大象传媒

5 pwynt trafod o bodlediad Vaughan a Richard

Richard Wyn Jones a Vaughan Roderick
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Richard Wyn Jones a Vaughan Roderick

  • Cyhoeddwyd

Gyda鈥檙 holl sylw i鈥檙 Etholiad Cyffredinol mae鈥檔 hawdd methu鈥檙 pethau difyr a pherthnasol sy鈥檔 codi yn ystod yr ymgyrch...

Yn ffodus mae 鈥榥a bobl fel y newyddiadurwr Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn cadw llygad ar y cyfan - ac yn trafod yr uchafbwyntiau mewn podlediad newydd sbon.

Dyma rai o鈥檙 pethau difyr yn y gyntaf o'r gyfres.

Pen-bandit y Ceidwadwyr 鈥榶n erbyn yr etholiad鈥

Doedd 鈥榥a ddim llawer o bobl oedd yn disgwyl etholiad mis Gorffennaf - ac mae 鈥榥a dipyn o grafu pen yngl欧n 芒鈥檙 rheswm tu cefn i benderfyniad Rishi Sunak.

Tydi Golygydd Materion Cymreig 大象传媒 Cymru Vaughan Roderick na鈥檙 Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru dal ddim yn si诺r beth oedd y rhesymeg, ac mae鈥檔 ymddangos nad nhw ydi鈥檙 unig rai.

鈥淵 peth mwya鈥 trawiadol i fi yn ystod y tair wythnos diwetha鈥 - a fydd bron neb wedi sylwi ar hyn,鈥 meddai鈥檙 Athro Richard Wyn Jones yn y podlediad, 鈥測di deuddydd ar 么l i Sunak alw鈥檙 etholiad... roedd 鈥榥a rhywun yn briffio ar ran Isaac Lavido, sef y wunderkind yma sydd i fod yn rhedeg yr ymgyrch i鈥檙 Ceidwadwyr, yn deud 鈥榦 ni鈥檔 erbyn galw鈥檙 etholiad r诺an鈥...

鈥淩oedd o fel petai鈥檙 person oedd i fod yn fr锚ns tu 么l i鈥檙 ymgyrch yn pellhau ei hun - o fewn deuddydd... o鈥檔 i鈥檔 meddwl oedd yn drawiadol iawn.鈥

Gething a Sunak yn gymeriadau tebyg

Mae Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y DU wedi bod o dan bwysau yn ddiweddar.

Ac nid dyna鈥檙 unig beth sydd ganddyn nhw yn gyffredin yn 么l un theori a drafodwyd yn y podlediad.

鈥淥es yna debygrwydd efallai rhwng Vaughan Gething a Rishi Sunak?鈥 gofynnodd Vaughan Roderick.

鈥淗ynny ydi bod nhw鈥檔 wleidyddion sydd 芒 meddwl mawr iawn ohonyn nhw ei hun ac sydd wedi amgylchynu eu hunain efo pobl sydd ddim yn eu herio nhw ac sydd ddim yn cwestiynu nhw ac oherwydd hynny mae鈥檙 ddau ohonyn nhw yn gwneud camgymeriadau?鈥

鈥淢ae hwnna鈥檔 gymhariaeth dda iawn - mae lot yn hynny,鈥 meddai鈥檙 Athro Richard Wyn Jones.

鈥淒ydi nhw ddim efo鈥檙 sgiliau meddal yna a synnwyr greddfol yna bron sydd efo gwleidyddion yn y rheng uchaf yngl欧n 芒 sut mae pobl yn eu canfod nhw a chanfod yr hyn maen nhw鈥檔 ddweud.

"Gwleidyddiaeth by numbers ydi o - rhyw glyfrwch 鈥榙wi am ddeud hynny, dwi ddim am cweit ddeud hynna鈥...

鈥淢ae鈥檔 dod drosodd yn haerllug a鈥檙 ffordd mae鈥檙 gymhariaeth yn gweithio ymhellach, erbyn r诺an mae鈥檙 ddau yn gwneud niwed i鈥檞 pleidiau eu hunain.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd podlediad Etholiad Vaughan a Richard yn cael ei recordio yn wythnosol yn ystod yr ymgyrch etholiadol

Arlywydd Rishi Sunak...?

Mae sawl ffordd wahanol o redeg ymgyrch etholiad, ond tydi鈥檙 Athro Richard Wyn Jones ddim yn meddwl bod opsiwn y Ceidwadwyr wedi bod yn un doeth:

鈥淵n y pen draw maen nhw wedi dewis rhedeg ymgyrch Arlywyddol.

"Maen nhw wedi dewis rhoi Rishi Sunak reit ar flaen yr ymgyrch yna, fyddai wedi gwneud synnwyr flwyddyn yn 么l achos mi roedd o鈥檔 fwy poblogaidd na鈥檙 Ceidwadwyr ar y pryd. R诺an mae o鈥檔 llai poblogaidd - yn wir mae o鈥檔 llai poblogaidd na Jeremy Corbyn yn 2019.

鈥淔elly 鈥榙a chi鈥檔 cael person fel petai o ddim efo鈥檙 sgiliau gwleidyddol i redeg ymgyrch Arlywyddol.鈥

Ynys M么n - etholaeth difyrra鈥檙 gogledd

Ynys M么n ydi鈥檙 unig etholaeth yng Nghymru fydd ddim yn newid oherwydd addasiadau i鈥檙 ffiniau... ond tydi hynny ddim yn golygu na fydd yn ddiddorol.

鈥淥 bosib, Ynys M么n ydi鈥檙 unig etholaeth yn y gogledd lle mae 鈥榥a gwestiwn go iawn pwy sydd yn mynd i fod yn fuddugol achos mae鈥檔 un o鈥檙 seddau yna lle mae geno chi dair plaid (yn cystadlu),鈥 meddai鈥檙 Athro Richard Wyn Jones.

鈥淔y theori i am yr etholiad yma o鈥檙 cychwyn ydi bod o鈥檔 etholiad lle mai pleidleisio negyddol sydd yn gyrru bob dim. Hynny yw pleidleisio yn erbyn rhywbeth yn hytrach nag o blaid - ac yn erbyn y Ceidwadwyr - dyna sy鈥檔 gyrru pethau.

鈥淔ydd lot fawr o bleidleisio tactegol yn mynd ymlaen ac yn Ynys M么n mae 鈥榥a ddwy blaid yn cystadlu i fod y blaid wrth-Geidwadol... sef Plaid Cymru a鈥檙 Blaid Lafur ac mae honna鈥檔 neud hi鈥檔 wirioneddol ddiddorol.鈥

Etholiad hanesyddol i Lafur?

Wrth drafod, roedd y ddau arbenigwr yn ceisio cofio pryd oedd y tro diwetha鈥 i Lafur gael canran uwch o鈥檙 bleidlais yn Lloegr nag yng Nghymru.

Yr 1920au neu cyn hynny oedd cynnig Vaughan Roderick.

Ateb ychydig llai penodol yr Athro Richard Wyn Jones oedd bod Llafur yn gwneud yn well yn Lloegr 鈥測n anaml iawn, iawn, iawn, iawn, iawn, iawn.鈥

Ac ychwanegodd bod hynny o bosib ar fin newid: 鈥淢ae鈥檔 bosib yn 么l rhai o鈥檙 arolygon 'dan ni鈥檔 eu gweld y gall Llafur neud yn well yn Lloegr nag yng Nghymru... ond o drwch asgell gwybedyn.鈥