Arestio dau ar 么l i ddyn farw mewn t芒n ym Mhrestatyn

Disgrifiad o'r llun, Mae'r heddlu'n dweud does dim byd i awgrymu fod y digwyddiad wedi'i ysgogi gan hiliaeth

Mae dau ddyn lleol wedi cael eu harestio ar 么l i ddyn farw mewn t芒n ym Mhrestatyn yn yr oriau man.

Cafodd diffoddwyr t芒n eu galw i d芒n mewn eiddo masnachol ar y Stryd Fawr yn y dref am 02:35 bore Llun, gyda chriwiau o Brestatyn, Y Rhyl a Llanelwy yn mynychu.

Mae ymchwiliad rhwng Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru ar y gweill i ddarganfod achos y t芒n.

Disgrifiad o'r llun, Mae dau ddyn wedi'u harestio yn dilyn y digwyddiad bore Llun

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Simon Williams: 鈥淩ydym wedi arestio dau ddyn lleol sy鈥檔 cynorthwyo gyda鈥檔 hymholiadau, ond rydym yn cadw meddwl agored yngl欧n 芒鈥檙 amgylchiadau ar hyn o bryd.

鈥淏yddwn yn annog y cyhoedd i beidio 芒 dyfalu nes bod y ffeithiau llawn yn hysbys. Rydym yn cynorthwyo cydweithwyr o Wasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru yn lleoliad y digwyddiad i ddeall achos y t芒n.

鈥淒oes dim byd i awgrymu bod y digwyddiad hwn wedi鈥檌 ysgogi gan hiliaeth. Mae ein meddyliau gyda theulu鈥檙 dyn fu farw ar yr adeg drist hon.鈥