Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dynes gafodd bum str么c a gwaedlif ar yr ymennydd yn nofio Llyn Padarn
Mae dynes o F么n ddechreuodd nofio gwyllt ar 么l cael gwaedlif ar yr ymennydd a pum str么c wedi nofio hyd Llyn Padarn i gasglu arian at achos da.
Fe gafodd Heather Hughes, o Lanfairpwll, ei tharo鈥檔 ddifrifol wael bum mlynedd yn 么l gan dreulio wythnosau yn ysbyty arbenigol Walton, Lerpwl, ac Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Ond wedi i鈥檞 ffrind ei pherswadio i ddechrau nofio gwyllt fel rhan o鈥檌 hadferiad mae wedi bod yn mynd yn gyson drwy鈥檙 flwyddyn - a nawr wedi llwyddo i nofio am dros ddwyawr yn y llyn ger Llanberis.
"Do鈥檔 i erioed wedi sylweddoli pa mor hir ydi Llyn Padarn,鈥 meddai.
"Dwi ddim yn athlete, felly i 'neud hynny roedd o鈥檔 her i fi. I gael pobl pen arall yn cheerio pan nesh i gyrraedd, roedd o鈥檔 emosiynol iawn."
Roedd Ms Hughes, sy鈥檔 56 oed, yn gadael Venue Cymru yn Llandudno ar 15 Ebrill 2019 pan gafodd boen dychrynllyd yn ei phen.
"Chesh i ddim rhybudd - dim byd o gwbl," meddai. "A nesh i dd'eud yn syth 鈥榙wi鈥檔 meddwl mod i 'di cael brain haemorrhage鈥.&辩耻辞迟;
Aeth i鈥檞 gwely gyda thabledi lladd poen cyn cael ei pherswadio i fynd i Ysbyty Gwynedd, Bangor.
O fewn dim roedd hi鈥檔 cael ei gyrru ar frys i Lerpwl lle achubodd t卯m meddygol Walton ei bywyd.
Cafodd wybod bod ganddi hydrocephalus, pan mae hylif yn casglu ar yr ymennydd, a chael triniaeth cyn dychwelyd i F么n pum wythnos yn ddiweddarach.
Nofio yn hwb i iechyd meddwl
O fewn wythnosau roedd hi'n 么l yn Ysbyty Gwynedd ar 么l cael pedwar str么c.
Fe gafodd un arall yn 2021 ac roedd y cyfan yn effeithio鈥檌 hiechyd corfforol a meddyliol.
"Roedd 'na ffrind wedi gweld 'mod i angen help a dyma hi鈥檔 dweud 鈥榯i鈥檔 dod i nofio鈥,鈥 meddai.
"Dwi鈥檔 cofio mynd fewn i鈥檙 m么r am y tro cynta鈥 a gweiddi 鈥榦 ma鈥檔 oer鈥... a dyma fy ffrind yn d'eud 'gwranda, ti wedi geni tri o blant jest anadla fewn ac allan trwy dy geg a fyddi di鈥檔 iawn'.
"Roedd hi鈥檔 gwybod y bydda fo鈥檔 llesol. Ti鈥檔 rhoi dy ben o dan y d诺r a ti鈥檔 cael yr endorphins hit yma. Dwi wrth fy modd.
"Ma' 'ng诺r yn gwybod os dwi heb fod am ychydig o ddyddiau."
Bellach mae hi鈥檔 mynd pedair gwaith yr wythnos, fel arfer i draethau dwyrain M么n, ac yn nofio drwy鈥檙 flwyddyn heb wisg cadw鈥檔 gynnes.
Ar 么l nofio lled Llyn Padarn yn ddiweddar fe benderfynodd nofio鈥檙 3.2 cilomedr o bont Penllyn, Brynrefail, i ben arall y llyn yn Llanberis i gasglu arian i elusen SHINE.
Dros yr haf roedd hi鈥檔 ymarfer tra ar ei gwyliau yn Corfu gan gynyddu ei hamser yn y pwll nofio bob dydd er mwyn cyrraedd ei tharged.
Ond mae nofio mewn pwll ar un o ynysoedd Groeg yn yr haf yn wahanol i lyn dwfn yn Nyffryn Peris wrth i鈥檙 hydref agos谩u.
"Mae d诺r y m么r yn ysgafnach oherwydd yr halen - a do鈥檔 i鈥檓 yn gwybod hynny tan i rywun dd'eud wrtha i," meddai.
"Roedd y llyn yn choppy pan nesh i gyrraedd hanner ffordd a鈥檙 gwynt yn erbyn fi. Ar adegau do鈥檔 i鈥檓 yn meddwl mod i'n symud o gwbl.
"Pan nesh i gerdded allan 'nath fy nghoesau i jest fynd - roeddan nhw fel jeli! Ond nesh i 'neud o."