Hugh Jones mewn adroddiad:聽鈥淒echreuodd y gwasanaeth dderbyn galwadau gan drigolion ger y safle ddiwedd mis Hydref 2023 ac fe gysylltodd swyddogion 芒 CNC a gweithredwr y safle i鈥檞 hysbysu o鈥檙 cwynion.

鈥淢ae dau gyfarfod cyswllt wedi鈥檜 cynnal gyda CNC ers hynny.

鈥淢ae deialog gweithredol a pharhaus gyda gweithredwr y safle a CNC, yn ogystal 芒 gyda chyrff iechyd eraill.

鈥淢ae cryfder teimlad y cyhoedd yn sylweddol a chydnabyddir bod yr aroglau sy'n deillio o'r safle yn effeithio ar iechyd a lles unigolion a chymunedol.

鈥淔el awdurdod lleol, rydym yn parhau i gefnogi CNC o safbwynt rheoleiddio ac wedi cynnal adolygiad o鈥檙 opsiynau gorfodi deddfwriaethol.鈥

'Arogl yn parhau'

Mae ffigyrau sydd wedi鈥檜 cynnwys yn yr adroddiad yn dangos bod mwy na 300 o gwynion wedi鈥檜 gwneud am y safle tirlenwi rhwng聽Hydref 2023 ac Awst eleni.

Dywedodd yr awdurdod lleol hefyd fod staff o d卯m iechyd yr amgylchedd wedi treulio 鈥渃yfnod sylweddol o amser鈥 yn delio 芒鈥檙 mater.

Nid yw'r adroddiad yn cynnwys unrhyw gynigion penodol i fynd i'r afael 芒'r broblem, ond mae'n awgrymu bod y cyngor yn parhau i weithio gyda CNC ar gamau gorfodi.

Wrth siarad am effaith yr arogl yn flaenorol, dywedodd cynghorydd Tre Ioan a dirprwy arweinydd y cyngor David A Bithell: 鈥淢ae angen i gyrff cyhoeddus gydnabod yr effaith sylweddol y mae hyn yn ei gael ar fywydau beunyddiol pobl.

鈥淩wyf wedi cyfarfod 芒 Phrif Swyddog Gweithredol safle Enovert a CNC sawl gwaith gyda phawb yn dweud eu bod wedi ymrwymo i fod yn gymdogion da ac eisiau cydweithio.

鈥淓r gwaethaf sawl sicrhad rydym yn parhau i gael arogl o鈥檙 safle.鈥

Dywedodd Enovert eu bod yn ymwybodol o ddadl y cyngor a'u bod eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael 芒'r mater.

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol Mark Silvester: 鈥淔el rhan o gynllun gweithredu y cytunwyd arno gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Enovert wedi defnyddio鈥檙 holl fesurau priodol i gydymffurfio 芒 thrwydded amgylcheddol y safle.

鈥(Mae鈥檙 rhain yn cynnwys) gosod seilwaith echdynnu nwy, capio ardaloedd gweithredu dros dro, cyflymu capio parhaol a defnyddio鈥檙 nwyon a gesglir i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.鈥

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan aelodau o'r pwyllgor craffu cartrefi ac amgylchedd yr awdurdod ddydd Mercher 16 Hydref.