Pride Cymru: 'Dal gwaith i'w wneud' wrth ddathlu'r 25
- Cyhoeddwyd
Mae Pride Cymru yn dathlu 25 mlwyddiant y penwythnos hwn.
Wedi ei sefydlu ym 1999, dyma benwythnos mwyaf Cymru o ddathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Ond er bod y digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd, dywedodd Stifyn Parri - sydd wedi mynychu pob Pride Cymru - fod "dal gwaith i'w wneud" o ran sicrhau cydraddoldeb.
Mae disgwyl tua 50,000 o bobl yn rhan o'r digwyddiad yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
Un sydd wedi bod ym mhob dathliad Pride Cymru yw'r cyflwynydd ac actor Stifyn Parri, ac mae bellach yn un o gyflwynwyr y digwyddiad.
Roedd Stifyn yn rhan o'r gusan hoyw gyntaf ar deledu Prydeinig yn 1985 ac yn ddiweddar mae wedi cyflwyno'r rhaglen 'Paid 芒 dweud hoyw' ar S4C.
Ag yntau wedi dod allan pan oedd yn 26 oed, dywedodd "fod pethau wedi datblygu yn fawr, lot o bethau positif wedi digwydd".
Er hyn mae'n dweud fod yn "rhaid cofio fod pobl yn cael eu lladd hyd yn oed yng Nghaerdydd oherwydd bod nhw'n aelod o'r LGBTQ+, felly mae 'na waith i'w wneud".
"Mae 'na bethau mawr wedi eu datblygu yn gyffredinol - mae pobl yn fwy croesawgar o bobl sy'n rhan o'r gymuned yma," meddai.
Wrth edrych yn 么l ar sut mae Pride Cymru wedi tyfu, dywedodd: "Beth sy'n ffantastig yw sut mae diwrnod Pride wedi datblygu a thyfu ond hefyd y tinc sydd ar y strydoedd tra 'da ni'n gorymdeithio."
Dywedodd mai ef oedd yn cario'r lythyren 'P' enfawr drwy'r ddinas un flwyddyn.
"Ro'n i high as a kite am ddyddiau wedyn achos o'n i'n teimlo cymaint o gariad yn dod wrth y werin bobl ar y stryd.
"Dwi wedi gweld shifft yn y gorfoledd ma' pobl yn cael allan o weld gorymdaith, mae 'na lai o 'ni a nhw' erbyn hyn."
Yn y gorffennol, roedd "popeth cymaint yn llai - llai o bobl yn cymryd rhan, llai yn gorymdeithio a llai yn cefnogi ni wrth orymdeithio".
"Mae datblygiad garw wedi bod yn Pride Cymru ond mae 'na dal le i wella," meddai.
"Mae'r byd yn newid ond dydi hi ddim yn newid yn ddigon cyflym."
'Dathlu ein hunain'
Un fydd yn mynd i Pride Cymru am y tro cyntaf eleni yw Iwan Kellet o Ynys M么n.
Dywedodd ei fod yn "edrych 'mlaen yn enwedig i wneud hynny yng Nghaerdydd oherwydd mai yma o'n i'n byw pan ddes i allan".
Aeth ymlaen i ddweud fod "digwyddiadau Pride mor bwysig er mwyn i ni allu dathlu ein gilydd ac ni鈥檔 hunain mewn gr诺p saff".
"Mae鈥檔 gyfle i gael bach o queer joy ond hefyd i godi ymwybyddiaeth am broblemau mae鈥檙 gymuned yn dal i wynebu."
Dywedodd fod "Pride yn bwysig er mwyn i ni ddangos solidariaeth gyda鈥檙 rheiny sydd dal efo brwydrau i frwydro".
"Mae cymdeithas bendant wedi symud 'mlaen. Ers i mi ddod allan, mae鈥檙 gefnogaeth gan deulu a ffrindiau wedi bod yn arbennig.
"Rhan fwyaf o鈥檙 amser dwi鈥檔 gallu bod yn fi fy hun heb boeni.
"Ond mae yna dal ffordd i fynd wrth normaleiddio hunaniaethau cwiar."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2023