Menter M么n: 'Rhai prosiectau yn y fantol heb cyllid tymor hir'

Ffynhonnell y llun, Cyngor Cymuned Llanfairpwll

Disgrifiad o'r llun, Rhai o'r gwirfoddolwyr yng Ng诺yl Go Go Goch eleni a gafodd ei chynnal yn Llanfairpwll ym mis Mai gyda chymorth Menter M么n
  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Newyddion S4C

Mae Menter M么n yn rhybuddio y gallai rhai prosiectau cymunedol ddod i ben a swyddi eu torri oni bai bod sicrwydd hir dymor i'w cyllid.

Yn 么l y fenter ddi-elw mi fydd y gronfa sy'n ariannu nifer o brosiectau cymunedol ar draws yr ynys yn dod i ben yn ystod y misoedd i ddod, ac er bod 'na arwydd o gymorth yn y Gyllideb ddydd Mercheer, mae'r sefyllfa'n parhau'n aneglur ac ansicr.

Yn 么l un prosiect cymunedol wnaeth elwa o gronfeydd y fenter, mae鈥檙 gefnogaeth a chyllid wedi bod yn amhrisiadwy.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod am drafod camau nesaf y gronfa a ddaeth yn lle arian Ewropeaidd "gynted 芒 phosib" gyda Llywodraeth y DU a bod bwriad "i ddatblygu model newydd, tymor hwy".

Ffynhonnell y llun, Cyngor Cymuned Llanfairpwll

Disgrifiad o'r llun, Plant yn perfformio yng Ng诺yl Go Go Goch - digwyddiad oedd 芒'r nod o ddod 芒 phobl leol at ei gilydd

Mi sefydlwyd Menter M么n ym 1996 er mwyn mynd i鈥檙 afael, yn y lle cyntaf, 芒 heriau yng nghefn gwlad yr ynys.

Erbyn hyn mae tua 80 o bobl yn gweithio i鈥檙 sefydliad sy'n cefnogi cymunedau, arwain ar brosiectau ynni adnewyddadwy ac yn hybu鈥檙 economi leol.

Tra bod sicrwydd cyllidebol i rai o鈥檙 prosiectau mwyaf, fel cynllun ynni Morlais, mae 'na boeni y bydd cyllid o gronfa SPF (Y Gronfa Ffyniant Gyffredin) Llywodraeth y DU yn dirwyn i ben.

"Ers inni adael Ewrop mae lot o'r arian yn arian tymor byr," meddai Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter M么n.

"Efo Ewrop mi oedd 'na gynlluniau chwe mlynedd lle roeddach chi'n gallu creu cynlluniau ystyrlon efo sicrwydd, lle ar hyn o bryd 'dan ni'n dibynnu ar gronfa SPF ac ar hyn o bryd mae hwnnw'n gyfnodau o flwyddyn neu ddwy."

Disgrifiad o'r llun, Tymor byr yw'r cyllid sydd ar gynnig ers i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, medd Dafydd Gruffydd o Fenter M么n

Yn 么l Dafydd Gruffydd mae 'na beryg os na fydd cyllid gyda sicrwydd yn eu cyrraedd y bydd yn rhaid i rai prosiectau ddod i ben a phenllanw hynny fyddai torri swyddi.

Yn ystod y Gyllideb ddydd Mercher fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU gyllid gwerth 拢900m i gronfeydd SPF, ond mae 'na ddryswch o hyd - a fydd hynny'n cyrraedd Cymru ac os fydd, sut?

O blith y rheini sydd wedi elwa o gronfeydd tebyg mae Cyngor Cymuned Llanfairpwll.

Ddiwedd Mai fe gynhaliwyd G诺yl Go Go Goch, oedd yn ymgais i ddod 芒'r gymuned ynghyd.

Disgrifiad o'r llun, Mae'n anodd sicrhau arian cyhoeddus ar gyfer digwyddiadau cymunedol, medd Bethan Williams o Gyngor Cymuned Llanfairpwll

"Oeddan ni'n teimlo nad oedd 'na lot o bethau cymunedol oedd yn dod 芒 phobl o wahanol oedrannau ynghyd 芒 lle roedd pobl yn dod at ei gilydd i wrando ar bethau yn yr iaith Gymraeg," meddai Bethan Williams o'r cyngor cymuned.

"Heb y gefnogaeth gan Menter M么n 'san ni heb wedi gallu gwneud yr 诺yl o gwbl.

"Does na'm pres cyhoeddus i fod yn gwneud pethau fel hyn, felly mae cael pres yn benodol ar gyfer pethau cymunedol wir mor bwysig."

Disgrifiad o'r llun, Mae Gareth Jewell wedi elwa o gefnogaeth gan Fenter M么n

Un arall sydd wedi elwa ydy Gareth Jewell a'i wraig Nia.

Dan faner cwmni Pethau Bychain, maen nhw wrthi'n creu cyfres o fideos i'w darlledu mewn ysgolion ac i blant ifanc, i ddangos bod yr iaith Gymraeg yn fwy na iaith yr ystafell ddosbarth.

"Os 'swn i ddim wedi cael y gefnogaeth yna 'sa hyn ddim yn bodoli," meddai Mr Jewell.

"Ma'n rhaid inni alluogi bod pobl leol yn cael y pres i wneud beth maen nhw ishe ei wneud - nhw sy'n iawn, a ni sy鈥檔 iawn."

'Trafodaethau manwl gynted 芒 phosib'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn dechrau trafodaethau manwl gyda Llywodraeth y DU cyn gynted 芒 phosibl ar y camau nesaf ar gyfer cyllid pontio SPF i sicrhau bod blaenoriaethau buddsoddi yn cyd-fynd ag uchelgeisiau mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ei rannu.

"Bydd y fframwaith ariannol ar gyfer 么l-2026 yn rhan o gam 2 yr Adolygiad o Wariant fydd yn adrodd yn y gwanwyn a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'n partneriaid yng Nghymru i ddatblygu model newydd, tymor hwy sy'n adfer datganoli ac yn dychwelyd ymreolaeth dros wneud penderfyniadau i Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y sbardunau strategol ar gyfer twf."