大象传媒

'Pryder' am ddefnydd isel o'r Gymraeg yn y Senedd

SeneddFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dim ond 1% o gwestiynau ysgrifenedig i weinidogion a gyflwynwyd yn Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae Comisiwn y Senedd yn "bryderus am y patrymau ynghylch defnydd y Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar" yn y sefydliad.

Daw'r sylw gan Adam Price, y comisiynydd 芒 chyfrifoldeb dros ieithoedd swyddogol, wedi iddi ddod i'r amlwg fod cyfraniadau Cymraeg yn isel yn y Senedd.

Dim ond 1% o gwestiynau ysgrifenedig i weinidogion a gyflwynwyd yn Gymraeg yn 2023-24, a dim ond 3% o'r cynigion sy'n cael eu trafod mewn cyfarfodydd llawn a gyflwynwyd yn Gymraeg.

Dim ond 9% o drafodion pwyllgorau oedd yn Gymraeg yn 2023-24, o gymharu 芒 12% yn 2021-22 ac 8% yn 2022-23.

Mae canran y cyfraniadau Cymraeg mewn cyfarfodydd llawn wedi gostwng ychydig i 28%, o 30% yn y ddwy flynedd flaenorol.

Mae Si芒n Gwenllian, AS Arfon, wedi dweud fod y Senedd yn gweithredu dan fframwaith sy'n "hyrwyddo dewis iaith yn hytrach na鈥檙 Gymraeg" sy'n "tanseilio'r ymdrechion" i hyrwyddo鈥檙 Gymraeg "ac yn beth od iawn i'w wneud".

'Ffigyrau'n destun pryder'

O ran dewis iaith yr aelodau wrth gyflwyno busnes, ymatebodd Comisiwn y Senedd - sy'n rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd - bod "hyfforddiant ar gael i aelodau a staff cymorth sy鈥檔 dymuno gwella eu sgiliau Cymraeg ysgrifenedig, a byddwn yn mynd ati i hyrwyddo鈥檙 hyfforddiant ymhellach er mwyn sicrhau eu bod yn hyderus i ddefnyddio鈥檜 sgiliau wrth gyflwyno busnes".

O ran canran y cyfraniadau Cymraeg mewn cyfarfodydd pwyllgorau a chyfarfodydd llawn, dywedodd Comisiwn y Senedd: "Gall aelodau dderbyn cefnogaeth yn eu dewis iaith swyddogol wrth baratoi ar gyfer trafodion y cyfarfod llawn a phwyllgorau, gan gynnwys dogfennau briffio.

"Mae nifer o faterion allanol yn effeithio ar ganran y cyfraniadau gan gynnwys dewis iaith tystion sy鈥檔 rhoi tystiolaeth i bwyllgorau, a natur llai strwythuredig y trafodaethau mewn cyfarfodydd pwyllgorau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae canran y cyfraniadau Cymraeg mewn cyfarfodydd llawn wedi gostwng ychydig i 28%, o 30% yn y ddwy flynedd flaenorol

Serch hynny, meddai'r Comisiwn, "mae鈥檙 ffigyrau yn destun pryder".

"Byddwn yn parhau gyda鈥檔 hymdrechion i sicrhau bod aelodau ac eraill sy鈥檔 cymryd rhan mewn trafodion yn ymwybodol o鈥檜 hawl i ddefnyddio鈥檜 dewis iaith mewn trafodion, ac yn hyderus i wneud hynny.

"Yn ogystal 芒 pharhau i ddarparu gwasanaethau megis hyfforddiant wedi鈥檌 deilwra i鈥檙 Aelodau sy鈥檔 dysgu Cymraeg, dogfennau briffio dwyieithog a geirfaoedd, byddwn hefyd yn mynd ati i ymgysylltu ag Aelodau, Staff Cymorth a Staff y grwpiau i drafod y mater.

"Y bwriad yw deall yn well y rhesymau dros y gostyngiad mewn cyfraniadau Cymraeg, a thrafod pa fath o gefnogaeth fyddai鈥檔 eu hannog i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn trafodion."

Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion ffurfiol gan y Comisiwn am eu darpariaeth o ran cydymffurfio 芒鈥檙 Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn 2023-24.

Dywedodd Adam Price: "Byddaf yn trafod gyda fy nghyd aelodau o鈥檙 Comisiwn a fforymau allweddol eraill, megis Fforwm y Cadeiryddion Pwyllgorau, pa gamau ymarferol pellach y gallwn eu rhoi ar waith dros y misoedd nesaf gyda golwg ar geisio adfer perfformiad i lefelau blaenorol yn y lle cyntaf, ac i esgor ar ragor o ddefnydd o鈥檙 Gymraeg wrth i aelodau a鈥檜 staff gyflwyno busnes yn ysgrifenedig ac i ddefnyddio鈥檙 Gymraeg ar lafar yn nhrafodion y Cyfarfod Llawn a鈥檙 Pwyllgorau maes o law."

Ychwanegodd: "Fel aelodau, partneriaid, ac heb os, fel dinasyddion Cymru, rwyf am i ni herio鈥檔 gilydd a holi: beth mwy sydd angen ei wneud i sicrhau y gellir ymwneud yn llwyr ac yn ddirwystr 芒 busnes a gwaith y Senedd yn Gymraeg, fel y gellir ei wneud yn Saesneg ar hyn o bryd?

"Sut mae sicrhau bod y Gymraeg yn wirioneddol gydradd 芒鈥檙 Saesneg yn ein trafodion ac yng ngweinyddiaeth y Senedd?

"Ac yn bwysicach oll, sut ydym ni鈥檔 atebol i鈥檙 bobl ydym ni鈥檔 eu gwasanaethu 鈥 sef dinasyddion Cymru 鈥 am ein perfformiad ac yn chwarae ein rhan yn yr ymdrech genedlaethol, drawsbleidiol, i gynllunio dyfodol i鈥檙 Gymraeg?"

Tra bod cyfraniadau Aelodau o'r Senedd mewn cyfarfodydd llawn yn cael eu cyfieithu ar gyfer cofnod y Senedd, mae trawsgrifiadau o'r pwyllgorau yn cynnwys cyfieithu o Gymraeg i Saesneg yn unig.鈥

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Adam Price ei fod "am i ni herio鈥檔 gilydd" ynghylch y defnydd o'r Gymraeg yn y Senedd

'Peth od iawn'

Mewn dadl yn y Senedd brynhawn Mercher, dywedodd Si芒n Gwenllian, AS Arfon, fod ganddi "bryderon am sut mae鈥檙 Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a鈥檌 defnyddio" yn y Senedd.

Esboniodd, "mae鈥檙 Senedd yma yn gweithredu o dan fframwaith cyfreithiol sy鈥檔 rhoi pwyslais ar hyrwyddo dewis iaith, yn hytrach na hyrwyddo鈥檙 Gymraeg".

"Ond mae pob dim rydyn ni鈥檔 ei wybod am gynllunio ieithyddol yng Nghymru, ac yn wir, polisi iaith cenedlaethol Cymru, yn pwysleisio hyrwyddo鈥檙 Gymraeg.

"Yn anffodus, mae鈥檙 fframwaith presennol, sydd yn arwain at hyrwyddo dewis iaith yn hytrach na鈥檙 Gymraeg, yn tanseilio'r ymdrechion ac yn beth od iawn i fod yn ei wneud."

Atebodd Adam Price, 鈥渞y鈥 ni yn trin y ddwy iaith yn gyfartal, yn hytrach na hyrwyddo. Ac, wrth gwrs, does dim problem gyda ni yn y Senedd yngl欧n 芒'r Saesneg鈥.

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Si芒n Gwenllian: "Tanseilio'r ymdrechion ac yn beth od iawn i fod yn ei wneud"

O ran y defnydd isel o'r Gymraeg mewn pwyllgorau, dywedodd AS Plaid Cymru Heledd Fychan, "mae hi鈥檔 anodd os ydych chi鈥檙 unig berson sydd yn defnyddio鈥檙 Gymraeg ar adegau".

"Mae yna r么l bwysig gan y cadeiryddion, dwi鈥檔 credu, o ran atgoffa, pan mae tystion yn dod i fewn, bod croeso iddyn nhw ateb yn y Gymraeg."

Dywedodd AS Llafur Delyn, Hannah Blythyn: "Fis diwethaf, fe wnes i fy arholiad Cymraeg cyntaf".

"Dwi鈥檔 hapus i fod yn dysgu Cymraeg, a dwi鈥檔 ceisio defnyddio ychydig o Gymraeg pan allaf i.

"Dwi鈥檔 cefnogi cynllun Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae鈥檙 cynllun ieithoedd swyddogol yn cefnogi hyn".

Dywedodd Tom Giffard AS bod y Ceidwadwyr Cymreig "yn gwybod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a hefyd pwysigrwydd rydym ni fel Senedd yn rhoi fel enghraifft i bobl, dwi鈥檔 credu, ar draws Cymru, am beth rydych chi鈥檔 gallu gwneud yn y Gymraeg a defnyddio鈥檙 Gymraeg drwy鈥檙 dydd".

Pam gosod is-ddeddfwriaeth yn Saesneg yn unig?

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Senedd Cymru wedi bod yn ceisio mynd i'r afael 芒 mater hirsefydlog yn ymwneud 芒 rhai mathau o is-ddeddfwriaeth sy'n cael eu gosod yn Senedd Cymru yn Saesneg yn unig.

Esboniodd Comisiwn y Senedd: "Pan mae'n ofynnol gosod rhai mathau o is-ddeddfwriaeth yn y Senedd a Senedd y DU, mae Llywodraeth Cymru o鈥檙 farn 鈥 gan nad oes unrhyw weithdrefnau seneddol arferol yn bodoli yn San Steffan ar gyfer gosod offerynnau statudol dwyieithog 鈥 fod yn rhaid eu gosod yn y Senedd yn uniaith Saesneg.

"Mae'r pwyllgor a'i ragflaenwyr wedi dwyn achosion o'r fath i sylw'r Senedd.

"Fodd bynnag, yn hydref 2023 penderfynodd ofyn i bwyllgorau yn Senedd y DU am eu barn ar y rhwystrau gweithdrefnol a ddisgrifiwyd gan Lywodraeth Cymru.

"Ym mis Ionawr 2024, ymatebodd pwyllgorau gweithdrefnau dau D欧'r Senedd i'r pwyllgor yn dweud nad oes unrhyw weithdrefnau'n atal gosod offerynnau dwyieithog yn y naill D欧 neu'r llall.

"Yn dilyn hynny, trosglwyddodd y pwyllgor y wybodaeth hon i Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru."

Dywedodd Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw: "Rwy鈥檔 hynod falch nodi bod pwyllgorau perthnasol Senedd y DU wedi cadarnhau nad oes rhwystrau gweithdrefnol rhag gosod offerynnau dwyieithog ger eu bron".

"Rydym wedi ymrwymo i wella hygyrchedd y gyfraith ac fel rhan o鈥檔 gweledigaeth ar gyfer hybu a hwyluso鈥檙 Gymraeg fel iaith y gyfraith, rydym am weld pob offeryn statudol, gan gynnwys cyd-offerynnau ac offerynnau cyfansawdd, yn cael eu gwneud yn ddwyieithog".

Ond ychwanegodd, "oni bai bod Llywodraeth y DU am newid ei safbwynt hirsefydlog mai yn Saesneg yn unig y dylid gwneud cyd-offerynnau, a hyd nes i hynny ddigwydd, cawn ein llesteirio gan rwystr sylweddol rhag gwneud cyd-offerynnau yn ddwyieithog.

"Mae鈥檔 destun siom mai cyfyngedig yw鈥檙 datrysiadau sydd ar gael inni ar gyfer newid hyn".