Angen gwelliannau brys ar ysbyty yn Wrecsam

Ffynhonnell y llun, Google

Mae angen gwelliannau brys ar ysbyty annibynnol yn Wrecsam yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Yn dilyn ym mis Mawrth 2023, daeth arolygwyr i’r casgliad bod nifer o risgiau yn Ysbyty New Hall, Rhiwabon y mae angen gweithredu arnynt ar unwaith.

Cleifion sydd wedi cael diagnosis o anableddau dysgu ac anhwylderau meddyliol yw’r cleifion sy’n cael gofal yn yr ysbyty.

Ond tra bod staff yn trin cleifion ag urddas a pharch, ymhlith y meysydd oedd yn achosi pryder oedd camgymeriadau wrth roi meddyginiaeth, diffyg offer achub bywyd ac achosion o dorri rheolau diogelwch tân.

Nodwyd hefyd fod angen gwella'r cefnogaeth i gleifion, ac y dylai cwynion gael eu cofnodi’n effeithiol.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Diwedd neges Twitter

Mae’r ´óÏó´«Ã½ yn deall fod gan bellach gynllun gwella y bydd yn ei weithredu i fynd i’r afael a’r gwelliannau, ac bydd yr AGIC yn monitro’r cynllun hwnnw.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones: "Mae'r materion a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn destun pryder, ac rydym wedi gofyn i'r lleoliad roi sicrwydd ar unwaith y bydd yn ymdrin â'r risgiau i ddiogelwch y cleifion a'r staff.

"Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r gwasanaeth er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau."