Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ffermwr 拢71,000 ar ei golled wedi i Hufenfa Mona fynd i'r wal
Mae ffermwr o Bowys yn dweud ei fod degau o filoedd o bunnau ar ei golled ar 么l i hufenfa adnabyddus ym M么n fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Yn 么l Peter Lewis o Lanfyllin, dyw ei fusnes teuluol heb gael ei dalu am gwerth 拢71,000 o gynnyrch, a nid yw'n disgwyl cael ei dalu'n llawn bellach.
Yr wythnos hon fe gadarnhaodd Hufenfa Mona fod gweinyddwyr eu penodi, a'u bod yn ystyried sawl opsiwn ar gyfer dyfodol y busnes.
Yn 么l un o gyd-sylfaenwyr y cwmni, mae hi'n annhebygol iawn y bydd ffermwyr yn cael eu talu'n llawn am eu cynnyrch.
Fe agorodd y ffatri gaws gwerth 拢20m - sy'n cynhyrchu amrywiaeth o gawsiau Cymreig a chyfandirol - yn 2022.
Fis Mai, fe wnaeth Hufenfa Mona gyhoeddi eu bod yn wynebu trafferthion ariannol ac nad oedd modd i'r cwmni barhau i weithredu yn ei ffurf bresennol.
Roedd 51 o bobl yn gweithio ar y safle ym Mharc Diwydiannol Mona ger Gwalchmai, ond mae'r ffigwr hynny bellach wedi gostwng i 24.
Yn ogystal, roedd gan dros 30 o ffermydd Cymreig gytundebau gyda'r hufenfa, ac yn 么l Mr Lewis mae arno'r cwmni dros 拢100,000 i rai o'r ffermwyr hynny.
Dywedodd Mr Lewis: "Mae 拢71,000 yn ddyledus i ni - mae'n rhaid talu biliau, mae cyflenwyr porthiant eisiau cael eu talu, ac i feddwl ein bod ni'n gorfod tynnu gymaint o hynny o arian o'ch incwm.
"Mae'n anodd dod o hyd i'r arian i dalu biliau.
"Mae pawb yn gwybod, pan mae'r gweinyddwyr yn dod mewn, mi fyddan nhw'n talu'r credydwyr, ond does dim byd yn bendant i ni.
"Dwi'm yn credu fyddwn ni'n derbyn yr arian i gyd ac rydw i wir yn poeni.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cryn dipyn o arian tuag at hyn hefyd, a fyddan nhw mewn sefyllfa debyg gan mai arian trethdalwyr sydd wedi ei ddefnyddio."
Ychwanegodd Mr Lewis fod ffermwyr eraill mewn sefyllfa debyg, a bod rhai "symiau chwe ffigwr" yn ddyledus i rai.
拢1.6m yn ddyledus i ffermwyr
Dywedodd Ronald Akkerman, prif weithredwr ac un o gyd-sylfaenwyr yr hufenfa, fod cyfanswm o 拢1.6m yn ddyledus i ffermwyr.
"Mae'r sylfaenwyr yn gweithio gyda'r unigolion perthnasol i baratoi cynllun achub," meddai.
"Y cynharaf y bydd modd i ni ddod i gytundeb, y cynharaf gallwn ni roi eglurder i'n ffermwyr.
"Y nod yw dod i hyd i ddatrysiad fydd yn cynnwys cynnig ariannol i'r ffermwyr, ond mae hynny'n rhywbeth sydd i'w gadarnhau.
"Mae gan y gweinyddwyr dau gredydwr mawr, felly mae'r tebygrwydd y bydd arian yn cael ei dalu i gredydwyr sydd heb eu cadarnhau yn fach iawn.
"Bydd y gweinyddwyr yn cysylltu 芒'r ffermwyr yr wythnos hon. Mae tua 拢1.6m yn ddyledus i'r ffermwyr am tua thair wythnos o gyflenwad llaeth."
Ychwanegodd Mr Akkerman eu bod yn benderfynol o wneud popeth yn eu gallu i ddod 芒'r cwmni allan o ddwylo'r gweinyddwyr a'i wneud yn weithredol unwaith eto.
Yn 么l Richard Davies, sy'n arbenigwr ar y diwydiant llaeth, mae'r cyhoeddiad fod y cwmni yn mynd i'r wal yn "ergyd enfawr" i Ynys M么n.
Ychwanegodd fod y sector cynhyrchu caws yn wynebu heriau ar draws y byd.
"Yn rhyngwladol, does 'na ddim llawer o gwmn茂au mawr yn buddsoddi yn y diwydiant, yn syml, gan nad ydynt yn debygol o gael eu harian yn 么l.
"Y rhai sy'n buddsoddi yw'r cwmn茂au bach teuluol a'r cwmn茂au cydweithredol.
"Mae'r heriau yn y diwydiant yn enfawr - does dim llawer o elw yno, felly mae'n rhaid i chi fod yn weithredwyr da iawn iawn i allu cystadlu yn y byd yna."
Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru fod trafferthion Hufenfa Mona yn "newyddion trist i Ynys M么n a鈥檙 diwydiant amaethyddol".
鈥淢ae ffermwyr llaeth ledled Cymru yn wynebu cyfnod digynsail o ansicrwydd, wedi delio ag anawsterau gaeaf hir a gwlyb ochr yn ochr 芒鈥檙 helbul parhaus sy'n eu hwynebu o ganlyniad i newidiadau cymorthdaliadau amaethyddol a biwrocratiaeth tap coch.
鈥淕obeithiwn, o ganlyniad i lif gwan y gwanwyn a marchnad laeth sy鈥檔 gwella, y bydd proseswyr llaeth eraill mewn sefyllfa ffafriol i gefnogi鈥檙 cynhyrchwyr llaeth sy鈥檔 cyflenwi Hufenfa Mona ar hyn o bryd."
'Newyddion pryderus'
Fe wnaeth Hufenfa Mona dderbyn grant gwerth 拢3m gan Lywodraeth Cymru, ac mae proses adennill arian grant bellach ar waith yn 么l y llywodraeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hyn yn amlwg yn newyddion pryderus i weithwyr a chyflenwyr Hufenfa Mona, eu teuluoedd a'r gymuned leol.
"Rydym mewn cysylltiad 芒'r cwmni i weld sut y gallwn eu cefnogi nhw a'u gweithlu drwy'r broses hon.
"Rydym hefyd wedi cwrdd 芒'r undebau ffermio yn dilyn y cyhoeddiad hwn i drafod pryderon eu haelodau.
"Mae lles ffermwyr yn flaenoriaeth ac mae undebau ffermio yn gweithio gyda'u haelodau i sicrhau bod ffermwyr yn cael y cymorth angenrheidiol ar hyn o bryd."