大象传媒

Arian p锚l-droedwyr Cymru at ymgyrch cartref y Beasleys

cartref y BeasleysFfynhonnell y llun, BJP Residential
  • Cyhoeddwyd

Mae p锚l-droedwyr carfan Cymru wedi rhoi 拢2,500 tuag at ap锚l i achub cartref ymgyrchwyr oedd yn flaenllaw yn y frwydr dros hawliau iaith Gymraeg.

Ar hyn o bryd mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn ceisio codi arian er mwyn adfer hen d欧 Eileen a Trefor Beasley yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin.

Mae'r adeilad, medden nhw, bellach yn dirywio ar 么l bod yn wag am dros ddegawd, a'u bwriad yw ei adnewyddu er mwyn creu canolfan dreftadaeth ar y safle.

Roedd y Beasleys yn ymgyrchwyr iaith blaenllaw yn yr 1950au, gan ymddangos yn y llys sawl tro am wrthod talu bil treth cyngor uniaith Saesneg.

Mae'r arian sydd wedi ei roi at yr achos yn dod gan y chwaraewyr eu hunain, yn hytrach na Chymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC).

Er bod y chwaraewyr yn cael eu talu rywfaint am gynrychioli eu gwlad, mae'r arian hwnnw fel arfer yn cael ei ddosbarthu i elusennau ac achosion da o'u dewis nhw.

Er nad yw rhan fwyaf y garfan yn siarad Cymraeg, dywedodd Menter Cwm Gwendraeth Elli eu bod nhw wrth eu bodd fod y chwaraewyr wedi dewis cefnogi ymgyrch sy'n gysylltiedig 芒'r frwydr hanesyddol dros hawliau'r iaith.

"Mae鈥檔 dangos pa mor bell mae鈥檙 t卯m wedi dod, a sut mae Cymru fel cenedl wedi newid," meddai Derek Rees o'r fenter.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwaraewyr carfan Cymru oedd wedi dewis rhoi arian tuag at yr ymgyrch i achub cartref y Beasleys, fel un o'r achosion da maen nhw'n eu cefnogi

"Byddai gweld t卯m p锚l-droed Cymru yn cyfrannu i鈥檙 fath ymgyrch yn anghredadwy ddegawd yn 么l."

Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli eisoes wedi codi 拢9,000 tuag at eu hymgyrch, sydd 芒 tharged ariannol o 拢30,000.

"Nawr yw鈥檙 amser i achub y safle hanesyddol ar gyfer y dyfodol, gan greu canolfan sy鈥檔 dathlu cyfraniad aruthrol Trefor ac Eileen tuag at barhad yr iaith Gymraeg a鈥檌 statws," meddai'r fenter.

Eu bwriad yw prynu鈥檙 t欧 a'i adnewyddu er mwyn "creu canolfan treftadaeth ar y safle, a fydd o fudd i鈥檙 gymuned leol a hefyd i鈥檙 genedl gyfan".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth safiad Eileen a Trefor Beasley ysbrydoli nifer o ymgyrchwyr iaith eraill ddaeth ar eu holau, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith

Yn 2015 cafodd plac glas ei osod gan Treftadaeth Cymuned Llanelli ar y bwthyn yn 2 Yr Allt, Llangennech, a fu'n gartref i'r Beasleys rhwng 1952 a 1964.

Tan 1960 bu'r Beasleys yn brwydro i gael ffurflen dreth ddwyieithog gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli.

Bu'r ddau yn y llys 16 o weithiau ac fe wnaeth beil茂aid ymweld 芒'u cartref bedair gwaith, gan fynd 芒'r rhan fwyaf o'u dodrefn o'r t欧.

Ar 么l wyth mlynedd o ymgyrchu fe enillon nhw eu brwydr ac fe dderbynion nhw bapur treth dwyieithog yn 1960.