Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Amlwg' bod rhaid edrych ar system rhybudd llifogydd - Morgan
Mae'n "amlwg" bod angen "edrych ar y system rhybuddio" llifogydd, meddai Prif Weinidog Cymru.
Roedd Eluned Morgan yn siarad ar ymweliad 芒 Phontypridd, un o'r ardaloedd sydd wedi eu taro waethaf gan Storm Bert.
Cafodd dwsinau o gartrefi a busnesau eu heffeithio gan lifogydd ym Mhontypridd dros y penwythnos, a bu'n rhaid symud pobl o'u cartrefi yng Nghwmtyleri yn dilyn tirlithriad.
Mae rhai wedi bod yn feirniadol o'r system sy'n rhybuddio am lifogydd, gan ddweud nad oedd yn ddigonol.
Nid oedd Ms Morgan am feirniadu'r asiantaeth sy'n gyfrifol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gan ddweud nad nawr yw'r amser "i roi bai ar neb, yr amser ar hyn o bryd yw rhoi help i bobl sydd angen yr help".
Ond dywedodd: "Mi fydd yna angen i ni ddysgu gwersi, mi ddysgon ni lot o wersi y tro diwethaf, ond yn amlwg mae'n rhaid i ni edrych ar y system rhybuddio yna."
Yn siarad ddydd Llun, dywedodd Ms Morgan bod ei llywodraeth yn trafod sut yn union y gallai helpu busnesau ac unigolion sydd wedi cael eu heffeithio.
Wrth ymweld 芒 busnesau ym Mhontypridd, dywedodd eu bod nhw eisoes wedi "buddsoddi miliynau o bunnau" er mwyn sicrhau bod gan y dref amddiffynfeydd gwell rhag llifogydd.
"Y tro diwethaf ar 么l [Storm] Dennis roedd 2,000 o properties wedi cael eu heffeithio, y tro yma roedd 200," meddai.
"Mae pethau wedi gwella ond dyw hwnna ddim o werth, dwi'n deall, i'r bobl sydd 'di cael eu floodio eto."
Ychwanegodd bod y niferoedd is sydd wedi eu heffeithio yn dangos bod y buddsoddiad wedi gweithio i lawer.
Yn 么l y prif weinidog bydd yna "help ymarferol dros y dyddiau nesaf", yn ogystal 芒 thrafodaethau am gymorth tymor hir.
Ychwanegodd bod Prif Weinidog y DU, Keir Starmer eisoes wedi siarad 芒 hi yn ogystal ag arweinydd y cyngor lleol, gan ddweud bod hynny yn dangos "ei fod yn gofidio" a'i fod "wedi cynnig cymorth os y' ni angen".
Dydd Llun, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod tirlithriad yng Nghwmtyleri wedi dod o domen lo.
Mae'r domen yn un categori D - un sydd 芒'r potensial mwyaf o achosi perygl i'r cyhoedd, ac sy'n cael ei harchwilio ddwywaith y flwyddyn.
Mynnodd Ms Morgan eu bod wedi bod yn "monitro'r tomenni yma yn ofalus dros ben".
"Da' ni wedi gofyn am arian ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae hwnna wedi dod, ac yn amlwg mi fyddwn i'n mynd n么l am fwy o gymorth oddi wrthyn nhw."
CNC i ystyried y drefn
Yn gynharach ar 大象传媒 Radio Cymru, dywedodd Sian Williams o asiantaeth Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi derbyn adroddiadau nad oedd rhai wedi cael "digon o rybudd" o'r llifogydd posib.
Dywedodd: "Mae 'na bobl yn dweud na chafon nhw ddigon o amser i baratoi ar 么l derbyn hynny, cyn i鈥檙 llifogydd daro.
"Bydd hynna yn rhywbeth 'da ni yn sb茂o arno r诺an, oedd o鈥檔 gywir, wnaethon ni roi rhybudd allan pan wnaeth yr afon gyrraedd lefel penodol?
"Ynta' oes 'na bethau ni angen dysgu o ran sut mae鈥檙 afon yn gweithio, faint o amser ydan ni yn rhoi, ydan ni angen gostwng y trigger fel petai?"