S锚l bendith i ddau gais i godi 57 o dai fforddiadwy ym M么n
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr ar Ynys M么n wedi cymeradwyo dau gais cynllunio i adeiladu bron i 60 o dai fforddiadwy ar yr ynys.
Bwriad Cymdeithas Dai Clwyd Alyn a DU Construction yw adeiladu 27 o dai ger priffordd yr A55 yn Llanfairpwll, a 30 o dai yn Llandegfan.
Ond er bod gwrthwynebiad i鈥檙 datblygiadau, mae eraill yn gefnogol ac yn dweud bod mawr angen mwy o dai ar gyfer pobl leol yn yr ardal.
Roedd Cyngor Cymuned Cwm Cadnant wedi dadlau y byddai codi 30 o dai fforddiadwy yng Ngwel y Llan, Llandegfan yn "estyniad annerbyniol i'r pentref" ac yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch ffordd a bioamrywiaeth.
Dywedodd Sioned Edwards, ar ran yr asiant, cwmni Cadnant Planning, y byddai'r tai yn Llanfairpwll - a gafodd eu cymeradwyo o bum pleidlais i bedwar - yn cael eu cynnig ar sail rhent fforddiadwy.
Does dim disgwyl cynnydd sylweddol mewn traffig, meddai, a bydd 'na fesurau i leihau s诺n o'r A55.
Ychwanegodd bod diffyg tai fforddiadwy lleol yn "argyfyngus" a byddai'r datblygiad yn helpu cyrraedd targedau a diwallu angen amlwg yn lleol.
Dywedodd Ms Edwards cyn trafodaeth y pwyllgor cynllunio bod arolwg tai annibynnol "wedi adnabod bod 'na angen am dai fforddiadwy, drwy gyfarfod hefo pobl leol a deall yn well be' ydy'r anghenion a pha fath o dai maen nhw angen".
"Mae'r dystiolaeth yn dangos bod yr angen mwyaf am dai dwy a thair ystafell wely, felly mae'r cais wedi ei baratoi yn benodol i gyfarch y galw penodol yna."
"Mae 'na bobl leol wedi dweud wrthyn ni eu bod nhw angen t欧 yn lleol ac methu fforddio rhent ar y farchnad agored, a hefyd pobl ifanc sy'n chwilio a methu fforddio i brynu t欧 ac yn chwilio i rentu.
"Dwi'n deall fod pryder yn lleol ond 'swn i hefyd yn licio rhoi sicrwydd bod dim pryder gan arbenigwyr fod unrhyw fater technegol fysa'n atal y cais yma rhag caei ei gefnogi."
Clwyd Alyn fydd yn berchen ac yn rheoli'r stad drwy ddefnyddio polisi gosod Cyngor M么n.
Wrth argymell caniat谩u'r cais yn Llanfairpwll, dywedodd swyddogion cynllunio fod materion d诺r wyneb, arweinodd at wrthod y cais tebyg y llynedd, bellach wedi eu datrys.
Mae'r adran dai hefyd wedi cadarnhau fod 27 teulu ar y rhestr aros am dai fforddiadwy yn Llanfairpwll, bod 128 yn rhagor wedi datgan diddordeb, a bod Llanfairpwll yn "ddewis poblogaidd" am dai o'r math.
Ond dywedodd un o'r cynghorwyr lleol, Sonia Williams, bod deiseb 芒 thros 1,000 o enwau wedi ei chyflwyno yn erbyn y cynllun.
Mae hi hefyd yn bryderus ynhylch yr effaith holl aflonyddwch y gwaith adeiladu ar fioamrywiaeth a bywyd gwyllt.
Cwestiynodd hefyd a fyddai'r ffens acwstig arfaethedig yn ddigon i liniaru s诺n o'r A55, gan bwysleisio bod Llanfairpwll yn dioddef problemau llifogydd a bod yna safleoedd eraill fwy addas.
"Does ond angen mynd i Lanfairpwll i weld pa mor ddrwg ydy'r traffig a'r goryrru ofnadwy drwy Llanfair," meddai.
- Cyhoeddwyd25 Ebrill
- Cyhoeddwyd21 Hydref
- Cyhoeddwyd23 Awst
Ychwanegodd un o gynghorwyr eraill y ward, Dyfed Jones, ei fod yn "lawn ddeall pwysigrwydd tai fforddiadwy" ond ei brif bryder oedd eu lleoli drws nesaf i'r A55.
Ategodd Robin Williams ei bryderon y byddai'r s诺n yn "ofnadwy", gan gwestiynu ffigyrau'r adroddiad am faint o draffig ychwanegol y byddai'r datblygiad yn ei achosi.
Ond ym marn y Cynghorydd Jeff Evans dyw'r dadleuon yn erbyn ddim yn ddigon i wrthod codi 27 o dai fforddiadwy, ac mae'n "hollol hyderus" y byddai'r cais yn cael ei ganiat谩u ar ap锚l gyda'r cyngor yn gorfod talu costau'r ymgeisydd.
'Pam ddim adeiladu pentref newydd?!'
Er mwyn cyrraedd y safle byddai angen mynd trwy Stad y Garnedd, ac mae rhai o drigolion yn stad wedi datgan gwrthwynebiad.
Maen nhw鈥檔 dweud bod y safle鈥檔 anaddas ar gyfer datblygiad o'r fath, gan waethygu problemau traffig sydd eisoes ger y stad ac yn Llanfairpwll yn gyffredinol.
"Dwi'n clywed y traffig, 'swn i ddim yn licio byw yn y cae 'ma," meddai Medwyn Roberts, ar ran Cymdeithas Amddiffyn Stad y Garnedd.
"'Dan ni'n s么n am adeiladu 27 o dai ar gae sydd hanner maint y stad 'ma, a 24 o dai sydd yma.
"Yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae traffig wedi mynd yn waeth byth a mae 'na geir yn bob man.
"Mae'r gymuned i gyd mwy neu lai yn erbyn y datblygiad yma. Mae'r cyngor cymuned wedi bod yn gyson yn erbyn.
"Mae'r pentref 'ma wedi ei ddatblygu gymaint yn y deugain mlynedd ddiwetha' heb feddwl am yr amgylchiadau."
Ychwanegodd: "Pam fod rhaid i drigolion y pentref roi i fyny hefo hyn? 'Dan ni fel y werin ddim yn cael gwybod pwy sydd ar y rhestrau aros yma.
"Os oes gymaint 芒 hyn o ddymuniad am dai fforddiadwy, pam 'neith y cyngor sir ddim adeiladu pentref newydd?!
"Mae 'na ddigon o dir yn Sir F么n i godi tai, siopau, lle doctor newydd."
'Y rhai sy'n gwrthwynebu hefo tai yn barod'
Roedd swyddogion cynllunio'r sir wedi argymell caniat谩u鈥檙 ddau gais, er gwaethaf pryderon yn y ddwy gymuned.
Ond mae 'na gefnogaeth hefyd ymhlith pobl ifanc yn yr ardal, sy鈥檔 poeni sut y gallan nhw fforddio prynu t欧 yn y cyffiniau.
Dywedodd Ffion Elin Davies, 26, sydd o Lanfairpwll ond bellach yn byw ym Mhorthaethwy gyda'i theulu, bod hi'n "beth da" bod tai fforddiadwy yn cael eu cynnig.
"Mae Ynys M么n yn le gr锚t i fyw a dwi'n si诺r fod pobl ifanc isio aros yma, a dwi o blaid y syniad," meddai.
"Mae'n anodd i unrhyw un r诺an i brynu tai. 'Di o ddim yr un fath 芒 pan oedd ein rhieni yn prynu tai - mae'r prisiau wedi codi yn anffodus.
"Does dim allwn wneud am hynny ond mae'r tai fforddiadwy 'ma yn ffordd i symud ymlaen.
"Dwi'n teimlo na'r bobl sy'n gwrthwynebu ydy'r rhai sydd hefo tai yn barod ac yn anffodus ddim yn yr un sgidia' 芒 ni.
"Dwi'n deall safbwynt y rhai sy'n gwrthwynebu. Codi mwy o dai yn eu hardal nhw sydd mor brydferth... dwi'n deall yn iawn, ond rhaid i ni feddwl am ffyrdd o sut 'da ni'n symud ymlaen.
"Heb i ni allu fforddio tai yn ein hardaloedd lleol mae'n bosib bydd rhaid i ni symud i ffwrdd i le allwn ni fforddio, ond mae'n bwysig i ni allu aros yn eu cynefinoedd."