Powys: Beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad

Ffynhonnell y llun, Google Maps

Disgrifiad o'r llun, Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A483 rhwng Llanbister a Llanbadarn Fynydd

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar y brif ffordd rhwng Llandrindod a'r Drenewydd ym Mhowys.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A483 rhwng Llanbister a Llanbadarn Fynydd tua 12:45 ddydd Sadwrn mewn ymateb i wrthdrawiad rhwng beic modur a char.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod y beiciwr modur wedi marw yn y fan a'r lle a bod swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i'w deulu.

Mae'r llu'n apelio am wybodaeth a lluniau dash cam gan unrhyw un allai fod wedi gweld beic modur KTM oren yn teithio tua'r gogledd i gyfeiriad Llanbadarn Fynydd cyn y gwrthdrawiad.