Effaith 'anferth' colli swyddi dur, ond 'rhaid bod yn bositif'
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryderon mawr y gallai colli swyddi yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot gael effaith "anferth" ar fywyd y gymuned leol.
Gallai nifer o weithwyr gael eu gorfodi i chwilio am waith ymhell o'r ardal wrth i ddwy ffwrnes chwyth gau, a 2,000 o swyddi yn diflannu gyda nhw.
Mae rhai gweithwyr wedi penderfynu arallgyfeirio鈥檔 barod, yn eu plith mae Cassius Walker-Hunt sydd wedi agor caffi yn y dref.
Ar 么l gorffen ei waith am 06:00, mae Cassius yn gwneud ei ffordd i ganolfan siopa Aberafan i agor Portablo Coffi.
Gan ei fod yn gweithio ar linell gynhyrchu'r ffwrnes chwyth ei hun, mae'n gwybod nad oes dyfodol iddo yn y gwaith dur.
"Fi鈥檔 teimlo鈥檔 anhapus, ac yn emosiynol oherwydd ma' lot o deuluoedd sy鈥檔 mynd i gael trafferthion mawr," meddai'r gweithiwr dur 27 oed.
"Fi just wedi [agor caffi] oherwydd ma' 3,000 o bobl yn mynd i fynd mas o waith ar yr un pryd, so fi just yn mynd i fod ychydig yn gynnar yn neud e."
Mae'n ffyddiog bod dyfodol i'r dref os all pawb "gadw'n bositif".
- Cyhoeddwyd19 Ionawr
- Cyhoeddwyd3 Mai
- Cyhoeddwyd18 Ionawr
Yng nghlwb rygbi Cwins Aberafan, mae Joshua Pugh, 33, yn egluro ei fod wedi colli ei swydd yng ngwaith dur y Morfa ar 么l 14 o flynyddoedd.
Caeodd y ffwrnais golosg yno yn sgil pryderon cwmni Tata am ddiogelwch.
Mae鈥檔 rhan o鈥檙 t卯m sy鈥檔 datgomisiynu鈥檙 ffwrneisi, ond mae鈥檔 disgwyl bod yn ddi-waith erbyn diwedd Gorffennaf.
Mae e, fel eraill sy鈥檔 cael eu heffeithio gan y cau, wedi cael cynnig ail-hyfforddiant gan Tata. Ond all Joshua ddim fforddio鈥檙 cyflog sylweddol is.
鈥淢ae babi 11 wythnos oed 鈥榙a fi,鈥 meddai, 鈥渁lla i ddim gwneud prentisiaeth tair blynedd o hyd. Does 鈥榙a fi ddim o鈥檙 arian wrth gefn i gynnal hynny.鈥
Mae hefyd yn poeni am effaith cau鈥檙 ffwrneisi ar ei glwb rygbi.
鈥淔yddwn ni鈥檔 gweld yr un bois ni鈥檔 arfer gweld bob dydd? Ydyn nhw鈥檔 mynd i orfod symud m芒s o Bort Talbot neu hyd yn oed o Gymru er mwyn cael gwaith?
鈥淏ydd e鈥檔 anferth. Os gollwn ni bump neu chwech o鈥檙 bois ar y t卯m rygbi, gallai鈥檔 bwrw ni ac mae timoedd eraill yn yr un sefyllfa鈥檔 gwmws achos mae pawb rownd ffordd hyn yn gweithio yn y gwaith dur.鈥
'N么l yn y caffi, mae un o drigolion y dref, Sara Manchipp, yn egluro bod rhyw fath o gyswllt gan bawb yn y dref 芒'r gwaith dur.
Daeth ei thad-cu hi o Wlad yr Haf i Bort Talbot yn unswydd i weithio yn y gwaith dur.
Mae'n dweud ei fod e "mor drist" dros y gweithwyr sy'n colli eu gwaith.
"Na鈥檛h y gwaith dur roi cyfle iddo fe godi teulu, magu teulu a chael arian i鈥檙 teulu hefyd," meddai.
"Wedodd e bod e鈥檔 cydymdeimlo shwt gyment 芒鈥檙 bobl sy鈥檔 colli eu gwaith nawr achos maen nhw鈥檔 mynd i golli鈥檙 holl brofiade gath e."
'Ffydd yn y gymuned'
Eto i gyd, mae ei wyres yn obeithiol am ddyfodol Port Talbot.
"Ma' pobl yn mynd i fecso achos ma' hwn yn amser caled iawn i shwt gyment o deuluoedd ac maen nhw yn mynd i bryderu ond ma' ffydd 'da fi bod pobl y dref yn mynd i ddod at ein gilydd i sicrhau dyfodol i鈥檔 cymuned a鈥檔 tref ni."
Mae aelodau undebau Unite a Community eisoes wedi pleidleisio o blaid gweithredu yn ddiwydiannol dros y cynllun ailstrwythuro.
Mae disgwyl i undeb GMB gynnal pleidlais ymysg aelodau yn fuan hefyd.
Methodd yr undebau a Tata ddod i gytundeb ar gynlluniau ail-strwythuro鈥檙 cwmni yn gynharach yn y mis, wedi i鈥檙 undebau wrthod nifer o gynigion allweddol gan y cwmni o India.
Yn 么l yr undebau, mae鈥檙 cwmni wedi 鈥渄iystyru鈥 effaith y newidiadau ar weithwyr, eu teuluoedd a chymunedau.
Cynllun Tata yw i adeiladu ffwrnes drydan newydd gwerth 拢1.25bn ym Mhort Talbot. Byddai ffwrnes drydan yn achosi llai o lygredd na ffwrnais chwyth ac angen llai o weithwyr i鈥檞 rhedeg.
Yn 么l y cwmni, byddai鈥檙 cynllun yn sicrhau dyfodol cynhyrchu dur ar y safle.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai
- Cyhoeddwyd25 Ebrill
- Cyhoeddwyd22 Ionawr