Dylai Port Talbot 'roi'r gorau' i gynhyrchu dur newydd
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd yn rhaid i Bort Talbot "roi'r gorau" i gynhyrchu dur o'r newydd, neu virgin steel, yn 么l datblygwyr un o weithfeydd dur gwyrdd cynta'r byd.
Dywedodd un o benaethiaid cwmni H2 Green Steel o Sweden nad oedd yr amodau'n iawn ar hyn o bryd yn lleol i symud at ffwrnesi hydrogen.
Yn hytrach, fe ddylai'r gweithfeydd ganolbwyntio ar arwain wrth ailgylchu dur, meddai hi.
Mae'r gweithwyr ym Mhort Talbot yn dal i aros am gyhoeddiad gan gwmni Tata yngl欧n 芒'u cynllun i ddadgarboneiddio'r safle.
Roedd undebau wedi rhybuddio mai'r bwriad oedd cael gwared ar y ddwy ffwrnes chwyth draddodiadol - sy'n dibynnu ar lo ac yn cynhyrchu dur o ddeunyddiau crai.
Yn eu lle, byddai ffwrnes drydan yn cael ei osod, sy'n toddi metel sgrap.
Byddai hwn, maes o law, yn cael ei bweru gan drydan gl芒n o'r grid, gan leihau 么l-troed carbon enfawr y gweithfeydd yn sylweddol.
Ond mae 'na ofnau y byddai hyn yn arwain at golli hyd at 3,000 o swyddi, gyda'r Deyrnas Unedig hefyd yn colli ei gallu i gynhyrchu'r math yma o ddur ac yn gorfod ei fewnforio yn y dyfodol.
Yn Boden yng ngogledd Sweden, mae H2 Green Steel wrthi'n adeiladu'r hyn fydd gweithfeydd dur hydrogen gwyrdd gynta'r byd ar raddfa fawr, gyda'r disgwyl y bydd yn barod erbyn 2025.
Mae'r tanwydd gl芒n yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio trydan sy'n dod yn bennaf o bwerdy hydro gyfagos, sy'n darparu ynni adnewyddadwy cyson a dibynadwy.
Mae gan yr ardal ddigonedd o ynni gwyrdd, yn ogystal ag un o gynhwysion allweddol eraill y broses - mwyn haearn o safon uchel.
Y syniad yn Boden yw cynhyrchu oddeutu pum miliwn o dunelli o ddur pur y flwyddyn erbyn 2030 - gyda'r cwmni yn llygadu cyfleoedd eraill yn Canada a Brasil.
Ond "mae diffyg amodau cywir ar hyn o bryd" mewn gwledydd fel y Deyrnas Unedig, yn 么l Kajsa Ryttberg-Wallgren, is-lywydd gweithredol H2 Green Steel.
A fydd angen rhoi'r gorau i'r syniad o gynhyrchu dur o'r newydd felly?
"Bydd, si诺r o fod," meddai. "Neu fe fydd hi'n farwolaeth araf."
Byddai cynhyrchu digon o hydrogen gwyrdd yn "anodd iawn heb b诺er gl芒n cyson," meddai.
Byddai dibynnu ar drydan ysbeidiol o ffermydd gwynt mawr yn y m么r - fel allai ddigwydd yng Nghymru - yn fwy costus ac felly yn anymarferol, honnodd.
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2023
Am nawr, ei hawgrym yw i weithfeydd fel yr un ym Mhort Talbot ganolbwyntio ar arbenigo mewn ailgylchu dur mewn ffwrnesi trydan.
"Gwariwch eich holl adnoddau ar warchod eich gweithwyr - eu hailhyfforddi nhw a sicrhau eu bod nhw gyda'r gorau o ran gwerthu cynnyrch gwyrdd," meddai.
"Mae gyda chi sector moduro cryf iawn yn y DU, er enghraifft, sy'n fodlon talu mwy - maen nhw'n chwilio am gynnyrch dur gwyrdd."
'Dim dull 100% cywir o wneud hyn'
Dywedodd yr Athro Cameron Pleydell-Pearce, cyfarwyddwr Sustain, canolfan ymchwil benodol Prifysgol Abertawe ar y diwydiant, dur ei fod ef hefyd yn credu bod 'na "gyfleoedd sylweddol ar gyfer cynhyrchu dur 芒 sgrap".
Rhan o waith Sustain yw deall mwy yngl欧n 芒 sut i ymestyn hyd oes cynnyrch metal a'i ailgylchu yn effeithiol, yn ogystal 芒 pha fath o gynnyrch eraill y gallai fod ar 么l cael ei doddi.
Tra'n dal tin gwag, fe esboniodd yr Athro Pleydell-Pearce sut y gallai gael bywyd newydd fel panel solar ar do cartref ecogyfeillgar.
"Mi allen ni ddatblygu economi gyfan o amgylch hyn yn ne Cymru," eglurodd.
"Ry'n ni mynd i fod yn gwneud lot mwy o hyn yn nhermau edrych ar 么l defnyddiau a sicrhau eu bod nhw'n teithio mewn modd cyfrifol drwy'r gadwyn gyflenwi yn 么l i'r gweithfeydd dur.
"A bydd 'na lot o swyddi yn gysylltiedig 芒 hynny wrth i ni symud at economi cylchol."
Er hynny, dywedodd yr Athro Pleydell-Pearce ei bod yn bwysig i beidio diystyru atebion gwahanol ar gyfer gweithfeydd Port Talbot.
Gellid parhau 芒 ffwrnesi chwyth drwy ddefnyddio technolegau dal a storio carbon, meddai - tra bod ffwrnesi hydrogen "ddim yn amhosib".
"Mae angen i bobl sylweddoli nad oes dull 100% cywir o wneud hyn... felly fe fyddwch chi'n gweld ystod eang o atebion posib yn cael eu cyflwyno," meddai.
"Yn y DU mae'n rhaid i ni fod yn uchelgeisiol yngl欧n 芒 hyn - mae gyda ni hanes cryf iawn o ran cynhyrchu dur ac fe allwn ni arwain eto."
Galw am atal 'dad-ddiwydiannu'
Mae prif swyddog gweithredol Diwydiant Net Sero Cymru, Ben Burggraaf, yn dweud fod cynlluniau Tata i adeiladu ffwrnes drydan yn "ddechrau'r siwrne", ac y gallai hydrogen chwarae rhan yn y dyfodol.
Mae diwydiannau mawr yn ne Cymru yn cydweithio ar gynllun allai weld hydrogen yn cael ei gynhyrchu ar raddfa fawr - i ddechrau trwy ddefnyddio nwy naturiol.
Ond byddai cynhyrchu gwyrdd yn dilyn hynny wrth i ffermydd gwynt gael eu hadeiladu oddi ar yr arfordir, meddai Mr Burggraaf.
Ychwanegodd na all Cymru fforddio "parhau i ddad-ddiwydiannu ein cenedl" a mewnforio nwyddau a gwasanaethau o dramor.
- Cyhoeddwyd17 Medi 2023
- Cyhoeddwyd16 Medi 2023
- Cyhoeddwyd15 Medi 2023
Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel eu bod nhw a llywodraethau Cymru a'r DU "wedi ymrwymo i droi at gynhyrchu dur yn fwy gwyrdd".
"Technoleg ffwrnesi trydan yw'r ffordd fwyaf ymarferol a chynaliadwy yn economaidd ar hyn o bryd i dorri allyriadau carbon a diogelu dyfodol gwneud dur ym Mhort Talbot," meddai.
"Mae'r DU yn gwneud 10 miliwn tunnell o ddur sgrap pob blwyddyn, allai gael ei ddefnyddio i wneud dur mewn ffwrnesi trydan.
"Bydd y dechnoleg yma yn torri ein hallyriadau o bum miliwn tunnell y flwyddyn, sydd gyfystyr 芒 thua dwy filiwn o gartrefi.
"Rydyn ni'n dal i ystyried ffyrdd gwahanol i wneud dur carbon-niwtral ar draws ein holl safleoedd yn y DU yn y dyfodol, allai gynnwys hydrogen neu dechnoleg sy'n casglu carbon, yn ogystal 芒'n cynlluniau presennol."