Pryd mae gair yn cyfri'n Gymraeg?

"Geiria' newydd i'r geiriadur efallai? Osym. Lyfio. Eidial. Joio. Rili. Masif. Oes 'na fwy?"

Dyma oedd y geiriau y postiodd Derec Owen o Ynys M么n i'w dudalen Facebook fis Awst.

Ei fwriad oedd "codi sgwarnog" a thynnu coes y "keyboard warriors" meddai wrth Cymru Fyw.

"Ond ar 么l dweud hynny," eglurodd, "mae 'na elfen o ddifrifoldeb yma hefyd.

"Mae'r Cymry Cymraeg wedi mynd yn ddiog ac yn ddi-fater ac yn defnyddio llawer o'r geiria' gwneud yma, nes eu bod yn dod yn naturiol bellach.

"Mae'r defnydd o'r geiria' yma i'w gweld yn fwy aml ar y cyfrynga' cymdeithasol a teimlo bod y bratiaith yn cymryd trosodd dyddia' ma.

"Dwi'n cas谩u ambell un yn fwy na'i gilydd 鈥 么sym, lyfio, a llongyfs yn enwedig."

A ddylai'r geiriau gael eu hychwanegu i'r geiriadur?

Ond ai "bratiaith' ydyn nhw mewn gwirionedd?

Cysylltodd Cymru Fyw gyda Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC) i weld beth sy'n gwneud gair yn gymwys i fod yn y geiriadur.

Dywedodd Andrew Hawke, Golygydd Rheolaethol GPC: "Be 'dyn ni鈥檔 chwilio amdano ydi tair enghraifft annibynnol fel arfer.

"Dydyn nhw ddim yn cael bod yr un awdur, a dydyn nhw ddim yn cael bod yr un testun."

Tystiolaeth

"Dyna oedd yr hen ganllaw oedd gyda ni 鈥 oni bai bod cymaint 芒 hynny o dystiolaeth doedden ni ddim yn ystyried bod rhywbeth yn bodoli oni bai ei bod hi鈥檔 hollol amlwg, a bod pawb yn gwybod am y peth ond bo鈥 ni methu ffendio tystiolaeth arall.

"Ond mae鈥檔 rhaid penderfynu rhwng beth sy鈥檔 fenthyciad a beth sy鈥檔 gyfnewid cod a beth sy鈥檔 digwydd bod yn Saesneg yn cael ei ddyfynnu o fewn y Gymraeg.

"Felly os 'dyn ni鈥檔 gweld unrhyw air benthyg sydd wedi cael ei dderbyn, neu wedi ennill ei blwyf yn Gymraeg, os ydyn ni鈥檔 gweld enghraifft o hynny鈥檔 gynnar mewn cyd-destun Cymraeg 'dyn ni鈥檔 dyfynnu hynny yn y geiriadur i ddangos y broses mewn gwirionedd.

"Ein bod ni鈥檔 dangos, efallai bod yr enghraifft gynharaf 'na yn gallu bod yn enghraifft o air benthyg.

"Mae鈥檔 dangos y broses fod y gair yn gyfarwydd ac wedyn nes ymlaen mae鈥檔 cael ei lyncu mewn i鈥檙 iaith."

Ffynhonnell y llun, Geiriadur Prifysgol Cymru

Disgrifiad o'r llun, Yw 'ffrynt' yn air Cymraeg? Cafodd 'ffrynt' ei ychwanegu i GPC yn 1967

Mae Dr Iwan Rees yn dafodieithegydd cyfoes, ac yn uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Yn ei ymateb i eglurhad GPC am sut mae dewis geiriau benthyg i'r geiriadur, dywedodd eu bod "datblygu methodoleg gadarn ar gyfer cydnabod geiriau benthyg yn y Gymraeg".

"Mae'n amlwg nad ar hap a damwain y mae benthyceiriau yn cael eu hychwanegu, ond yn hytrach ar sail tystiolaeth gwahanol awduron a thestunau," meddai.

"Wedi dweud hynny, mae yna sawl ystyriaeth neu gymhlethdod yn codi nad oes yna atebion syml iddyn nhw."

Benthyciadau a newid cod

Newid cod yw'r arfer o gymysgu dwy iaith wahanol mewn geiriau eraill, e.e. 'hapno', '(en)joio' neu 'pract(e)isio', ac mae'r ffin rhwng hynny a benthyg geiriau'n denau iawn, yn 么l Dr Rees.

"Maent [y geiriau uchod] wedi cyrraedd y Geiriadur, felly maen nhw'n amlwg yn cael eu trin fel 'benthyciadau sydd wedi ennill eu plwyf' 鈥 hyd yn oed os oes ambell un o'r rhain ar drai ar lafar mewn gwirionedd."

Disgrifiad o'r llun, Dr Iwan Rees

"Ar y llaw arall, ac yn y cyd-destun hwnnw, mi ellid dadlau ei bod hi'n syndod nad ydi ffurfiau cyffredin eraill fel 'jympio'/鈥榡wmpo鈥 (na 'jwmp' i olygu 'naid' o ran hynny), 鈥榝feitio鈥, 鈥榮tres(i)o鈥 (er bod 鈥榝feit鈥 a 鈥榮tr猫s鈥 yno), 鈥榦fyrte(i)cio鈥, 鈥榳injian鈥 / 鈥榳injio鈥 na 'lyfio' wedi cyrraedd y Geiriadur eto 鈥 mewn geiriau eraill, mae'n ymddangos nad ydyn nhw'n cael eu hystyried yn eiriau benthyg dilys eto.

"Mae'r gwahaniaeth yma felly rhwng benthyciadau a chyfnewid cod yn gallu ymddangos yn ddigon mympwyol a goddrychol i siaradwyr Cymraeg ar lawr gwlad, er gwaetha'r fethodoleg wrthrychol sydd gan y GPC."

Pryd mae geiriau'n cael eu mabwysiadu?

Eglurodd, Mr Hawke o GPC: "Beth sy鈥檔 ddiddorol ydi sut mae geiriau yn cael eu mabwysiadu.

"Wy鈥檔 cofio鈥檙 gair 鈥blurb鈥 yn arbennig, achos mae鈥檔 dangos datblygiad.

"Dwi newydd agor 鈥榖lyrb鈥 yn y geiriadur ac mae鈥檔 dweud 'Broliant ysgrifenedig byr sy鈥檔 hyrwyddo llyfr, ffilm...'

"Ac wedyn yn yr enghraifft gyntaf o 1947, mae鈥檔 dweud 'fel y dywaid y 鈥blurb鈥 y tu mewn i鈥檙 clawr...' ac mae wedi鈥檌 sgwennu mewn dyfynodau yn y Saesneg.

"Wedyn mae鈥檙 enghraifft nesaf o 1958 yn dweud 'yn y 鈥blyrb鈥 ar ei siaced lwch鈥' ac mae dal mewn dyfynodau ond mae 鈥榶鈥 ynddo fe yn lle 鈥榰鈥.

"Felly mae鈥檔 dechrau cael ffurf gair Cymraeg."

Ffynhonnell y llun, Geiriadur Prifysgol Cymru

Disgrifiad o'r llun, Yw blyrb yn air Cymraeg?

"Wedyn, erbyn yr enghraifft nesaf yn 1965 mae鈥檔 s么n am 鈥渞ai o鈥檙 blyrbiau doniol ar gyfer rhai o鈥檌 lyfrau.鈥

"Felly mae wedi cael ffurf luosog erbyn fan'na. Felly erbyn hynny mae鈥檔 air Cymraeg yn dydi?

"Does dim dyfynodau felly mae wedi cael ei dderbyn i鈥檙 iaith ac mae鈥檔 cael ei drafod fel gair Cymraeg wedyn.

"Pan fydd geiriau鈥檔 dechrau cael eu treiglo, mae鈥檔 arwydd eu bod nhw wedi cael eu normaleiddio i鈥檙 iaith.

"Ond lle mae pethau yn cadw eu ffurf wreiddiol, mae 'na amheuaeth wedyn a ydyn nhw wedi cael eu derbyn neu beidio."

Llafar yn erbyn Ysgrifenedig

Ym marn Dr Rees, mae'n rhaid ystyried a yw trefn GPC yn rhoi statws israddol i Gymraeg llafar. Dywedodd:

"Mae yna werth mawr i dystiolaeth destunol o wahanol gyfnodau. Ond mae yna beryg er hynny i holl ddeinamigrwydd yr iaith lafar gael ei ystyried yn israddol neu'n eilradd i Gymraeg ysgrifenedig, sy'n aml yn llai amrywiol.

"Mae'n si诺r gen i mai dyrchafu'r ysgrifenedig yn y modd yma sydd i gyfri' am rai bylchau yn y Geiriadur."

'Rom bach' o amrywiaeth?

"Cymerwch, er enghraifft, yr ymadrodd, 'rom bach' i olygu 'ychydig'; rhywbeth glywais i droeon ym Mhen Ll欧n ac sy'n cael lle amlwg yn Capten, nofel gampus Meinir Pierce Jones.

"Yn yr un modd, does dim s么n am 'jaman' yn y Geiriadur, sef term digon cyffredin ymhlith to iau Caernarfon sydd rywsut wedi datblygu i olygu'r gwrthwyneb i 'jami' - benthyciad arall sydd ar goll - sef anlwc neu anffawd.

"Benthyciad diddorol arall sy'n absennol o'r Geiriadur ydi 'getaw锚', ffurf sydd wastad yn enw yn y Gymraeg ac yn dilyn 'cael', fel yn 'cael brecwast'.

"Os meddyliwch chi am hyn, mae hyn yn wahanol iawn i'r Saesneg lle mae'r get neu'r got ar y dechrau yn aml yn ferfau go iawn.

"Mewn gwirionedd, byddai cyfieithu 'cael getaw锚' yn llythrennol i'r Saesneg yn swnio'n Gymreigaidd iawn mewn sawl cyd-destun!"

Ffynhonnell y llun, CorCenCC

Atebion posib

Er mwyn dyrchafu amrywiaeth Cymraeg llafar, awgrym Dr Rees ydi defnyddio corpora iaith lafar fel Corpws Siarad Prifysgol Bangor neu CorCenCC, sy'n fwy diweddar, yn enwedig wrth olrhain datblygiad rhai geiriau.

Ychwanegodd: "Yn sicr, mae cyfle i eiriadurwyr a sosioieithyddion gydweithio'n agosach ar gyfer mynd i'r afael 芒 sawl cymhlethdod dyrys.

"Mae'n bosib hefyd y bydd gan Gymraeg ansafonol y cyfryngau cymdeithasol ran ganolog i'w chwarae wrth eiriadura yn y dyfodol."