大象传媒

Pum munud gyda Bardd y Mis: Lowri Hedd Vaughan

Lowri Hedd VaughanFfynhonnell y llun, Gwenno Llwyd Till
  • Cyhoeddwyd

Un o Ynys M么n yw Bardd y Mis Radio Cymru fis Awst.

Mae Lowri Hedd Vaughan, sy'n dod o Fodffordd, yn 38 mlwydd oed ac yn fam sengl i dri o blant, ac yn nain i un.

Gan ddisgrifio ei hun fel 鈥渂regus, balch, doeth a dwl鈥 dywedodd ei bod wedi 鈥渁nghofio sut i fod yn greadigol am dros 15 mlynedd ar 么l dod yn fam yn fy arddegau鈥.

Collodd ffrind agos iddi yn ei hugeiniau, a daeth y geiriau yn 么l i鈥檞 helpu i ddelio gyda鈥檌 galar, meddai.

Rwyt ti wedi dweud i ti golli鈥檙 awen greadigol am 15 mlynedd. Beth wnaeth dy ysgogi i ail-gydio mewn barddoni?

O鈥檔 i鈥檔 berson ifanc eitha鈥 creadigol; yn y clwb drama, cerddoriaeth, drama a chanu a wedyn ddois i鈥檔 fam pan o鈥檔 i鈥檔 16. Ac yn yr holl storom yna, nes i ganolbwyntio鈥檔 llwyr ar fagu plentyn a gadael fynd o unrhyw beth arall oedd wedi bod yn rhan o 鈥檓ywyd i tan hynny.

鈥橬aeth hynny jyst dod yn ffordd o fyw am amser hir iawn. Gofalu amdanyn nhw, trio mynd yn 么l i鈥檙 ysgol, trio mynd yn 么l i astudio, trio dechrau gyrfa. Dyna oedd y flaenoriaeth.

'Oedd creadigrwydd yn teimlo fel rhyw fflwff ar yr ochrau; rhywbeth 鈥檚a yn neis ei gael ella, ond ddim yn flaenoriaeth ar y pryd.

Nid yw鈥檙 post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges instagram gan geiriaugwain

Caniat谩u cynnwys Instagram?

Mae鈥檙 erthygl yma鈥檔 cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen a cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges instagram gan geiriaugwain

Yna, ar ddiwedd fy ugeiniau 鈥檔es i golli ffrind ysgol agos iawn. Ar 么l hynny, 鈥檔es i eistedd ac ysgrifennu rhyw bwt o gerdd bach i gofio amdano fo. A hwnnw oedd y tro cynta鈥 i mi eistedd i lawr a sgwennu, dw i鈥檔 meddwl, ers i mi fod yn yr ysgol.

鈥橬es i鈥檓 wir meddwl llawer o hynny ar y pryd ond yn ara鈥 deg mi ddaeth yr ysfa 鈥檓a i chwarae efo geiriau yn 么l. O鈥檔 i鈥檔 ffendio鈥檔 hun yn llenwi nodiadau llais ar fy ff么n neu鈥檔 llenwi llyfrau sgwennu efo syniadau bach.

Yna, dros amser dechrau eu rhannu efo ambell berson ac ambell berson yn dweud 鈥淎rglwydd, mae rhein reit dda! Rhaid chdi eu rhannu nhw鈥.

Wedyn, yn tua 2018/19 nes i greu tudalen Instagram [i rannu fy ngwaith].

Ffynhonnell y llun, Gwenno Llwyd Till

Mae dy ddiddordebau yn cyfrannu鈥檔 helaeth at y math o waith ti鈥檔 ei greu. Faint o ysbrydoliaeth ydi byd natur i dy waith?

Byd natur ydy 鈥檔ghapel i. Mae byd natur yn rhywbeth dw i wedi dod i鈥檞 werthfawrogi fwy wrth fynd yn h欧n. Dw i鈥檔 teimlo cysur mawr o fod ym myd natur. Mae 鈥檔gyrfa i wedi symud i鈥檙 cyfeiriad hwnnw hefyd yn y blynyddoedd diwetha.

Mae crwydro a dod i 鈥檔abod fy nghynefin, dod i 鈥檔abod Eryri a M么n yn adloniant diddiwedd.

Rwyt ti鈥檔 mwynhau dringo, nofio gwyllt, a mynydda. Sut mae rhain yn dy helpu o ran iechyd a lles?

Fuodd 鈥檔a gyfnod hir yn fy mywyd i, heb i mi wir sylwi tan sb茂o鈥檔 么l, lle fues i鈥檔 isel iawn ac wedi dadgysylltu o鈥檙 byd.

Mae鈥檔 rhyfeddol o beth os ti鈥檔 gallu defnyddio dy gorff ym myd natur. Mae gwyddoniaeth wedi profi pa mor llesol ydi hynny i ni gyd 鈥 i鈥檙 galon, meddwl, corff, ysbryd, bob dim.

Ffynhonnell y llun, Gwenno Llwyd Till

Rwyt ti鈥檔 troi dy law at sawl cyfrwng o greu. Oes un rwyt ti鈥檔 ei ffafrio dros y llall?

Y geiriau sy鈥檔 dod amlaf a fwya鈥 rhwydd i raddau. Dw i yn mwynhau ffotograffiaeth. Ond y geiriau yn sicr sy鈥檔 teimlo fwyaf fel fi. 鈥機hydig bach o arbrofi ydi鈥檙 delweddau a鈥檙 creu ffilmiau.

鈥橬es i greu ffilm bach llynedd fel comisiwn i Celf Ar Y Cyd oedd yn [brofiad] gwych. Eistedd efo cerdd a wedyn meddwl am ddelweddau i gyd fynd, a鈥檜 plethu nhw efo鈥檌 gilydd.

Gobeithio ga鈥檌 amser i wneud mwy.

Disgrifiad,

Llanw rhyfeddol 鈥 ffilm a cherdd gomisiwn i Celf ar y Cyd gan fardd y mis, Lowri Hedd Vaughan

Mae cynaliadwyedd a byw yn wyrdd yn bwysig iawn i ti. Es di ar wyliau i鈥檙 Eidal ar y tr锚n yn ddiweddar. Be鈥 fyddai dy neges di i bobl eraill sydd eisiau byw鈥檔 wyrdd?

Dw i鈥檔 gwerthfawrogi鈥檔 llwyr ei fod o鈥檔 fwy o waith, mae o鈥檔 fwy o arian a dw i鈥檔 cydnabod ei fod o鈥檔 fraint 鈥檓od i wedi medru gwneud hynny.

Dw i鈥檔 gwybod dydi o ddim o fewn cyrraedd pawb. Os ydy pobl angen gwyliau, maen nhw鈥檔 gorfod ffendio鈥檙 ffordd rataf o鈥檌 wneud o.

Oedd o鈥檙 tro cyntaf i mi fynd ar wyliau mewn blynyddoedd. O鈥檔 i wedi safio am sbelan i fynd.

Dw i鈥檔 meddwl oni bai bod rhai ohonon ni鈥檔 fodlon cymryd y camau 鈥檓a er mwyn cynyddu鈥檙 galw am wasanaethau trenau gwell... mwya鈥檔 byd 鈥檇an ni鈥檔 eu defnyddio nhw, rhata鈥檔 byd y down nhw mewn amser.

Heb drio bod yn ferthyr na dim byd felly, mae鈥檔 teimlo fel y peth iawn i fi 鈥檔eud. Ond dw i鈥檔 parchu鈥檔 llwyr bod rhaid i bobl wneud beth sy鈥檔 iawn iddyn nhw a鈥檜 teuluoedd.

Ffynhonnell y llun, Cyfranydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lowri gyda'i mab Gruff ar wyliau gwyrdd yn Yr Eidal

Beth wyt ti鈥檔 edrych ymlaen amdano fwyaf fel Bardd y Mis?

Beth sy鈥檔 gr锚t ydi cael y terfyn amser 鈥檓a. Mae gen i gymaint o weithiau ar eu hanner, a hanner syniadau a petha鈥. Mae cael rheswm a鈥檙 wmff 鈥檔a i eistedd lawr a golygu petha鈥 a gwau darnau gwahanol at ei gilydd yn werthfawr iawn.

Beth sydd ar y gweill gen ti a dy obeithion di at y dyfodol dros y misoedd nesa鈥?

Fues i ar gwrs comedi llynedd yn edrych ar sawl agwedd o gomedi. 鈥橲wn i byth isio perfformio felly 鈥檓ond sgwennu.

Fues i ar gwrs yn Nh欧 Newydd yngl欧n 芒 sgwennu am yr argyfwng hinsawdd oedd yn s么n am pa mor bwysig ydi dod 芒鈥檙 them芒u a datrysiadau i鈥檙 ffordd o fyw sydd angen digwydd er mwyn ymateb i鈥檙 argyfwng hinsawdd, a sut 鈥檇an ni鈥檔 prif-ffrydio rheina.

Sut mae dod 芒 pethau fel trwsio dillad neu fenthyg offer garddio i ymwybod mwy cyffredinol y boblogaeth. A nes i feddwl, mae comedi yn ffordd dda o wneud hynny.

Dw i鈥檔 perthyn i wahanol gymunedau o ddiddordeb [i鈥檙 pwnc], a dw i鈥檔 gweld y digri, a鈥檙 dwl, a鈥檙 doeth ynddo fo i gyd. Mae o鈥檔 bwll dyfn o ran digrifwch 鈥 tyfu bwyd a sut mae pobl yn trio creu bywyd mwy syml ac ysbrydol.

Mae 鈥檔a sgerbwd yna felly mi fydda i鈥檔 trio cario 鈥檓laen i ddatblygu hwnna a dod i 鈥檔abod y diwydiant achos 鈥檚gen i鈥檓 syniad pwy na be' na lle i fynd 芒鈥檙 math yma o beth.

Pynciau cysylltiedig