D诺r Cymru i roi 拢24m yn 么l i gwsmeriaid ar 么l methu targedau
- Cyhoeddwyd
Mae D诺r Cymru wedi cael gorchymyn i ddychwelyd 拢24.1m i gwsmeriaid drwy filiau is y flwyddyn nesaf ar 么l methu targedau allweddol ar faterion fel llygredd.
Cafodd yr ad-daliad ei gyhoeddi yn adolygiad blynyddol rheoleiddiwr y diwydiant Ofwat o berfformiad cwmn茂au d诺r a d诺r gwastraff yng Nghymru a Lloegr.
Mae D诺r Cymru wedi鈥檜 rhoi yng nghategori isaf Ofwat am dair blynedd yn olynol, y tu 么l i Southern Water yn unig.
Mae prif weithredwr Ofwat, David Black wedi rhybuddio cwmn茂au na fyddai 鈥渁rian yn unig鈥 yn datrys y mater a bod angen newid diwylliant.
Dywedodd D诺r Cymru eu bod yn "gweithio鈥檔 galed i gyflawni鈥檙 gwelliannau rydyn ni鈥檔 gwybod bod angen i ni eu gwneud".
Mae cwmn茂au d诺r ar draws y ddwy wlad wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o 拢158m ar 么l methu targedau allweddol.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, ni chyflawnodd unrhyw gwmni y sg么r uchaf, er bod pedwar cwmni wedi dangos gwelliant ers y llynedd.
Cosb D诺r Cymru - i fyny o 拢18.3m ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf - yw'r bumed fwyaf a gafodd ei roi gan Ofwat y tro hwn.
Mae cwmni d诺r arall, Hafren Dyfrdwy, sy鈥檔 gwasanaethu rhannau o ganolbarth, gogledd a de Cymru, wedi cael gorchymyn i dalu cosb o 拢200,000.
鈥淩haid i gwmn茂au roi camau gweithredu ar waith nawr i wella perfformiad鈥 a pheidio ag aros nes bydd y llywodraeth neu reoleiddwyr yn gofyn iddyn nhw weithredu,鈥 meddai David Black.
- Cyhoeddwyd18 Medi
- Cyhoeddwyd5 Medi
- Cyhoeddwyd24 Awst
Mae Ofwat yn asesu perfformiad yr 17 cwmni d诺r a d诺r gwastraff mwyaf yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn yn erbyn targedau allweddol ar gyfer materion fel llifogydd o garthffosydd, tarfiadau ar gyflenwadau, a gollyngiadau d诺r.
Dadansoddiad
Gohebydd amgylchedd 大象传媒 Cymru, Steffan Messenger
Fel ein hafonydd, mae enw da D诺r Cymru wedi bod yn dirywio hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i adroddiadau fel hyn.
Mae asesiadau gan reoleiddiwr arall - Cyfoeth Naturiol Cymru - wedi israddio'r cwmni sawl gwaith hefyd, o un sy'n "arwain yn y diwydiant" i un sydd "angen gwneud gwelliannau".
Mae'n bosib bydd 'na fwy o benawdau anodd hefyd, wrth i OFWAT gynnal ymchwiliadau penodol i bob un o'r cwmn茂au d诺r yngl欧n 芒'u perfformiad amgylcheddol.
Cydnabod mae D诺r Cymru bod angen gweld newidiadau sylweddol, ac maen nhw'n addo buddsoddi 拢4bn yn ail hanner y ddegawd - gyda 拢2.5bn o hyn i'w glustnodi ar gyfer yr amgylchedd.
Ond mae'n golygu na ddylai cwsmeriaid ddisgwyl i'r gosb heddiw arwain at leihad amlwg yn eu biliau.
Bydd yr ad-daliad - sydd fod i'w gynnwys mewn biliau yn 2025/26 - yn cael ei lyncu gan gynnydd disgwyliedig yn faint ry'n ni'n talu am dd诺r a gwasanaethau carthffosiaeth, wrth i gwmn茂au fel D诺r Cymru straffaglu i ymateb i'r heriau sydd wedi'u hamlygu.
'Gwelliannau'n cymryd amser'
Dywedodd llefarydd ar ran D诺r Cymru: 鈥淩ydym yn gweithio鈥檔 galed i gyflawni鈥檙 gwelliannau y gwyddom fod angen i ni eu gwneud, ac y mae ein cwsmeriaid yn eu disgwyl gennym ac sydd wedi鈥檜 hamlinellu gan Ofwat.
"Mae gwelliannau o'r fath yn cymryd amser ac yn cael eu hategu gan gynlluniau buddsoddi manwl i sicrhau cynnydd.
鈥淔el cwmni d诺r heb unrhyw gyfranddalwyr, mae ein ffocws ar y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu i鈥檔 cwsmeriaid a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd."
Mae corff y diwydiant, Water UK, wedi cael cais am sylw.