Lluniau: Dydd Sadwrn agoriadol y Steddfod

Wedi'r holl baratoi, codi arian a gwaith caled, roedd yr haul yn gwenu ym Mhontypridd ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf. Dyma rai o luniau'r dydd.

Disgrifiad o'r llun, Roedd y teulu yma wedi teithio o Abertawe ar y tr锚n i wylio'r bandiau pres. Roedden nhw鈥檔 falch fod trafnidiaeth gyhoeddus hwylus i鈥檙 Maes gan fod yr amgylchedd yn bwysig iddyn nhw.
Disgrifiad o'r llun, Ben bore, roedd y criw yma o wirfoddolwyr Heddlu De Cymru yn barod i groesawu a helpu ymwelwyr.
Disgrifiad o'r llun, Martha y labradwdl yn mwynhau ei Steddfod gyntaf!

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Disgrifiad o'r llun, Cyfle am hunlun cyn ymweld 芒'r Maes
Disgrifiad o'r llun, Roedd y Babell L锚n dan ei sang ar gyfer rownd derfynol Talwrn y Beirdd, Radio Cymru. Tir Iarll a Dros yr Aber fu'n cystadlu.
Disgrifiad o'r llun, Wedi gornest agos, Tir Iarll ddaeth i'r brig. Hanner pwynt yn unig oedd rhyngddyn nhw a th卯m Dros yr Aber. Bydd cyfle i glywed y rhaglen nos Sul am 19:00 ar Radio Cymru.
Disgrifiad o'r llun, Idris Reynolds wnaeth ennill Tlws Coffa Dic Jones am gywydd gorau鈥檙 gyfres. Enillwyr y tlysau eraill oedd Iestyn Tyne (Tlws Cledwyn Roberts - telyneg orau鈥檙 gyfres) ac Aled Evans (Tlws Coffa Emyr Oernant - c芒n ysgafn orau鈥檙 gyfres).
Disgrifiad o'r llun, Ruby, Alys a Teddie yn crwydro鈥檙 maes, a'r tri wrth eu bodd bod yr Eisteddfod wedi dod i'w hardal nhw.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Disgrifiad o'r llun, Roedd y cystadleuydd yma'n barod am benwythnos mawr y bandiau pres.
Disgrifiad o'r llun, Maes D, fu'n un o ardaloedd mwyaf poblogaidd y Maes heddiw, yn ystod perfformiad Dafydd Iwan.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae amrywiaeth fawr o ddigwyddiadau ar y Maes trwy'r wythnos. Dyma griw o blant yn gwylio perfformiad gan aelodau o Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Caerdydd.