Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Teulu merch a laddodd ei hun yn beirniadu Prifysgol Caerdydd
Rhybudd: Mae cynnwys yn yr erthygl isod allai beri gofid.
Mae teulu o Ynys M么n a gollodd eu merch i hunanladdiad yn dweud bod Prifysgol Caerdydd wedi eu methu.
Bu farw Mared Foulkes, 21 o Borthaethwy, ym mis Gorffennaf 2020.
Ar y pryd, roedd yn fyfyrwraig yn y Brifysgol, ac yn astudio fferylliaeth.
Fe anfonodd y brifysgol e-bost awtomatig ati'n dweud nad oedd hi wedi llwyddo i fynd i'r drydedd flwyddyn ar 么l methu asesiad, ond roedd Mared eisoes wedi ail-sefyll hwnnw, a phasio.
Y noson honno, fe yrrodd i Bont Britannia ac fe gafodd ei chorff ei ddarganfod yn ddiweddarach.
Yn y cwest i'w marwolaeth yn 2021, fe ddaeth y crwner i'r casgliad fod Ms Foulkes wedi marw o hunanladdiad, gan ddweud y gallai system Prifysgol Caerdydd o roi canlyniadau i fyfyrwyr fod yn ddryslyd a'i bod hi'n poeni y byddai yna farwolaethau eraill.
Dywedodd y brifysgol yn dweud eu bod "wedi newid eu hiaith a'u t么n wrth rannu canlyniadau gyda'r myfyrwyr".
'Pasio ei bedd hi bob dydd'
Mae teulu Mared, a rhieni eraill sydd wedi colli plant yn ystod cyfnod astudio mewn prifysgol, yn galw am well gofal gan brifysgolion dros eu myfyrwyr.
Wrth siarad 芒 rhaglen y Byd ar Bedwar dywedodd mam Mared, Iona Foulkes: "A'th hi o 'ma yn cymryd bod hi wedi methu ei blwyddyn, bod hi ddim yn cael mynd yn 么l i Gaerdydd.
"Do, 'ma nhw 'di colli myfyrwraig, dwi 'di colli merch annwyl iawn, iawn.
"Dwi鈥檔 gorfod pasio'i bedd hi bob dydd i fynd i fy ngwaith, mynd a dod. Ydyn nhw鈥檔 gorfod gwneud hynny?"
Yn dilyn y cwest i farwolaeth Mared, fe ysgrifennodd y crwner at Brifysgol Caerdydd yn dweud bod yna wersi i'w dysgu.
Mae'r brifysgol yn dweud eu bod "wedi newid ein hiaith a'n t么n wrth rannu canlyniadau gyda'r myfyrwyr", a'u bod "wedi ymddiheuro i'r teulu".
Fydd rhieni Mared Foulkes fyth yn gwybod beth allai hi fod wedi'i gyflawni.
Ond maen nhw'n gobeithio y bydd prifysgolion yn gwrando ar yr alwad i gynnig gofal gwell i fyfyrwyr.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 大象传媒.