Eisteddfod: Coroni'r Bardd fydd prif seremoni ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Coroni'r prifardd buddugol fydd prif seremoni Eisteddfod Rhondda Cynon Taf ddydd Llun a hynny am bryddest neu gasgliad o gerddi hyd at 250 o linellau.
'Atgof' oedd y testun gosod a'r beirniaid eleni yw Tudur Dylan Jones, Guto Dafydd ac Elinor Gwynn.
Mae'r tri beirniad yn brifeirdd - fe enillodd Elinor Gwynn goron Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn 2016, Guto Dafydd oedd prifardd coronog Eisteddfodau Cenedlaethol Sir G芒r 2014 a Chonwy 2019 ac mae Tudur Dylan Jones wedi ennill y gadair genedlaethol ddwywaith - yn Eisteddfodau Cenedlaethol Bro Colwyn 1995 ac Eryri a'r Cyffiniau 2005 ac ef oedd bardd coronog Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint 2007.
Hon fydd seremoni gyntaf yr archdderwydd newydd - Y Prifardd Mererid Hopwood.
Elan Rhys Rowlands sydd wedi llunio'r goron eleni ac arni mae nodau'r anthem genedlaethol a phont hynod Pontypridd.
Fel rhan o'r gwaith cynllunio bu Elan yn ymweld ag Ysgol Gymraeg Garth Olwg ym Mhontypridd er mwyn cydweithio gyda 15 o ddisgyblion, a'r ysgol honno sy'n noddi'r goron a'r wobr o 拢750 eleni.
Yn 么l y pennaeth, Trystan Edwards, mae gwneud hynny'n adlewyrchu pwrpas yr ysgol o feithrin Cymry balch.
Wedi graddio o Brifysgol Birmingham, dywedodd Elan mai dylunio'r goron oedd y "job gynta', yn yr wythnos gynta'" ar 么l dechrau yn ei swydd gyda chwmni Neil Rayment Goldsmiths.
Wrth gydweithio 芒'r cwmni i greu'r goron, dywedodd ei bod yn "teimlo mor lwcus" o gael cyfle o'r fath mor gynnar yn ei gyrfa.
Mae hi'n gobeithio gweld mwy o gyfleoedd i bobl ifanc i arbenigo yn y maes yn y dyfodol.
Os bydd teilyngdod bydd y bardd buddugol yn cael ei gyfarch gan y prifardd Rhys Iorwerth - enillydd y goron yn Eisteddfod Ll欧n ac Eifionydd 2023.
Yn 么l y traddodiad, ar ddechrau seremoni'r coroni fe fydd cynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd - Cernyw, Llydaw, Yr Alban, Iwerddon ac Ynys Manaw - a gorsedd y Wladfa yn cael eu cyflwyno i'r Archdderwydd a'u croesawu i'r Eisteddfod.
Seren Haf MacMillan fydd yn cyflwyno'r Corn Hirlas i'r Archdderwydd, sef symbol o'r gwin a estynnir i groesawu'r Orsedd. Bydd hi'n cael eu hebrwng gan y macwyaid Rhys Thomas a Jacob Watkins.
Bydd y flodeuged a chynnyrch y meysydd - symbol o ddymuniad ieuenctid Cymru i gynnig blagur eu doniau i'r Eisteddfod - yn cael eu cyflwyno gan Ffion Haf Roberts a'i llawforynion Mari Butcher ac Efa-Grug Thomas.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin
- Cyhoeddwyd15 Mehefin