Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Alan Bates yn farchog yn rhestr Anrhydeddau'r Brenin
- Awdur, Owain Evans
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae nifer o Gymry ymhlith dros 1,000 o bobl drwy'r Deyrnas Unedig sydd wedi derbyn anrhydedd ar achlysur pen-blwydd y Brenin.
Mae'r anrhydeddau eleni yn cydnabod cyfraniad pobl i fywydau eraill drwy fod yn flaengar聽neu drwy arwain newid mewn bywyd cyhoeddus.
Bydd y cyn-bostfeistr ac ymgyrchydd dros gyfiawnder Alan Bates yn cael ei urddo'n farchog am wasanaethau i gyfiawnder, a bydd Ffion Hague yn dod yn fonesig am ei gwasanaeth cyhoeddus a'i gwasanaeth i fusnes.
Bydd cyn-Aelod Seneddol Caerffili, Wayne David yn cael ei urddo'n farchog am wasanaeth seneddol a gwleidyddol, a bydd y darlledwr Roy Noble yn cael CBE am ei gyfraniad i ddiwylliant, iaith a chymunedau Cymru.
Dywedodd Roy Noble: "O'n i 'di cael y streip ar fy mraich blynydde'n 么l achos ges i'r OBE 20 mlynedd n么l a nawr dwi 'di cael y CBE, sy'n gam lan," meddai.
"Sa'i mo'yn bod yn fawreddog o gwbl ond mae e 'na.
"Mae 'na bobl 'di mynd mas o'u ffordd i'ch cefnogi chi ac os chi'n towlu e bant a gweud 'nagw i mo'yn hwnna', chi'n dodi nhw lawr mewn ffordd."
Bydd y ddawnswraig o Gaerffili Amy Dowden yn cael OBE am godi arian i wasanaethau Crohn's a Colitis a gwella ymwybyddiaeth o'r cyflyrau rheiny.
Ac ym maes iechyd bydd Carys Davies o Langwyryfon yng Ngheredigion yn derbyn Medal yr Ymerodraeth am ei gwasanaeth wrth hyfforddi a chefnogi bydwragedd i weithio mewn ysbyty heb uned gofal arbennig i fabanod.
"Mae'n sioc ac yn hollol annisgwyl ond dwi'n cyfri hi'n fraint ac anrhydedd mawr i gael enwebiad," meddai.
"Ni gyd yn passionate iawn bod mamau Ceredigion a mamau o Bowys neu Wynedd sy'n defnyddio'r uned, os y'n nhw dan consultant, yn gallu geni ym Mronglais a tase'r uned ddim gyda ni bydde'r rhan fwya' yn gorfod mynd i lefydd eraill i eni.
"O'n i rioed wedi dychmygu bydden i'n mynd i fod yn rhywle yn agos i Balas Buckingham yn cael paned o de 'fo nhw."
Bydd Emyr Afan, prif weithredwr cwmni teledu Afanti - sy'n gyfrifol am raglenni C芒n i Gymru a Jonathan, ymhlith eraill - yn cael OBE am ei wasanaeth i'r cyfyngau a cherddoriaeth.
"Dwi wrth fy modd gyda'r gydnabyddiaeth i Afanti ac i'r tri degawd o waith caled ar draws Cymru Prydain ac Ewrop," meddai.
"Mae'r gydnabyddiaeth honno i'r timau sydd wedi bod yn gweithio gyda fi, i'r talent a'r talent sy'n dod trwyddo.
"Do'n i ddim yn disgwyl e ond mae'n hyfryd i'w gael e."
Mae bron i hanner y bobl fydd yn derbyn anrhydedd eleni yn fenywod gan gynnwys yr Athro Rhian Goodfellow am wasanaeth i addysg feddygol, cyn Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth Elizabeth Treasure am wasanaeth i addysg uwch a聽Helen Lentle am wasanaeth i ddatganoli a'r broses ddeddfu yng Nghymru.
Yn y byd chwaraeon mae yna anrhydedd MBE i'r ddyfarnwraig Cheryl Foster sy'n wreiddiol o Fangor.
Hi oedd dyfarnwraig gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth Cwpan y Byd dros gyfnod o 45 mlynedd gan ddyfarnu'r g锚m b锚l-droed rhwng Brasil a Panama yn Adeilade yn 2023.