Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Salwch ymhlith staff Ysgol Syr Hugh Owen yn 'argyfwng'
- Awdur, Dafydd Evans
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae lefel 鈥渁narferol o uchel鈥 o salwch ymhlith staff yn achosi problemau mewn ysgol yng ngogledd Cymru, yn 么l y cyngor lleol.
Mae Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon yn wynebu trafferthion oherwydd bod cymaint o staff wedi bod i ffwrdd o鈥檙 gwaith dros yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod nhw鈥檔 gweithio gyda鈥檙 ysgol i geisio lleihau unrhyw effaith ar addysg disgyblion.
Yn 么l undeb athrawon NASUWT, maen nhw'n trafod y sefyllfa gyda鈥檜 haelodau yn yr ysgol.
Mae gan Ysgol Syr Hugh Owen 875 o ddisgyblion o Gaernarfon a鈥檙 ardaloedd gwledig cyfagos.
Mae yno 52 o athrawon a 34 o aelodau staff cynorthwyol.
Lefelau staffio 'bregus'
Yn 么l ffynhonnell sy鈥檔 adnabod yr ysgol yn dda, mae鈥檙 sefyllfa yno ar hyn o bryd yn 鈥渁rgyfwng鈥, ond nid yw鈥檔 unigryw i Ysgol Syr Hugh Owen.
Mae lefelau 鈥渂regus鈥 o staffio ym myd addysg yn gyffredinol yn cael eu gwaethygu gan brinder athrawon cyflenwi, meddai鈥檙 ffynhonnell, oedd am aros yn ddienw.
Ychwanegodd undeb NASUWT eu bod yn paratoi i ddelio gyda鈥檙 materion yno, ond na fyddan nhw鈥檔 gwneud sylw pellach cyn i鈥檙 ysgol gael cyfle i fynd i鈥檙 afael 芒 phryderon eu haelodau.
Yn 么l Cyngor Gwynedd, mater i benaethiaid a llywodraethwyr ydy rhedeg ysgolion o ddydd i ddydd, ond bod y cyngor yn cynorthwyo ar y mater hwn.
鈥淕allwn gadarnhau ein bod yn gweithio鈥檔 agos gydag arweinwyr Ysgol Syr Hugh Owen i鈥檞 helpu i fynd i鈥檙 afael 芒 heriau o ganlyniad i lefel anarferol o uchel o salwch staff sydd wedi codi'r wythnos hon,鈥 meddai llefarydd ar ran y cyngor.
鈥淗offwn roi sicrwydd i ddisgyblion a鈥檜 rhieni bod pob ymdrech yn cael ei wneud i leihau unrhyw effaith bosibl ar addysg disgyblion ac i helpu鈥檙 ysgol i ddychwelyd i lefelau staffio llawn cyn gynted 芒 phosibl.鈥
Mae 大象传媒 Cymru wedi ceisio cysylltu gydag Ysgol Syr Hugh Owen.