Rhybudd busnes Caernarfon wedi twyll gostiodd 'hyd at £1,000'

Disgrifiad o'r llun, Roedd cyfanswm o 31 o'r 50 archeb yn rhai ffug, yn ôl perchnogion Melys

Mae bwyty yng Nghaernarfon wedi rhybuddio busnesau eraill yn y dref yn dilyn digwyddiad ar noson arbennig i'r bwyty yr wythnos ddiwethaf.

Roedd bwyty Melys ar y Cei Llechi yn cynnal noson arbennig i lansio bwydlen Eidalaidd newydd sbon.

Gan eu bod wedi derbyn 50 o archebion am fwrdd ar y noson, penderfynwyd peidio derbyn mwy gan fod hynny'n llenwi'r lle.

Cafodd dros 40 o geisiadau eraill am fwrdd eu gwrthod.

Ond sylweddolodd y perchnogion fod rhywbeth o'i le wrth i'r noson fynd yn ei blaen.

I osgoi neges Facebook
Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Facebook a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Diwedd neges Facebook

Mewn neges ar dudalen Facebook y bwyty, dywedodd y perchnogion: "Daeth yn amlwg mai archebion ffug oedd nifer o'r archebion a archebwyd drwy ein system ar-lein.

"Roedd rhywun wedi cadw byrddau i 4,5,6 a 7 o bobl mewn gwahanol enwau, o dan wahanol gyfeiriadau e-bost ffug ac ar wahanol amseroedd drwy gydol y nos.

"Roedd cyfanswm o 31 o'r 50 archeb yn rhai ffug."

Aeth y neges ymlaen i ddweud fod y busnes wedi bod yng Nghei Llechi ers dros ddwy flynedd, ac nad oedden nhw'n ymwybodol eu bod wedi gwneud unrhyw elynion, nac wedi rhoi unrhyw rheswm i unrhyw un wneud rhywbeth fel hyn.

Disgrifiad o'r llun, Collodd y busnes hyd at £1,000 oherwydd y digwyddiad

Dywedodd perchennog Melys, Peris Tecwyn, wrth Cymru Fyw: "Mae'n golled o gannoedd o bunnoedd i'r busnes... hyd at £1,000 hwyrach.

"Ers y noson dwi wedi clywed fod yr un math o beth wedi digwydd i fusnesau eraill yng Nghaernarfon, Bontnewydd, Llanberis ac Abersoch.

"Mae'n bosib i ni addasu ein system fel bod pobl yn gorfod rhoi manylion cerdyn wrth archebu bwrdd, ond dydan ni ddim wir am wneud hynny ar hyn o bryd.

"Ond fe fyddwn ni'n gorfod ffonio pobl sydd wedi archebu bwrdd y noson gynt i wirio'r cwsmer. Ar y noson y digwyddodd hyn fe wnaethon ni ffonio sawl un o'r rhifau oedd wedi eu gadael gan bobl, a chanfod eu bod nhw'n rhifau ffug."

Mae'r busnes yn cyflogi 16 o bobl leol ac yn dweud eu bod yn cefnogi cwmnïau lleol eraill.

Gorffennodd y neges trwy ddweud: "Felly rhybudd i berchnogion busnes eraill yw hyn rhag ofn y bydd yr unigolyn trist hwn yn targedu pobl leol eraill yn y dyfodol."