大象传媒

Corff treftadaeth Cadw yn dathlu'r deugain

Castell CaernarfonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 94 o gestyll yn cael eu diogelu gan Cadw, gan gynnwys Castell Caernarfon

  • Cyhoeddwyd

Mae eleni yn garreg filltir go arbennig i gorff treftadaeth Cymru, Cadw, gan ei fod yn dathlu ei ben-blwydd yn 40.

Yn ogystal, mae hi'n 75 mlynedd ers i adeiladau hanesyddol gael eu rhoi ar restr yng Nghymru, gan roi statws cadwraeth arbennig iddynt.

Cafodd Cadw ei sefydlu yn ystod tymor yr Hydref yn 1984 fel asiantaeth ar y cyd ar gyfer Swyddfa Cymru a Bwrdd Twristiaeth Cymru.

Daeth yn gyfrifol am 10,500 o adeiladau rhestredig a 2,700 o gofebau yr Adran Amgylchedd.

Y bwriad oedd diogelu a hyrwyddo treftadaeth Cymru i ymwelwyr, ac ers hynny, mae 20,000 yn rhagor o adeiladau a henebion hanesyddol wedi derbyn statws gwarchodedig.

Daeth ton gyntaf yr adeiladau rhestredig ym mis Mai 1949.

Roedd yn cynnwys prif adeilad Prifysgol Bangor a Neuadd y Dre Bangor, sef Plas yr Esgob gynt, sydd 芒鈥檌 wreiddiau yn y 16eg Ganrif.

Powys yw鈥檙 sir sydd 芒鈥檙 nifer fwyaf o adeiladau neu henebion rhestredig, gyda bron i 5,500, a sir leiaf Cymru, Merthyr Tudful sy鈥檔 ail ar y rhestr - sy'n adlewyrchu ei threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog.

Mae dros 1,000 o eglwysi wedi eu rhestru, tua 670 o gapeli, dros 300 o dafarndai, 94 o gestyll a 25 o oleudai.

Mae bron hanner yr asedau sydd wedi鈥檜 rhestru yn gartrefi gyda dros 2,000 芒 chysylltiad gyda thrafnidiaeth a 2,350 i鈥檙 diwydiant ffermio.

Dywedodd Gwilym Hughes, pennaeth Cadw, fod gan Gymru un o鈥檙 canrannau uchaf o adeiladau hanesyddol yn Ewrop.

鈥淢ae tua 30% o holl adeiladau preswyl Cymru yn dyddio n么l i cyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae hynny鈥檔 anhygoel,鈥 meddai.

鈥淩y鈥 ni wedi rhestru rhai pethau rhyfedd dros y blynyddoedd 鈥 o giosg afal yn y Mwmbwls, sy鈥檔 gerflun od, i flwch ffonio heddlu glas yng Nghasnewydd.

"Ac yn Nhredegar ry'n ni wedi rhestru lwmp o lo, wel dydi o ddim jyst yn lwmp mae鈥檔 15 tunnell o lo. Dyma鈥檙 mwya鈥 o lo sydd wedi鈥檌 gloddio a鈥檌 gerflunio... dim ond yng Nghymru!鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan Gymru un o鈥檙 canrannau uchaf o adeiladau hanesyddol yn Ewrop, yn 么l Mr Hughes

Draw yn Y Barri, Bro Morgannwg mae 鈥榥a 57 o henebion ar y rhestr sy鈥檔 amrywio o d欧 bad achub i doiled cyhoeddus sy'n wynebu鈥檙 m么r.

Y diweddaraf i gael ei amddiffyn yw gorsaf reilffordd Ynys Y Barri, sy鈥檔 cael ei disgrifio fel 鈥渆nghraifft dda o orsaf drenau o ddiwedd y 19eg Ganrif".

鈥淒ydi o ddim wedi newid, sy'n ei wneud yn arbennig ac mae'n adlewyrchu Y Barri yn ystod cyfnod Fictoraidd hwyr,鈥 ychwanegodd Mr Hughes.

"Cafodd ei sefydlu ym 1884 pan oedd y dociau'n dechrau cael eu hadeiladu ac mi dyfodd y dref yn aruthrol o bentre鈥 bach i dref o 30,000 o bobl o fewn tua 10 mlynedd.

"Mae'r orsaf yma鈥檔 adlewyrchu'r stori honno o dwf anhygoel."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dennis Clarke yw perchennog y Llys yn Nhregatwg - yr unig adeilad rhestredig gradd un yn y dref

Mae Dennis Clarke yn byw yn y Llys yn Nhregatwg ger Y Barri, sy'n gartref i golomendy rhestredig Gradd un - yr unig adeilad rhestredig Gradd un yn y dref.

"Mae'r colomendy yma dros 800 mlwydd oed. Yn y dyddiau hynny doedd gennych chi ddim colomendy oni bai eich bod yn hynod gyfoethog," meddai.

"Byddai wedi bod yn symbol o statws ond hefyd yn ffynhonnell bwysig iawn o bob math o bethau, gan gynnwys cig, plu, wyau ac mi oedd hyd yn oed powdr gwn yn cael ei gadw y tu mewn iddo."

'Braint cael byw yma'

Symudodd Mr Clarke i'r eiddo bron i 10 mlynedd yn 么l ac mae'n rhoi teithiau tywys sydd wedi鈥檜 cymeradwyo gan Cadw.

"Mae'n anffodus mai dyma'r unig ran o'r plasty sydd wedi goroesi," ychwanegodd.

"Yn 么l y chwedl, fe'i llosgwyd i lawr gan Owain Glynd诺r. Cafodd ei ailadeiladu gan y perchnogion yn y 15fed ganrif ond yna syrthiodd i gyflwr gwael ac adeiladwyd y rheithordy Gradd 2 - sydd bellach yn gartref i ni - yn 1873."

Dywedodd ei bod yn 鈥渇raint cael byw yma ond yr hyn sy'n mynd gyda'r fraint honno yw'r cyfrifoldeb i edrych ar ei 么l, felly gobeithio bydd y bobl nesaf sy'n dod draw ar 么l i fynd, yn teimlo'r un ffordd ag yr ydyn ni.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd un hanesydd wrth Mr Clarke fod gan yr adeilad yma "fwy o hanes fesul modfedd sgw芒r nag unman arall yn Y Barri"

Mae dros 50 o adeiladau gradd dau wedi鈥檜 hychwanegu at y rhestr ers dechrau 2023, gan gynnwys 13 eleni.

Y diweddaraf yw Eglwys Gatholig 'Christ The King' yn Llanfair ym Muallt, Powys, sy鈥檔 dyddio n么l i鈥檙 1950au.

Cafodd garej a llety y credir iddo gael ei ddefnyddio gan chauffeurs yn gyrru twristiaid aristocratig i Fae Colwyn, sy鈥檔 dyddio o Oes Fictoria eu hychwanegu hefyd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Eglwys Gatholig 'Christ The King' yn Llanfair ym Muallt yw'r adeilad diweddaraf i gael ei ddiogelu

O dan warchodaeth dros dro gyda鈥檙 bwriad o鈥檜 rhestru, mae canolfan gelfyddydau fodern Aberystwyth a llyfrgell y brifysgol sy鈥檔 dyddio n么l i'r 1970au.

Yn 2023, cafodd rhestr nodedig Gradd dau ei roi i Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd a Chanolfan Awyr Agored Genedlaethol, Plas Menai yng Ngwynedd hefyd.

Bydd digwyddiadau drysau agored a theithiau yn cael eu cynnal fis Medi .

Pynciau cysylltiedig