Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyfnewid offer a mannau gwefru ymysg addewidion gwyrdd CBDC
Mae cynllun cyfnewid citiau a gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn clybiau ymysg y camau mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru'n eu haddo i geisio bod yn fwy cynaliadwy.
Mae CBDC yn ceisio arwain y ffordd drwy gyflwyno mesurau cynaliadwy drwy strategaeth 鈥楥ymru, llesiant a鈥檙 byd鈥.
Yn ogystal 芒 sefydlu cynlluniau cyfnewid citiau ac offer p锚l-droed, bydd cronfa yn cael ei greu er mwyn gosod pwyntiau gwefru trydan mewn clybiau.
Mi fydd y gymdeithas hefyd yn edrych ar ddefnyddio pecynnau bwyd lleol, di-blastig, wedi eu gwneud o blanhigion.
I鈥檞 helpu i weithredu鈥檙 cynllun newydd, mae CBDC wedi penodi cynghorydd cynaliadwyedd.
Sophie Howe, cyn-gomisiynydd cenedlaethau鈥檙 dyfodol, fydd yn cymryd y r么l honno.
Dywedodd: 鈥淣od Cymru yw bod ar flaen y gad ar y cae ac oddi arno.
"Edrychaf ymlaen at weithio fel Cynghorydd Cynaliadwyedd i wneud Cymru鈥檙 gymdeithas chwaraeon fwyaf cynaliadwy yn y byd.鈥
Bwriad y gymdeithas yw datblygu'r byd p锚l-droed yng Nghymru ar draws saith maes: t卯m, iechyd, strwythurau, cyfleusterau, partneriaethau, datgarboneiddio a chroeso.
Fe fydd prosesau caffael yn cael eu hadolygu a bydd clybiau a chynghreiriau鈥檔 cael eu gefeillio ag eraill ar draws y byd i ddysgu a rhannu.
Bydd cynllun peilot yn sefydlu canolfan llesiant p锚l-droed o fewn bwrdd iechyd hefyd er mwyn darparu gwasanaethau clinigol a gofal cymdeithasol, gofal iechyd meddwl a llesiant, cyn ei gyflwyno dros y wlad.
Mae bwriad hefyd i edrych ar ffurfiau gwahanol o b锚l-droed er mwyn annog a'i gwneud yn haws i bawb i chwarae鈥檙 gamp.
Dywedodd cadeirydd CBDC, Alys Carlton: 鈥淩么l Sophie fydd cadeirio鈥檙 panel cynghori sy鈥檔 dod 芒 nifer o bobl gydag amrywiaeth o arbenigedd ynghyd, i鈥檔 cynghori ar arfer gorau a datblygiadau arloesol o ran cynaliadwyedd.鈥