大象传媒

Rhannu 'obsesiwn' 芒 bod yn denau i 'chwalu tab诺' athletwyr

Cerian yn graddio Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cerian yn rhannu ei phrofiad yn y gobaith y bydd yn annog merched ifanc i siarad am eu problemau

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod anhwylderau bwyta

Mae menyw ifanc o Ynys M么n wedi rhannu ei phrofiad o ddelio ag anhwylder bwyta a'r "obsesiwn" oedd ganddi gyda bod yn denau, yn y gobaith o helpu athletwyr ifanc eraill.

Bu Cerian Harries, 22 oed, drwy gyfnod heriol pan oedd yn y chweched dosbarth wrth fyw ag anhwylder bwyta a phroblemau hunan ddelwedd fel athletwraig.

Ar un cyfnod roedd hi'n nofio am dros 16 awr yr wythnos ac yn hyfforddi deirgwaith yr wythnos yn y gampfa.

Mae bellach yn rhannu ei phrofiad ar y cyfryngau cymdeithasol yn y gobaith y bydd yn annog merched ifanc i siarad am eu problemau.

Daw wrth i Chwaraeon Cymru lansio cynllun yn annog nofwyr ifanc i drafod eu problemau'n agored, datblygiad sy'n cael ei groesawu'n fawr gan Cerian.

'Oedd o鈥檔 gyfnod uffernol o anodd'

A hithau wedi bod yn nofio ers yn ifanc iawn, gan ennill sawl pencampwriaeth genedlaethol, penderfynodd Cerian edrych ar ei deiet er mwyn gwella ei pherfformiad.

Er iddi gydnabod fod y cyfan wedi "dechrau yn reit ddiniwed", dywedodd iddo droi yn "obsesiwn o ba mor denau oeddwn i, a meddwl oeddwn i'n dew wrth sb茂o ar fy hun".

Dywedodd iddi greu rhestr o fwydydd "drwg" nad oedd am fwyta.

"Mi ges i fy hun mewn i'r twll lle oeddwn i basically ddim yn bwyta dim byd... doedd 'na ddim byd ohona fi, just esgyrn".

"Ro'n i鈥檔 licio鈥檙 teimlad o fod eisiau bwyd, ro鈥檔 i鈥檔 cweit prowd bo fi鈥檔 gallu peidio bwyta.

鈥淥edd o鈥檔 gyfnod uffernol o anodd, ond ar y pryd nes i ddim sylwi."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mi wnaeth y physical recovery ddigwydd lot cynt na鈥檙 mental, dwi dal weithiau yn stryglo 别蹿辞鈥檙 mental wan," meddai Cerian

Aeth y broblem o ddrwg i waeth pan sylweddolodd nad oedd yn cael mislif yn fisol, ac er iddi fynd at y doctor, dywedon nhw ei fod yn rhywbeth "normal" am ei bod yn gwneud cymaint o chwaraeon.

Bu ar restr aros i weld doctor am gyfnod, ond dywedodd mai hi ei hun ddaeth i鈥檙 casgliad bod rhywbeth wir yn bod arni wrth wneud ymchwil ar gyfer prosiect ysgol.

Wrth ymchwilio i pam fod cymaint o athletwyr benywaidd yn colli eu mislif, sylweddolodd ei bod yn gallu uniaethu 芒'r ymchwil.

Wedi iddi gydnabod bod 'na broblem, fe dderbyniodd dipyn o gymorth gan ei hyfforddwr nofio i geisio ennill pwysau - proses heriol iawn, meddai.

'Nes i sylwi bod rhannu dy stori gyda chymaint o b诺er'

"Mi wnaeth y physical recovery ddigwydd lot cynt na鈥檙 mental, dwi dal weithiau yn strugglo 别蹿辞鈥檙 mental wan."

Dywedodd fod tab诺 yn bodoli o amgylch athletwyr yn siarad am broblemau, ac roedd yn awyddus i 鈥渃hwalu鈥檙 tab诺鈥 ac addysgu eraill gan rannu ei phrofiad ar-lein.

Dywedodd fod yr ymateb wedi bod yn "shocking" gyda chymaint o bobl yn cysylltu 芒 hi i gynnig cefnogaeth.

"Oedd gen i ofn dweud beth oeddwn i wedi mynd drwy i gychwyn, oedd neb really yn gwybod i fod yn onest.

"Nath o 'neud i fi sylweddoli bod ni angen just rhannu be' da ni'n mynd trwyddo, dwyt ti ddim ar ben dy hun.

"Nes i sylwi bod rhannu dy stori gyda chymaint o b诺er."

Ar 么l treulio tair blynedd yn hyfforddi gyda th卯m Prifysgol Loughborough fe benderfynodd ddod 芒'i gyrfa nofio i ben - penderfyniad nad oedd wedi ei ragweld.

Ffynhonnell y llun, Cerian gyda'i ffrindiau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd fod 鈥榯ab诺鈥 yn bodoli o amgylch athletwyr yn siarad am broblemau

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio cynllun newydd gyda Nofio Cymru i annog nofwyr i siarad am eu problemau ac i chwalu'r tab诺 o fewn y maes.

Mewn datganiad, dywedodd Simon Middlemas, Ymarferydd Seicoleg Chwaraeon gyda Chwaraeon Cymru: "Dyw sgyrsiau am les ddim yn dod yn naturiol bob amser i hyfforddwyr ac athletwyr, ond roedden ni'n gwybod y byddai darparu lle i'w cael nhw yn helpu i greu amgylchedd lle gall eu hathletwyr ffynnu."

Mae Cerian yn croesawu'r cynllun hwn yn fawr gan ddweud fod "pobl just angen rhywun i siarad efo nhw weithia' a gwybod bod nhw ddim ar ben eu hunain".

Ychwanegodd ei bod yn bwysig i bobl ifanc wybod "beth sydd ddim yn normal o fewn y byd chwaraeon hefyd".

Pynciau cysylltiedig