Cip cyntaf tu 么l i'r llenni ar waith y Gwasanaeth Prawf

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Mae鈥檙 gyfres Ar Brawf聽yn dilyn troseddwyr yn y gymuned yn ogystal 芒鈥檙 swyddogion prawf sydd yn eu cefnogi
  • Awdur, Megan Davies
  • Swydd, Gohebydd Newyddion 大象传媒 Cymru

Am y tro cyntaf erioed mae camer芒u wedi cael mynediad at y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru.

Mae鈥檙 gyfres Ar Brawf聽yn dilyn troseddwyr yn y gymuned yn ogystal 芒鈥檙 swyddogion prawf sydd yn eu cefnogi.

鈥淩oedden ni鈥檔 gwybod y byddai cael mynediad i鈥檙 Gwasanaeth Prawf yn her,鈥 meddai Anna-Marie Robinson, cynhyrchydd y gyfres ar S4C.

Treuliodd gwmni cynhyrchu Darlun dair blynedd yn perswadio鈥檙 Weinyddiaeth Gyfiawnder i adael criw teledu i mewn i swyddfa Gwasanaeth Prawf Gwynedd a M么n.

鈥淢ae o鈥檔 bortread warts and all聽鈥 dyna beth oedd y gytundeb,鈥 meddai Anna-Marie.

鈥溾橠an ni ddim yno i feirniadu. 鈥楧an ni ddim ond yna i adlewyrchu a dysgu a dangos.鈥

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Roedd yna drafodaethau hir cyn i'r cynhyrchwyr gael caniat芒d i ffilmio gwaith y gwasanaeth

Yn 么l cynhyrchwyr y rhaglen, mae 30% o鈥檙 troseddwyr yn y system yn debygol o droseddu eto.

鈥淢ae鈥檙 mwyafrif o鈥檔 gwaith ni fel Swyddogion Prawf yn digwydd y tu 么l i鈥檙 llenni ac yn aml yn gallu cael ei gamddeall gan y cyhoedd,鈥 meddai Elin Gaffey, un o鈥檙 swyddogion yn y rhaglen.

鈥淲eithiau mae ein gwaith ni鈥檔 cynnwys gweithio gyda phobl o gefndiroedd cymhleth sy鈥檔 ei gwneud hi鈥檔 heriol iawn.鈥

Dau o鈥檙 bobl dan y chwyddwydr yn y gyfres ydy Martin a Dei, gyda鈥檙 camer芒u yn dyst i鈥檞 hapwyntiadau gyda鈥檙 Gwasanaeth Prawf dros gyfnod o wythnosau.

I Martin, sydd ar fin dod yn daid am y tro cyntaf, y nod ydy osgoi dychwelyd i鈥檙 carchar wedi iddo fod yn y system gyfiawnder am dros 20 o flynyddoedd.

Mae鈥檙 camer芒u hefyd yn dilyn Dei wrth iddo gwblhau 200 awr o waith di-d芒l yn lleol am greulondeb i anifeiliaid.

Mae鈥檙 troseddwyr sydd yn y system yn gorfod gorffen eu cyfnodau prawf gan ddilyn rheolau ac amodau penodol eu dedfrydau.

Os ydyn nhw鈥檔 torri鈥檙 rheolau, mae gan Swyddogion Prawf yr hawl i hala nhw yn 么l i鈥檙 llys neu yn syth i鈥檙 carchar.

'Dan ni fel MI5'

Mae eraill yn y rhaglen yn rhannu eu profiadau o ddelio gyda heriau iechyd meddwl a dibyniaeth i sylweddau.

I鈥檙 t卯m cynhyrchu, roedd trin y bobl yma yn gywir yn flaenoriaeth o鈥檙 cychwyn cyntaf yn 么l Anna Marie Robinson.

鈥淒wi鈥檔 newyddiadurwr ers 30 o flynyddoedd a dwi erioed wedi gweithio ar unrhyw beth mor heriol 芒 hyn mewn bulk聽o鈥檙 blaen.

鈥淒oedden ni ddim yna i feirniadu beth oedden nhw wedi ei 鈥榥eud. Mae鈥檙 llys wedi gwneud hynny. Mae鈥檙 ddedfryd wedi cael ei gosod.鈥

Yn 么l Anna Marie, roedd y 鈥渂uddsoddiad鈥 yn enfawr wrth baratoi i ffilmio gyda鈥檙 troseddwyr a鈥檙 swyddogion er mwyn a sicrhau eu bod nhw鈥檔 cael eu cefnogi a鈥檜 hadlewyrchu鈥檔 deg ar y sgrin.

Ychwanegodd: 鈥淕es i lein ffantastig gan un o'r swyddogion prawf cyn i ni ddechrau ffilmio, pan o鈥檔 i鈥檔 gofyn ac yn trio dysgu be鈥 maen nhw鈥檔 neud, a dyma hi鈥檔 鈥榙eud: 鈥楧an ni fel MI5, mae pawb yn gwybod bo鈥 ni鈥檔 bodoli ond does neb yn gwybod be鈥 鈥榙a ni鈥檔 鈥榥eud.鈥

Bydd y gyfres chwe phennod yn dechrau ar S4C nos Fawrth 2 Ebrill am 21.00.