大象传媒

Rhybudd i ffermwyr ar 么l taclo t芒n mewn ysgubor

tan sguborFfynhonnell y llun, Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd criwiau eu galw i'r ddigwyddiad ar fferm yng Nghoed-y-Bryn, Ceredigion ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd i ffermwyr gadw offer ac anifeiliaid mewn mannau diogel yn dilyn t芒n sylweddol ar fferm yng Ngheredigion.

Cafodd 20 o ddiffoddwyr eu galw i d芒n mewn ysgubor fawr yng Nghoed-y-Bryn, ger Castellnewydd Emlyn dydd Mawrth.

Roedd y t芒n yn ymwneud 芒 pheiriant Bobcat a 70 o f锚ls gwair.

Cafodd gwartheg oedd yn yr adeilad eu symud i fan diogel hefyd.

Treuliodd criwiau Gwasanaeth T芒n Canolbarth a Gorllewin Cymru o Gastellnewydd Emlyn, Aberaeron, Llandysul, Llanbedr Pont Steffan a'r Tymbl bron i bedair awr yn taclo'r digwyddiad.

Mewn datganiad, dywedodd y Gwasanaeth T芒n eu bod eisiau gweithio gyda ffermwyr i osgoi digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Maent wedi rhybuddio ffermwyr rhag cadw offer fflamadwy gydag anifeiliaid neu gerbydau.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: "Gall ffermydd ac eiddo mewn ardaloedd gwledig fod yn bell ac yn ynysig, sydd yn gallu arwain at bellter teithio hirach, amseroedd ymateb hirach a phroblemau mynediad."

Rhybuddiodd y gwasanaeth gall gridiau gwartheg rhwystro cyfarpar tan rag cyrraedd man tan, gyda rhai offer yn pwyso mwy na 12 tunnell.

Dywedodd y gwasanaeth ei bod nhw eisiau cyd-weithio a ffermwyr a pherchnogion tir i sicrhau bod eu hasesiad risg tan fferm yn gyfredol.

Maent hefyd eisiau datblygu bocs tan yn fynedfa'r tir sydd efo manylion amdan y cyflenwad dwr agosaf , map o'r tir a gwybodaeth am y nifer o anifeiliaid a lleoliad deunyddiau peryglus.

Mae Swyddog Cyswllt Fferm y gwasanaeth yn cynnig cyngor am ddim ar losgi dan reolaeth ac atal tannau ffermwyr, yn ogystal 芒 chynnig profi tymheredd b锚ls.

Pynciau cysylltiedig