大象传媒

Bygwth carchar i reolwyr cwmn茂au d诺r sy'n llygru

llygredd afon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth D诺r Cymru ryddhau carthion i afonydd, llynnoedd a moroedd Cymru am dros 916,000 o oriau y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Fe allai rheolwyr cwmn茂au d诺r wynebu cyfnodau yn y carchar neu gael eu hatal rhag derbyn taliadau bonws fel rhan o ddeddfwriaeth newydd sy'n ceisio mynd i'r afael 芒 llygredd d诺r.

Byddai'r cyfreithiau arfaethedig - fyddai'n berthnasol i Gymru a Lloegr - yn rhoi mwy o bwerau i reoleiddwyr y diwydiant ddelio gyda chwmn茂au sy'n llygru, a'i gwneud yn haws iddyn nhw gael eu dirwyo.

Mae rhai ymgyrchwyr amgylcheddol wedi beirniadu'r ddeddfwriaeth, gan awgrymu nad yw'n mynd i'r afael 芒'r problemau sylfaenol o fewn y diwydiant.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y mesur yn cefnogi eu "hymrwymiad i wella ansawdd d诺r ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau鈥檙 dyfodol".

Mae nifer o gwmn茂au d诺r wedi cael eu beirniadu am roi taliadau bonws gwerth miliynau o bunnau i'w prif swyddogion, tra bod achosion o lygru mewn llynnoedd, afonydd a'r m么r yn dal i ddigwydd yn gyson.

Byddai'r Bil D诺r (Mesurau Arbennig) newydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno cosbau llymach am dorri rheolau, gyda dedfrydau carchar o hyd at ddwy flynedd yn bosib i reolwyr sydd ddim yn cefnogi neu sy'n rhwystro ymchwiliadau.

Fe fydd y mesur hefyd yn rhoi'r grym i reoleiddwyr atal taliadau bonws i reolwyr os nad ydyn nhw'n gwneud digon i amddiffyn yr amgylchedd, eu cwsmeriaid a sefyllfa ariannol y cwmn茂au.

Ond mae'r gr诺p ymgyrchu River Action wedi dweud wrth y 大象传媒 eu bod nhw wedi eu siomi gan y mesur.

"Os yw'r ysgrifennydd gwladol yn credu bod camau fel atal taliadau bonws - er mor dda mae hynny'n swnio - yn mynd i helpu mynd i'r afael 芒'r achosion sylfaenol y tu 么l i'r llygru yma, yna mae angen iddo feddwl eto," meddai llefarydd ar ran y gr诺p.

System bresennol 'ddim yn gweithio'

Fe wnaeth D诺r Cymru ryddhau carthion i afonydd, llynnoedd a moroedd Cymru am dros 916,000 o oriau yn 2023, yn 么l data gafodd ei ryddhau ym mis Mawrth.

Mae hynny gyfystyr 芒 thros 20% o'r holl oriau o ollyngiadau i ddyfroedd Cymru a Lloegr.

Wrth ymateb i'r ddeddfwriaeth newydd, dywedodd llefarydd ar ran Water UK - y corff sy'n cynrychioli cwmn茂au carthffosiaeth - eu bod yn cytuno "nad yw'r system bresennol yn gweithio".

Maen nhw wedi galw ar y rheoleiddiwr Ofwat i gefnogi eu cynllun buddsoddi gwerth 拢105bn dros bum mlynedd i wella seilwaith d诺r a charthffosiaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd 105,943 o ollyngiadau eu cofnodi gan D诺r Cymru yn 2023

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu'r mesur hwn a'r elfen o gydweithio rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

"Mae'r mesur yn adlewyrchu ein hymrwymiad ar y cyd i wella ansawdd d诺r ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau鈥檙 dyfodol."

Yn 么l Ysgrifennydd Amgylchedd Lloegr, Steve Reed, byddai'r mesurau yn "dod 芒 diwedd i ymddygiad gwarthus gan gwmn茂au d诺r a'u rheolwyr".

"Bydd atal taliadau bonws i reolwyr sy'n goruchwylio methiannau cyson, a'u gwneud nhw'n gyfrifol yn gyfreithiol am rwystro ymchwiliadau, yn sicrhau eu bod nhw'n canolbwyntio ar lanhau ein hafonydd yn hytrach na llenwi eu pocedi," meddai.

Ychwanegodd Llywodraeth y DU eu bod yn bwriadu cyflwyno rhagor o ddeddfwriaeth yn y dyfodol er mwyn gwneud newidiadau sylfaenol i'r diwydiant d诺r er mwyn cyflymu'r gwaith o uwchraddio seilwaith, darparu cyflenwadau d诺r dibynadwy a mynd i'r afael ag achosion o lygredd.