大象传媒

Rhieni dan bwysau yn sgil costau gofal plant dros wyliau'r haf

Kate Shivers-Poole
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai gweithio llawn amser yn "ddibwynt" pe bai hi鈥檔 anfon ei phlant i glwb chwarae bob dydd, yn 么l Kate Shivers-Poole

  • Cyhoeddwyd

Mae cost gofal plant dros yr haf yn cosbi nifer o deuluoedd sy鈥檔 gweithio, medd rhieni ac ymgyrchwyr.

Cymru sydd 芒鈥檙 pris uchaf yn y DU am wythnos o ofal plant yn ystod y gwyliau eleni, yn 么l ymchwil gan yr elusen Coram Family and Childcare.

Dywed Kate Shivers-Poole o Dreorci, sy鈥檔 fam i ddau o blant, fod gofal plant wedi cael effaith bositif ar ddatblygiad ei mab.

Ond byddai gweithio llawn amser yn "ddibwynt" pe bai hi鈥檔 anfon ei phlant i glwb chwarae bob dydd, meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cynnig gofal am ddim i blant tair a phedair oed am 48 wythnos y flwyddyn, o'i gymharu 芒 38 yn Lloegr.

Mae plant Ms Shivers-Poole, sy鈥檔 bump a 10 oed, yn mynd i glwb Dylan鈥檚 Den yng nghwm Rhondda.

鈥淵n ystod y gwyliau, pe bai fy nau o blant yn mynd i鈥檙 clwb bob dydd, byddai'r gost yn bron i 拢1,000 am dair wythnos,鈥 meddai.

鈥淏yddai鈥檔 hollol ddibwynt mynd i鈥檙 gwaith pe bawn i am wneud hynny am bum diwrnod bob wythnos.鈥

Wedi oedi gydag agweddau o鈥檌 ddatblygiad, dywed Ms Shivers-Poole i'w mab ddechrau siarad pan fynychodd Dylan鈥檚 Den.

Yn 么l y fam 41 oed, fe allai rhai plant fod yn colli mas ar gyfleoedd i ddatblygu oherwydd diffyg cymorth ariannol i rieni sy鈥檔 gweithio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cost gofal plant yn ystod y gwyliau yn y DU wedi codi 6% ers y llynedd

Dylai rhieni sy鈥檔 gweithio gael cymorth gyda chost darpariaeth gofal plant nes bod eu plentyn yn troi鈥檔 11 oed, yn 么l sylfaenydd y clwb Kathryn Williams.

鈥淵 gost fwyaf yng ngofal plant yw costau staffio,鈥 meddai.

"Mae hi'n anodd i ddarparwyr gael dau ben llinyn ynghyd ac mae'n anodd iawn i rieni hefyd."

Ychwanegodd y byddai ymestyn y gefnogaeth yn gwneud "gwahaniaeth enfawr" i rieni.

Mae cost gofal plant yn ystod y gwyliau yn y DU wedi codi 6% ers y llynedd, yn 么l arolwg gan Coram Family and Childcare.

Yng Nghymru, mae data鈥檔 awgrymu bod costau wedi codi 15%.

Cymru oedd 芒鈥檙 pris wythnosol uchaf, sef 拢209.

Yn Lloegr, y gost wythnosol oedd 拢173 ar gyfartaledd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n bwysig i Non Stevens bod ei phlant yn parhau i ddefnyddio eu Cymraeg yn ystod y gwyliau

Mae plant Non Stevens yn mynychu Clwb Carco yng Nghaerdydd ar 么l oriau ysgol.

Bydden nhw hefyd yn mynd i glybiau eraill dros wyliau'r haf gan gynnwys sesiynau sy鈥檔 cael eu darparu gan yr Urdd.

"Ni鈥檔 meddwl bob haf, sut ydyn ni鈥檔 mynd i sicrhau bod y plant yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, gweld plant eraill, chwarae a hefyd y balans o fforddio hynny - ond nid just fforddio, ond gorfod talu am chwe wythnos, pum diwrnod yr wythnos," meddai Ms Stevens.

"Mae鈥檔 bwysig i fi bod y plant yn parhau i ddefnyddio eu Cymraeg dros yr haf hefyd.

"Pan oedden nhw鈥檔 iau roedden ni wedi cael bach mwy o help, ond eleni ry'n ni wedi troi at nain a taid ychydig mwy ond hefyd pethau fel yr Urdd sy鈥檔 darparu鈥檔 wych am 拢12 y diwrnod."

Rhai plant yn 'colli cyfle'

Dywedodd Rachel James, sy'n fam i ddau o blant, bod rhan fawr o incwm y teulu yn mynd at ofal plant.

"Mae鈥檙 plant yn elwa鈥檔 fawr trwy ddod i鈥檙 clwb, a'r ffaith eu bod yn gallu gwneud hynny dros yr haf.

"Ni'n ffodus iawn bod nhw'n gallu gwneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg - mae hwnna鈥檔 elfen hanfodol."

Ychwanegodd Ms James: "Fi鈥檔 teimlo yng Nghymru unwaith mae plant yn dod mewn i addysg llawn amser mae鈥檙 gefnogaeth ariannol yn diflannu ac mae rhai pobl yn gallu fforffio hynny ond dyw lot ddim yn gallu, ac mae hynny鈥檔 golygu bod rhai plant yn colli鈥檙 cyfle i ddod i rywle fel hyn dros yr haf.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jane O鈥橳oole yw prif weithredwr Clybiau Plant Cymru

Mae Clybiau Plant Cymru, sy'n cynrychioli鈥檙 sector gofal plant y tu fas i oriau ysgol, yn awyddus i bwysleisio'r effeithiau cadarnhaol y mae cyfleoedd i chwarae yn gallu ei gael ar ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant ifanc.

Dywedodd y prif weithredwr, Jane O鈥橳oole, y gall rhieni sydd 芒 phlant mewn clybiau gofal sydd wedi鈥檜 cofrestru dderbyn gwahanol fathau o gefnogaeth ariannol, er enghraifft gofal plant di-dreth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "gofal plant fforddiadwy a hygyrch yn helpu rhieni i weithio, gan gefnogi ein hymgyrch i gynyddu twf economaidd, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau".

Ychwanegodd fod y cynnig ar gyfer plant tair a phedair oed yn 30 awr o ofal am ddim bob wythnos, am 48 wythnos y flwyddyn i rieni cymwys.

Mae鈥檙 cynnig yn ddilys i rieni sydd hefyd mewn addysg neu hyfforddiant.

"Mae hyn yn cynnwys peth darpariaeth gwyliau [ac] yn cael ei gymharu 芒 38 wythnos y flwyddyn yn Lloegr, ar gyfer rhieni sy'n gweithio yn unig."

Pynciau cysylltiedig