Ynni gwyrdd: 'Angen i lywodraethau gyflymu'r broses'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw ar lywodraethau i "gyflymu鈥檙 broses" o ystyried cynlluniau ynni adnewyddadwy mawr os yw Cymru am gyrraedd ei thargedau sero net.
Yn 么l cwmni RWE, sy鈥檔 gyfrifol am un o'r cynlluniau ynni adnewyddadwy mwyaf yng Nghymru, mae angen taro "cydbwysedd yn gynt" os am sicrhau amgylchedd gwyrddach.
Mae鈥檙 cwmni newydd dderbyn caniat芒d cynllunio i godi rhwng 34 a 50 o dyrbinau gwynt 10km oddi ar arfordir y gogledd.
Bydd gan Awel y M么r y gallu i bweru dros hanner cartrefi Cymru, gan greu cannoedd o swyddi.
- Cyhoeddwyd20 Medi 2023
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2021
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod eu polisi cynllunio yn "hynod gefnogol" i brosiectau "sydd wedi eu cynllunio鈥檔 dda".
Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae cymeradwyo cynllun Awel y M么r yn rhan o'u huchelgais i gynhyrchu 50GW o ynni drwy ffermydd gwynt ar y m么r erbyn 2030.
Gyda鈥檙 cynllun wedi derbyn caniat芒d cynllunio gan Lywodraeth y DU, mae鈥檙 gwaith r诺an yn dechrau i dyllu i wely鈥檙 m么r er mwyn asesu ansawdd y tir adeiladu.
Mae鈥檔 gam sylweddol i鈥檙 datblygiad, fydd yn cael ei leoli i鈥檙 gorllewin o fferm wynt bresennol Gwynt y M么r oddi ar arfordir Sir Conwy.
Fe ddechreuodd y gwaith ar y cynllun yn 2017, a does dim disgwyl iddo gynhyrchu ynni tan o leiaf 2030, gyda galw r诺an i gyflymu鈥檙 broses.
鈥淏ydden ni yn annog llywodraethau i edrych ar ffyrdd i gyflymu鈥檙 broses," meddai Tamsyn Rowe, arweinydd prosiect Awel y M么r i RWE.
鈥淔el bob dim mae鈥檔 gydbwysedd i sicrhau fod y broses gynllunio yn drwyadl a bod ymgynghori digonol, ac yna cydbwyso hynny efo'r argyfwng hinsawdd."
Cafodd y cynllun ei leihau yn sylweddol o鈥檙 bwriad gwreiddiol i godi rhyw 100 o dyrbinau, a hynny oherwydd pryderon lleol.
Mae鈥檙 cwmni鈥檔 dweud y bydd y cynllun newydd yn creu cannoedd o swyddi i bobl leol, a mwy hefyd yn y gadwyn gyflenwi.
Mae hynny eisoes yn wir i Jordan Eade, sydd newydd ddechrau ar brentisiaeth gyda鈥檙 cwmni.
鈥淢ae鈥檔 bwysig i mi fyw a gweithio鈥檔 lleol, a does dim cymaint o gyfle i gael swyddi fel hyn yn lleol," meddai.
鈥淢ae鈥檔 gr锚t cael y cyfle i 'neud hwn efo RWE i weithio ar y tyrbinau."
Mae鈥檔 freuddwyd i Jordan ers eistedd yn ei wersi ffiseg yn yr ysgol, a bydd r诺an yn dysgu sgiliau i gynnal a chadw鈥檙 isadeiledd.
Mae鈥檙 cynllun, fydd yn darparu ynni i gannoedd o filoedd o gartrefi, yn rhan o uchelgais ehangach llywodraethau Cymru a Phrydain i sicrhau cyflenwadau ecogyfeillgar a chynaliadwy.
Ond mae鈥檙 galw am gyflymu鈥檙 broses o gymeradwyo neu ystyried ceisiadau o'r fath yn cael ei atseinio gan arbenigwr blaenllaw yn y sector.
鈥淏ob amser mae ystyriaethau, ond mae鈥檔 rhaid cyflymu y gosodiadau yma," meddai Gerallt Llewelyn, cyfarwyddwr cynllun ynni Morlais ar Ynys M么n.
鈥淒wi鈥檔 meddwl fod angen amlhau y mathau o ynni adnewyddol da' ni angen hefyd.
鈥淢ae cynllunio yn mynd i arafu y broses, a ffeindio鈥檙 balans yn bwysig iawn, ac mi fasa ffeindio鈥檙 balans yn gynt rhwng yr amgylchedd a鈥檙 angen ynni yn braf iawn i'w weld."
'Symleiddio a chyflymu'r broses'
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod deddf newydd isadeiledd yn symleiddio a chyflymu鈥檙 broses o gymeradwyo cynlluniau o'r fath.
鈥淢ae ein polisi cynllunio yn hynod gefnogol i brosiectau ynni adnewyddadwy sydd wedi eu cynllunio鈥檔 dda," meddai llefarydd.
鈥淢ae deddf isadeiledd newydd yn cynnig proses gymeradwyo newydd sydd wedi'i symleiddio a'i chyflymu."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod nhw wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar newidiadau gweithredol i brosesau cymeradwyo'r Prosiect Seilwaith o Arwyddoc芒d Cenedlaethol, sy'n cynnwys argymhellion i gyflymu'r broses.
"Bydd ein hymateb i'r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd8 Medi 2023