大象传媒

Gething wedi dweud wrth weinidogion ei fod yn dileu negeseuon

Rhoddodd Vaughan Gething dystiolaeth i ymchwiliad Covid ym mis MawrthFfynhonnell y llun, YMCHWILIAD COVID
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhoddodd Vaughan Gething dystiolaeth i ymchwiliad Covid ym mis Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Dywedodd Vaughan Gething wrth weinidogion mewn gr诺p tecstio yn ystod y pandemig ei fod yn dileu negeseuon, mae wedi dod i鈥檙 amlwg.

Dywedodd y prif weinidog, oedd yn weinidog iechyd ar y pryd, wrth gydweithwyr y gallai鈥檙 negeseuon gael eu dal gan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Dywedodd Mr Gething wrth y Senedd ddydd Mawrth fod y gweinidogion wedi bod yn trafod materion mewnol Llafur, nid polisi Covid Llywodraeth Cymru, ac mae wedi gwadu dileu negeseuon er mwyn osgoi craffu.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru y gallai fod Mr Gething wedi camarwain ymchwiliad Covid ar 么l i鈥檙 stori, a adroddwyd gyntaf gan Nation.Cymru, ddod i鈥檙 amlwg.

Yn siarad gyda 大象传媒 Cymru ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gething nad oedd wedi "dileu negeseuon ynghylch gwneud penderfyniadau, ac mewn gwirionedd heb ddileu unrhyw neges destun o fy ffon, oherwydd nad oedd gen i'r amser na'r awydd".

Yn y Senedd, cyhuddwyd Mr Gething gan arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth o roi tystiolaeth gelwyddog ar lw yn yr ymchwiliad.

Galwodd Mr Gething ar Mr ap Iorwerth i dynnu'r cyhuddiad yn 么l, gan alw'r cyhuddiad yn atgas.

Awgrymodd y prif weinidog fod y neges yn ceisio osgoi sylwadau fyddai'n peri embaras rhwng gweinidogion i ddod i'r amlwg.

Yn y cyfamser dywedodd yr ymchwiliad Covid y byddai'n ystyried a ddylid cymryd mwy o dystiolaeth gan Mr Gething.

Mae'r ddwy wrthblaid wedi ysgrifennu at yr ymchwiliad yn gofyn iddo adalw Mr Gething.

'Rwy鈥檔 dileu鈥檙 negeseuon'

Mewn sgwrs gr诺p gweinidogol ar 17 Awst 2020, pan oedd yn weinidog iechyd, ysgrifennodd Mr Gething: 鈥淩wy鈥檔 dileu鈥檙 negeseuon yn y gr诺p hwn.

"Gallant gael eu dal mewn cais rhyddid gwybodaeth a dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn y lle iawn ar y dewis sy'n cael ei wneud."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, wrth Senedd Cymru ddydd Mawrth bod y negeseuon wedi'u hanfon ar iMessage - system negeseuon testun Apple iPhone.

Cafodd 大象传媒 Cymru wybod bod y negeseuon wedi eu hanfon ar ff么n gafodd ei ddarparu gan y Senedd i Mr Gething.

Yng Nghwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth dywedodd Mr Gething wrth Senedd Cymru fod y neges wedi ei chyhoeddi "heb gyd-destun y drafodaeth".

Cyhuddwyd Mr Gething gan Mr Davies o geisio osgoi y ddeddf rhyddid gwybodaeth a thorri'r gyfraith ac unrhyw ymrwymiadau i ymchwiliadau cyhoeddus.

Dywedodd Mr Gething fod Mr Davies yn camddarllen y ddeddf, a dywedodd fod y negeseuon yn ymwneud 芒 sgwrs rhwng gweinidogion am gyfarfod gr诺p Llafur ym mis Awst 2020.

鈥淣id yw鈥檔 ymwneud 芒 gwneud penderfyniadau yn ymwneud 芒鈥檙 pandemig. Mae鈥檔 ymwneud 芒 sylwadau y mae cydweithwyr yn eu gwneud i鈥檞 gilydd ac am ei gilydd.

"Mae'n ymwneud 芒 sicrhau nad ydym yn darparu pethau a allai achosi embaras," meddai.

Dyfynnodd Rhun ap Iorwerth dystiolaeth Mr Gething i'r ymchwiliad Covid lle dywedodd: 鈥淩oeddwn ar ddeall ein bod wedi cadw a chynnal yr holl wybodaeth y dylem ei wneud, a byddai ar gael i鈥檙 ymchwiliad hwn.鈥

Gofynnodd Mr ap Iorwerth: 鈥淵dy鈥檙 prif weinidog yn deall pam mae pobl yn gofyn heddiw a wnaeth roi tystiolaeth gelwyddog ar lw?鈥

Atebodd Mr Gething fod y neges yn ymwneud 芒 "thrafodaeth o fewn y gr诺p Llafur, a sut mae pobl yn siarad a ddim yn siarad 芒'i gilydd".

鈥淩wy鈥檔 gwrthod yn llwyr yr awgrym nad wyf wedi bod yn onest gyda'r ymchwiliad Covid.鈥

Wrth gyfeirio at y ffrae am y rhoddion i ymgyrch Mr Gething, dywedodd Mr ap Iorwerth: 鈥淵n anffodus, mae鈥檙 Senedd ar bob mainc yn colli ffydd yng ngallu鈥檙 prif weinidog hwn i arwain heb unrhyw wrthdyniadau.

"Wedi saith wythnos mae ei arweinyddiaeth yn ymwneud 芒 goroesi.鈥

'Ystyried y wybodaeth'

Yn yr ymchwiliad Covid ar 11 Mawrth eleni, dywedodd Mr Gething: 鈥淩oeddwn ar ddeall ein bod wedi cadw a chynnal yr holl wybodaeth y dylem ei wneud, ac y byddai ar gael i鈥檙 ymchwiliad hwn.鈥

Mewn datganiad roedd wedi dweud wrth yr ymchwiliad fod ganddo ddau ff么n y Senedd - un y rhoddodd y gorau i'w ddefnyddio ym mis Gorffennaf 2021 a throsglwyddwyd ei ddata i ail ff么n.

Dychwelwyd y ff么n ar gyfer gwaith cynnal a chadw, meddai mewn datganiad tyst, ym mis Mehefin 2022, a chafodd cynnwys y ff么n ei lanhau.

Roedd copi wrth gefn o gynnwys y ff么n ac eithrio negeseuon testun. "Doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny ar y pryd," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Ymchwiliad Covid-19 y DU: 鈥淢ae鈥檙 adroddiadau hyn wedi鈥檜 dwyn i sylw鈥檙 ymchwiliad y bore yma.

"Mae'r ymchwiliad yn ystyried y wybodaeth sydd ar gael ac a oes angen ceisio tystiolaeth bellach gan Mr Gething."