Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Anaf difrifol i ddyn wedi digwyddiad ar safle Tata
Mae dyn 46 oed wedi ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau allai newid ei fywyd ar 么l digwyddiad ar safle gwaith dur ym Mhort Talbot.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r "digwyddiad diwydiannol" yn Tata Steel tua 20:15 nos Iau.
Dywedodd Heddlu'r De fod y dyn wedi ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae'r Awdurdod Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel: "Gallwn gadarnhau bod un o'n gweithwyr wedi bod yn rhan o ddigwyddiad ar ein safle ym Mhort Talbot.
"Fe wnaeth ambiwlans fynychu, ac mae'r person a anafwyd yn parhau yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth.
"Rydym yn dymuno gwellhad llawn a buan iddo."