Carcharu heddwas gafodd ei 'gymell gan gasineb at fenywod'

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent

Disgrifiad o'r llun, Roedd Nathan Collings wedi ei "gymell gan gasineb at fenywod", clywodd y llys

Mae cyn-heddwas wedi ei garcharu am stelcio, rheoli menywod drwy orfodaeth a bygwth rhyddhau lluniau rhywiol preifat.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Nathan Collings, 34, wedi ei "gymell gan gasineb at fenywod" pan dargedodd ei dioddefwyr a rheoli eu bywydau.

Roedd wedi monitro eu ffonau symudol gydag apiau tracio, a defnyddio camer芒u anifail anwes i gadw golwg ar ddwy fenyw.

Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a hanner ar 么l pledio'n euog i stelcio, ymddygiad rheolaethol a rheoli drwy orfodaeth, a bygwth rhyddhau lluniau neu ffilmiau rhywiol preifat.

Clywodd y llys bod Collings, o Abertyleri ym Mlaenau Gwent, yn rheoli faint o amser roedd menywod yn ei dreulio gyda theulu a ffrindiau.

Roedd wedi yn dilyn un o'r dioddefwyr adref, cymryd ei hallweddi a mynd i mewn i'w th欧 heb ganiat芒d.

Roedd hefyd yn monitro ei chyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac yn parcio tu allan i'w th欧 er mwyn ei gwylio.

Cafodd Collings ei ddiswyddo heb rybudd gan Heddlu Gwent ar 么l i wrandawiad camymddygiad brys ddarganfod bod "elfen o ennill a boddhad rhywiol" i'w ymddygiad.

Plediodd yn euog i chwe chyhuddiad yn y llys.

Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Rachel Williams, bod "troseddau Nathan Collings yn ddychrynllyd ac yn warthus".

"Rydym yn cydnabod yn llawn yr effaith sylweddol mae'r mathau yma o droseddau yn ei gael ar ddioddefwyr."