Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Morlais M么n yn 'arwain y byd yn y maes ynni m么r'
- Awdur, Nia Cerys
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae cynllun ynni llanw Morlais, oddi ar arfordir Ynys M么n, yn "arwain y byd" o ran ynni morol yn 么l y datblygwyr.
Daw'r sylw wrth iddyn nhw lansio bwi monitro amgylcheddol a allai hefyd ddylanwadu ar brosiectau tebyg yn rhyngwladol.
Mae grwpiau amgylcheddol wedi codi pryderon yn y gorffennol am effaith posib y datblygiad ar fywyd gwyllt morol yn yr ardal.
Fel rhan o'r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol, bydd y bwi yn casglu data ymchwil amgylcheddol ac yn helpu i ddiogelu bywyd gwyllt y m么r wrth i dyrbinau ynni llanw gael eu defnyddio ym mharth Morlais ger Caergybi.
Bydd unrhyw ddata sy'n cael ei gasglu yn helpu i benderfynu ar ddatblygiad y prosiect yn y dyfodol, a bydd yn cael ei rannu 芒 phrosiectau ynni llanw eraill ledled y byd.
Mae'r dechnoleg casglu data ar y bwi yn cynnwys camer芒u isgoch arwyneb a coch-gwyrdd-glas (RGB), yn ogystal 芒 chamer芒u RGB tanddwr a mesuriadau cyflymder gwynt.
Prif ffocws y gwaith ydy treialu dulliau casglu data gweledol yn ogystal 芒 dadansoddi'r data sy'n cael ei gasglu o gwmpas y tyrbinau fydd yn y d诺r.
Bydd y prosiect hefyd yn helpu鈥檙 t卯m i ddysgu mwy am y bywyd gwyllt morol yn yr ardal, gan gynnwys dolffiniaid, llamhidyddion a physgod.
'Cymryd hyn gam wrth gam'
Esboniodd Dafydd Gruffydd, rheolwr gyfarwyddwr Menter M么n: "Mae'n fwi 20 metr o hyd ac mae 'na sawl sensor arno fo.
"Mae ganddon ni gamer芒u sy'n tynnu lluniau uwchben y d诺r ac o dan y d诺r ac mae ganddoch chi sensors acwstig ac yn y blaen.
"Mae'n casglu data ar famaliaid m么r - ar bysgod a dolffiniaid ac yn y blaen - ac mae hwnnw wedyn yn cael ei ddehongli.
"Mae hynny wedyn yn rhoi syniad i ni o sut mae'r bywyd gwyllt yn byw yn y parth yma.
"Mae hynny wedyn yn ein caniat谩u ni i gymharu sut maen nhw'n byw ar hyn o bryd ac o bosib be' fyddai impact dyfeisiadau yn y m么r ar eu bywyd nhw."
Ychwanegodd bod y dechnoleg yn sicrhau bod cynllun Morlais yn "arwain y byd yn y maes ynni m么r" ac y bydd y data yn ddefnyddiol i "ardaloedd eraill o gwmpas y byd sy'n datblygu cynlluniau tebyg i hyn".
"'Da ni wedi ymrwymo i warchod yr amgylchedd fan hyn," meddai.
"Felly mae hwn yn arwain y ffordd o ran monitro y sefyllfa ar hyn o bryd, ac wedyn monitro effaith dyfeisiadau sy'n mynd i'r m么r."
"'Da ni'n cymryd hyn gam wrth gam, 'da ni'n gosod ychydig o ddyfeisiadau yn y m么r a gweld be' ydy'r impact.
"Os ydy'r impact yn negyddol, fydd y gwaith yn stopio'n fanna, ond pan 'da ni'n hyderus bod 'na ddim impact negyddol fyddwn ni'n ymestyn y cynllun."
'Helpu hyrwyddo鈥檙 sector'
Yn 么l Clare Llywelyn, rheolwr y Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol, maen nhw'n "eitha' hyderus na fydd unrhyw niwed i fywyd morol yr ardal".
Ychwanegodd: "Mae'n gyffrous iawn.
"Rydym yn gweithio gydag arbenigwyr sy'n arwain y byd - mae diffyg tystiolaeth ar hyn o bryd o fewn y diwydiant ynni llif llanw.
"Bydd canfyddiadau y prosiect ymchwil ar gael i brosiectau ynni llif llanw tebyg yng Nghymru ac yn fyd-eang i wir helpu hyrwyddo鈥檙 sector hwn.鈥
Ym mis Mawrth 2022, sicrhaodd prosiect Morlais 拢31m o gyllid fel rhan o'r grant mawr olaf gan raglen gyllido ranbarthol yr UE ar gyfer y cynllun.
Mae'n cynnwys ardal 35km sgw芒r o wely鈥檙 m么r ger Ynys Cybi, Ynys M么n.
Mae ganddo'r potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan.
Unwaith y bydd yn gwbl weithredol, bydd cynllun Morlais yn gallu darparu p诺er gl芒n ar gyfer dros 180,000 o gartrefi.
'Rhoi Ynys M么n ar y map'
Yn 么l Gareth Roberts, arweinydd gweithrediadau Morlais sydd wedi bod yn cydweithio gyda'r contractwyr Jones Bros, mae'r gwaith paratoi wedi'i wneud er mwyn hwyluso pethau i ddatblygwyr yn y dyfodol.
"Fysa chi'n gallu edrych arno fo fath'a safle carafanau," esbonia Mr Roberts.
"'Da chi'n dod 芒'ch carafan, plygio fo mewn i'r system a wedyn 'da chi'n barod i fynd.
"'Da ni wedi mynd trwy'r broses o gael caniat芒d, cael connection i'r grid, 'da ni'n ganol gwneud yr adeilad r诺an a diwedd mis Hydref 'da ni'n gobeithio bydd bob dim yn ei le.
"Fedr datblygwyr ddod, gosod eu hoffer yn y m么r, rhedeg cebl yn 么l i'r adeilad ar y tir - sydd hefyd wedi'i rannu i naw rhan - lle fydd ganddyn nhw eu hoffer wedyn i allu troi eu trydan yna'n 么l i connection ni yn 么l i'r grid."
Mae Mr Roberts yn credu bod Morlais "yn sicr yn rhoi Ynys M么n ar y map".
Meddai: "Mae ganddon ni 240 megawat o consent - mae hynny'r un o'r mwya'n y byd.
"O ochr ryngwladol, mae pawb yn sb茂o ar hyn.
"'Da ni'n gweithio'n agos efo cwmni o Sbaen - Magallanes - nhw ydy un o'r datblygwyr sy'n mynd i ddod yma yn 2026.
"Ond 'da ni wedi bod yn trafod efo datblygwyr o gwmpas y byd.
"Fel hogyn lleol, i weld Sir F么n ar y map - ar y world stage fel maen nhw'n deud - mae o'n ffantastig."
Bydd y bwi amgylcheddol yn aros yn y m么r oddi ar arfordir Caergybi tan ddiwedd y flwyddyn.
Pan fydd y cam yma o'r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol wedi'i gwblhau, mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar osod tyrbinau yn y m么r yn 2026, gyda'r gwaith monitro yn parhau trwy gydol y prosiect.