G诺yl y Gelli yn atal cytundeb gyda noddwr dadleuol

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Charlotte Church yn ymgyrchydd amlwg o blaid achos a hawliau'r Palesteiniaid

Mae G诺yl y Gelli wedi atal cytundeb un o'i noddwyr wedi i amryw o artistiaid benderfynu i beidio 芒 chymryd rhan oherwydd cysylltiadau un o'i noddwyr ag Israel a chwmn茂au tanwydd ffosil.

Roedd y gantores Charlotte Church ymhlith nifer a dynnodd yn 么l o'r 诺yl mewn protest yn erbyn y cytundeb gyda'r cwmni rheoli buddsoddiadau Baillie Gifford.

Dywedodd prif weithredwr yr 诺yl, Julie Finch, bod y penderfyniad "yn sgil honiadau ymgyrchwyr a phwysau mawr ar artistiaid i dynnu'n 么l".

Ond yn 么l Baillie Gifford nae awgrym eu bod "yn fuddsoddwr mawr yn Nhiriogaethau Meddaniedig Palesteina yn ddifrifol o gamarweiniol".

Yn y cyfamser mae'r gantores Georgia Ruth wedi datgan na fydd yn cymryd rhan yng ng诺yl Latitude tra bod Barclaycard yn un o'i noddwyr.

Roedd Charlotte Church, sy'n ymgyrchu dros y Palesteiniaid, i fod yn cymryd rhan mewn sgwrs yng Ng诺yl y Gelli nos Sadwrn.

Mewn datganiad ar Instagram, dywedodd ei bod yn boicotio'r 诺yl "mewn protest yn erbyn y celfgalchu a'r gwyrddgalchu sydd yn amlwg yn y nawdd yma".

"Nid yw eich g诺yl gelfyddydol yn bwysicach na bywydau plant Palesteinaidd a dyfodol ecosystemau iach ar y ddaear, "ysgrifennodd.

"Os yw'r byd celf yn parhau i dderbyn yr arian brwnt yma, rydym oll yn dod yn gysylltiedig ag e."

'Ddim yn ddigon da'

Dywed Baillie Gifford mai dim ond 2% o arian cleientiaid sy'n cael ei fuddsoddi mewn cwmn茂au sydd 芒 rhywfaint o fusnes sy'n gysylltiedig 芒 thanwydd ffosil.

Pwysleisiodd ei "hanes hir o gefnogi llenyddiaeth a'r celfyddydau... yn y gobaith y bydd yna fuddion hirdymor i'r cyrff rydym yn cydweithio gyda hwy".

Yn 么l trefnwyr y boicot, Fossil Free Books, mae'r ffigwr o 2% yn gyfystyr 芒 rhwng 拢2.5bn a 拢5bn.

Yn ei datganiad, dywedodd Charlotte Church bod hynny "sawl gwaith yn fwy na chyfanswm gwerth net pawb ynghlwm 芒 G诺yl y Gelli".

Ychwanegodd: "Dyw [dweud] 'dim ond 2%' ddim yn ddigon da."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae G诺yl y Gelli ymlaen am 11 diwrnod ac yn para tan 2 Mehefin

Wrth gadarnhau nos Wener na fydd yr 诺yl yn derbyn nawdd Baillie Gifford, dywedodd y prif weithredwr Julie Finch mai "ein prif flaenoriaeth yw ein cynulleidfa ac ein hartistiaid".

Dywedodd: "Yn anad dim, rhaid gwarchod rhyddid ein llwyfannau ac ein gofodau ar gyfer dadlau a thrafodaeth agored, ble gallai cynulleidfaoedd glywed ystod o safbwyntiau.

"Rydym yn ddiolchgar i'r holl artistiaid, partneriaid a chynulleidfaoedd sy'n cymryd rhan ac yn cyfrannu at y sgwrs, ar ac oddi ar y llwyfan."

Yn gynharach ddydd Gwener, dywedodd Ms Finch bod yr 诺yl yn parhau "i drafod gyda Baillie Gifford a phartneriaid celfyddydol eraill i ddatrys hyn".

'Gallwn ni wneud gwahaniaeth'

Fore Sadwrn fe gyhoeddodd y gantores Georgia Ruth ei bod hithau wedi tynnu'n 么l o 诺yl Latitude, sy'n cael ei chynnal yn Suffolk ddiwedd Gorffennaf.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei bod "yn drist" na fydd bellach yn perfformio yno "tra'u bod yn parhau i gael eu noddi gan Barclaycard".

Cyfeiriodd at adroddiad diweddar sy'n honni bod yr uwch gwmni, Barclays, yn buddsoddi neu'n benthyca gwerth miliynau i naw cwmni arfau milwrol "sy'n cael eu defnyddio yn ymosodiadau Israel ar Balesteiniaid".

Disgrifiad o'r llun, Mae Georgia Ruth yn erfyn ar drefnwyr g诺yl Latitude i beidio derbyn nawdd gan Barclaycard

Dywedodd bod boicot artistiaid G诺yl y Gelli "a arweiniodd yr uniongyrchol at ollwng Baillie Gifford fel prif noddwr" wedi ei hysbrydoli.

"Gallwn ni wneud gwahaniaeth," meddai. "Fe allai gwyliau wneud newid ystyrlon.

"Rwy'n erfyn ar Latitude i dorri cysylltiadau ariannol gyda Barclaycard."

Dywed Barclays bod honiadau ymgyrchwyr yn camddehongli gweithgaredd y cwmni, gan eu bod yn "delio mewn cyfranddaliadau cwmn茂au rhestredig mewn ymateb i orchmynion cleientiaid", yn hytrach na buddsoddi ar ran eu hunain.

Mae'n dweud y bydde'r banc yn "torri cysylltiad ag unrhyw fusnes pe bawn ni'n gweld tystiolaeth ei fod yn cynhyrchu bomiau clwstwr neu gydrannau".

Dywed mai eu gwaith yw darparu gwasanaethau ariannol i filoedd o fusnesau "ac mae hynny'n cynnwys rhai yn y sector amddiffyn", sy'n cael ei "reoleiddio'n fanwl".

Mae'r busnesau'n cynnwys rhai o America, y DU ac Ewrop "sy'n cyflenwi cynnyrch amddiffyn i NATO a chynghreiriaid eraill gan gynnwys Wcr谩in".