Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymro o Fôn yn hwylio yn rownd derfynol Cwpan America
- Awdur, Annell Dyfri
- Swydd, ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw
Mae Cymro o Fôn yn rhan o dîm sydd wedi cyrraedd rownd derfynol un o gystadlaethau hwylio mwya'r byd - Cwpan America.
Yn dilyn llwyddiant yn y cymalau blaenorol, bydd Bleddyn Môn yn rhan o dîm o wyth fydd yn cynrychioli Prydain yn Barcelona ddydd Sadwrn.
Dyma'r tro cyntaf ers 60 o flynyddoedd i dîm Prydain gyrraedd y rownd derfynol.
Dywedodd Dafydd Griffiths - tad Bleddyn - mai dyma'r trydydd tro i'w fab fod yn rhan o ymgyrch Prydain.
O Laneilian i Barcelona
Yn hanu o Laneilian ar Ynys Môn, fe dderbyniodd Bleddyn ei addysg yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
Wrth ysgrifennu ym mhapur bro Yr Arwydd, dywedodd Dafydd Griffiths i Bleddyn "ddechrau hwylio yn ifanc iawn efo’i frodyr yn y Clwb Hwylio sydd yn Traeth Bychan ger Moelfre".
"I ddechrau roedd yn criwio gyda’i rieni neu ei frodyr mewn cwch ‘Mirror’. O tua naw oed dechreuodd hwylio Topper, sef cwch i un person," meddai.
Wrth siarad â ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw, dywedodd ei dad fod Bleddyn yn aelod o garfan hwylio Prydain pan oedd ond yn 13 oed "ac fe enillodd ddwy bencampwriaeth Toppers Brydeinig".
"Ar ôl trosglwyddo i gwch cyflymach - y 29er - fe enillodd bencampwriaeth Brydeinig arall. Mae hefyd wedi trafeilio dramor i gystadlu yn Ewrop ac yn Awstralia.
"Tra yn y brifysgol yn astudio am radd meistr mewn Peirianneg Mecanyddol fe hwyliodd nifer o gychod bach a mawr."
Ychwanegodd ei fod yn "falch iawn o’i lwyddiant fel rhan o dîm hwylio INEOS Britannia".
Dywedodd Mr Griffiths wrth Yr Arwydd mai "dyma'r trydydd tro i Bleddyn fod yn rhan o'r ymgyrch Brydeinig, ac mae o, a'r tîm, wedi bod allan yn Sbaen ers 2022 yn cynllunio'r cwch".
"Y tro hwn bydd wyth o hwylwyr ar y cwch gyda phedwar ar bob ochr fel nad oes angen symud wrth i'r cwch droi o un ochr i'r llall ar y cwrs rasio," meddai.
Bydd Prydain yn cystadlu yn rowndiau terfynol Nghwpan America am y tro cyntaf ers 1964, ar ôl iddyn nhw drechu'r Eidal o 7-4 yn y rowndiau rhagbrofol yn Barcelona yr wythnos ddiwethaf.
Bydd Prydain yn cystadlu yn y rownd derfynol yn erbyn Seland Newydd o 12 Hydref ymlaen.
Cwpan America yw’r gystadleuaeth chwaraeon rhyngwladol hynaf yn y byd, gyda'r fersiwn gyntaf yn 1851.