大象传媒

Pwy yw鈥檙 actorion Cymreig yn y gyfres The Rings of Power?

Rings of powerFfynhonnell y llun, Amazon Prime
  • Cyhoeddwyd

Gydag ail gyfres The Rings of Power, y ddrama ffantasi sy鈥檔 seiliedig ar fyd The Lord of the Rings JRR Tolkien, wedi ei rhyddhau ar Prime Video ac yn parhau nos Iau, pwy yw鈥檙 actorion o Gymru sy鈥檔 serennu unwaith eto yn y stori epig?

Mae rhai o鈥檙 Cymry oedd yn ffigyrau amlwg yn y gyfres gyntaf yn 么l i鈥檙 ail, ac yn cael dipyn go lew o amser sgrin, gyda thri ohonynt yn siaradwyr Cymraeg.

Morfydd Clark

Ffynhonnell y llun, Amazon Prime

鈥淢orfydd Clark yw calon y gyfres,鈥 meddai'r adolygydd Lowri Cooke. 鈥淗i wrth gwrs yw Galadriel; os cofiwch chi Cate Blanchett wnaeth ei phortreadu hi yn y ffilmiau ar droad y mileniwm.

鈥淥 mam bach mae hi鈥檔 dod ag urddas a gravitas. Mae hi鈥檔 actores sy鈥檔 ymddangos yn arallfydol; mae gyda hi gymaint o bresenoldeb.鈥

Mae鈥檙 ffaith bod yr actores o Benarth yn siarad Cymraeg yn si诺r o fod yn help iddi ynganu iaith yr Elves, sef Sindarin, sydd wedi ei dylanwadu gan s诺n y Gymraeg.

Tybed a welwn ni fwy o enghreifftiau ohoni鈥檔 taflu ambell i air Cymraeg i mewn?

Owain Arthur

Ffynhonnell y llun, Amazon Prime

Owain Arthur, gynt o Rownd a Rownd, sy鈥檔 chwarae rhan Durin IV, tywysog y corachod sy鈥檔 byw yng nghrombil y mynydd yn Khazad-d没m.

鈥淔alle welson ni lot o Morfydd Clark yn y bennod gyntaf o鈥檙 ail gyfres; Owain Arthur sy鈥檔 cael lle blaenllaw yn yr ail bennod,鈥 meddai Lowri Cooke.

鈥淕an fod y gyfres gyntaf wedi cyflwyno鈥檙 holl gymeriadau... nawr rydyn ni鈥檔 cael ein plymio鈥檔 syth i fewn i鈥檙 stori.

鈥淎 chware teg mae 'na olygfa rhwng Durin a鈥檌 dad, y brenin, bobl bach mae鈥檔 ddirdynnol lle mae 'na ymddiheuro rhwng tad a mab, s么n am emosiwn!鈥

Mae Owain yn dod o Rhiwlas ger Bangor ac mae wedi siarad am y cyfle oedd i siarad Cymraeg gyda鈥檌 gyd-actorion ar y set: "Roedd yn braf iawn, yn enwedig yn y gyfres gyntaf pan oedden ni'n ffilmio yn Seland Newydd, gan ein bod ar ochr arall y byd, roedd cael y math yna o gartref oddi cartref yn helpu gyda鈥檙 hiraeth," meddai.

Trystan Gravelle

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Un arall o鈥檙 siaradwyr Cymraeg sy鈥檔 chwarae un o鈥檙 prif rannau yw Trystan Gravelle o Drimsaran ger Llanelli, cyn ddisgybl yn Ysgol y Strade.

Yn yr ail gyfres fe gawn ni syniad cliriach o stori ei gymeriad Pharaz么n, brenin olaf N煤menor, a鈥檌 ran yn y digwyddiadau sy鈥檔 siapio Middle Earth a鈥檙 frwydr yn erbyn Sauron, filoedd o flynyddoedd cyn cyfnod llyfrau Tolkien.

Meddai Morfydd Clark am siarad Cymraeg gyda Trystan ac Owain yn ystod y cyfnod ffilmio yn Seland Newydd:

鈥'Oedd bod yn rhan o hwn efo dau berson oedd yn siarad Cymraeg trwy'r amser gyda'i gilydd - o'n i'n meddwl fod Cymraeg fi yn well na mae wedi bod erioed. Ar 么l 10 mlynedd o fod yn Llundain, dwi wedi siarad mwy o Gymraeg yn Seland Newydd!鈥

Lloyd Owen

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Er iddo gael ei eni a鈥檌 fagu yn Llundain, gwreiddiau Cymreig sydd gan yr actor Lloyd Owen, sy鈥檔 chwarae rhan y capten Elendil o N煤menor.

Roedd ei dad a鈥檌 fam yn Gymry a鈥檙 ddau hefyd yn actorion: roedd Glyn Owen, oedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Jack Rolfe yn Howard鈥檚 Way, yn byw yng Nghaernarfon ar ddiwedd ei oes, a Patricia Mort yn dod o Dreforys ger Abertawe.

Megan Richards

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn cyfweliad ar Radio Cymru fe soniodd Morfydd Clark hefyd am Megan Richards wrth s么n am gysylltiadau Cymreig y cast: 鈥淢ae lot o bobl Cymraeg yn y cast - ni efo Trystan Gravelle, Owain Arthur ond hefyd Lloyd Owen - mae ei dad e'n Gymraeg - ac mae Megan Richards efo tad Cymraeg. Felly mae'n rili hyfryd.鈥

Megan sydd yn actio rhan Poppy Proudfellow, un o鈥檙 Harfoot a ffrind Nori; mae wedi ei magu yn Llundain.

Ymhlith y Cymry amlwg eraill sydd wedi portreadu cymeriadau Middle Earth ar y sgrin yn y gorffennol mae John Rhys-Davies, sef Gimli y corrach, a Luke Evans, yr arwr Bard the Bowman yn The Hobbit.

Pynciau cysylltiedig