大象传媒

Enwau newydd, gobaith newydd ond yr un hen heriau i'r rhanbarthau?

Y 4 hyfforddwrFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hyfforddwyr rhanbarthau Cymru - Dai Flanagan (Y Dreigiau), Dwayne Peel (Scarlets), Toby Booth (Y Gweilch) a Matt Sherratt (Caerdydd)

  • Cyhoeddwyd

Sanau? Check.

Trowsus cwta newydd? Yn y bag.

Gorchudd dannedd? Wedi ei olchi.

Pres poced? Llai na llynedd!

A dyna ni 鈥 yr hanfodion yn eu lle ar gyfer tymor newydd o鈥檙 Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Ac er bod 'na obaith newydd i gefnogwyr fe fydd yr esgid yn gwasgu yn dynnach nag erioed i鈥檙 rhanbarthau eleni.

拢4.5m sydd yn y coffrau i dalu chwaraewyr - gostyngiad o 拢0.7m ar y tymor diwethaf.

Felly gyda鈥檙 Gweilch, Caerdydd, Y Dreigiau a鈥檙 Scarlets yn cyfri鈥檙 ceiniogau yn fwy nag erioed pa obaith sydd gan y timau o gyrraedd brig y tabl a chystadlu 芒 goreuon y gynghrair?

Caerdydd

Diddanu a chyffroi'r ffyddloniaid ar Barc yr Arfau oedd y nod i鈥檙 Prif Hyfforddwr, Matt Sherratt, y llynedd a dyna lwyddodd ei chwaraewyr ifanc dawnus i wneud.

Roedd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn gwylio hefyd gyda saith chwaraewr yn ennill eu cap cyntaf dros eu gwlad y tymor diwethaf.

Adeiladu ar lwyddiant y talent ifanc fydd y nod eleni.

Mae 'na enwau mawr wedi ymuno ac ymadael eleni. Ymhlith y rhai sy鈥檔 cyrraedd?

Y maswr o Gaerdydd Callum Sheedy - yn dychwelyd i Gymru wedi degawd ym Mryste.

Hefyd yn dod o鈥檙 鈥淏ears鈥 y blaenasgellwr Dan Thomas.

Ffynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhai o hen ffefrynnau Caerdydd fel y capten Josh Turnbull ac Ellis Jenkins wedi ymddeol

Un enw fydd yn si诺r o gynhyrfu鈥檙 cefnogwyr ydi'r prop Ed Byrne o Leinster. Blaenwr sy鈥檔 gyfarwydd 芒 chodi tlysau draw ar yr Ynys Werdd.

Yn gadael? Fe fydd 'na dipyn o weld eisiau Tomos Williams y mewnwr sy鈥檔 mentro i Gaerloyw lle fydd Gareth Anscombe yn ei ddisgwyl fel maswr.

Er nad oedd e at ddant yr hyfforddwr cenedlaethol, doedd dim dianc rhag talent y prop Rhys Carr茅 wrth gario 鈥 mae e鈥檔 dychwelyd at y Saracens.

Ymhlith y rhai sy鈥檔 ymddeol 鈥 yr hen ffefrynnau - y capten Josh Turnbull ac Ellis Jenkins.

Yr her gyntaf i Gaerdydd nos Wener gyntaf y tymor fydd wynebu Zebre ar Barc yr Arfau.

Y Gweilch

Cyn cicio yr un b锚l roedd y Gweilch yn y penawdau gyda鈥檙 cadarnhad wedi pum mlynedd bod y Prif Hyfforddwr Toby Booth yn gadael ddiwedd y tymor.

Yr hyfforddwr amddiffyn Mark Jones fydd yn cymryd yr awenau bryd hynny ond mae nifer 鈥 gan gynnwys cyn-asgellwr y Gweilch, Alex Cuthbert, yn rhagweld y bydd y newid yn digwydd yn gynt na hynny. Amser a ddengys!

Booth yn barod i ffarwelio felly, ond eisoes wedi gadael dros yr haf mae'r asgellwr profiadol George North ynghyd 芒鈥檙 sgrymiwr dawnus Nicky Smith sy鈥檔 gadael i fynd i Gaerl欧r.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Mark Jones (chwith) ei benodi i d卯m hyfforddi'r Gweilch gan Toby Booth (dde) yn Haf 2023

Does dim cymaint o wynebau newydd yn ymuno 芒鈥檙 Gweilch 芒鈥檙 rhanbarthau eraill ond fe fydd y mewnwr, Keiran Hardy, yn wyneb cyfarwydd yn y cyffiniau ac yn cystadlu am grys rhif naw gyda鈥檌 gefnder Luke Davies.

Un teulu mawr fydd yn y rheng flaen hefyd gyda Steff Thomas a鈥檌 gefnder a phrop pen rhydd presennol y Gweilch, Gareth Thomas, yn brwydro am eu lle yn y t卯m.

Gyda Justin Tipuric yn ildio鈥檙 gapteiniaeth eleni, y blaenasgellwr Jac Morgan fydd yn arwain y rhanbarth, a thaith i Faes Rodney Parade sydd gan Y Gweilch i ddechrau gyda g锚m ddarbi yn erbyn y Dreigiau.

Y Dreigiau

Y si mawr oedd bod y cefnwr Liam Williams yn dychwelyd i Gymru ac ar ei ffordd i Rodney Parade ar gyfer y tymor newydd, ond gwadu hynny mae鈥檙 Prif Hyfforddwr, Dai Flanagan.

Serch hynny mae yna ddigon o fynd a dod gyda鈥檙 blaenwr Shane Lewis-Hughes yn teithio lawr yr M4 o Gaerdydd i Gasnewydd.

Fe fydd yr enw Steve Cummings yn un cyfarwydd i gefnogwyr y gynghrair hefyd.

Yn ymuno o Pau fe fuodd e鈥檔 gweithio gyda Flanagan yn ystod ei gyfnod gyda鈥檙 Scarlets ychydig flynyddoedd yn 么l.

Mae g诺r arall o Awstralia y canolwr Harry Wilson yn ymuno o NSW Waratahs ynghyd 芒 chwaraewr Super Rugby arall Solomone Funaki.

Ymhlith y rhai sy鈥檔 gadael mae Bradley Roberts a Lloyd Fairbrother sy鈥檔 ymddeol oherwydd anaf.

Mae yna newidiadau i鈥檙 t卯m hyfforddi hefyd gyda Filo Tiatia yn cymryd yr awenau gyda鈥檙 amddiffyn a Mefin Davies a Luke Narraway yn gadael.

Y Scarlets

Mae bron i 400 cap o brofiad rhyngwladol gyda Chymru wedi gadael Parc y Scarlets dros yr Haf.

Wyn Jones, Scott Williams, Jonathan Davies, Johnny McNicholl, Kieran Hardy, Ken Owens a Samson Lee i gyd yn hen ffefrynnau gyda鈥檙 cefnogwyr wedi blynyddoedd o wasanaeth ffyddlon.

Ond gyda chynifer yn gadael mae鈥檙 Prif Hyfforddwr. Dwayne Peel, wedi gallu mynd i鈥檞 waled gan wagio pwrs y Parc.

Yn y pac oedd problemau mawr y Scarlets y llynedd ac mae Peel wedi cryfhau y 5 blaen dros y misoedd diwethaf.

Mae鈥檙 prop rhyngwladol Henry Thomas, wedi ymuno o Castres gyda phrop yr Alban Alec Hepburn yn cyrraedd o Gaerwysg.

Hefyd yn cryfhau'r rheng flaen mae'r bachwr Marnus Van der Merwe oedd yn rhan o garfan Rassie Erasmus a gyfer y Bencampwriaeth Rygbi gyda De Affrica.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jonathan Davies ynghyd 芒 chriw profiadol wedi gadael y Scarlets dros yr Haf

Ond eisoes mae yna ben tost o ran anafiadau i darfu ar baratoadau Peel cyn y g锚m gyntaf nos Sadwrn oddi cartref yn erbyn Benetton.

Mae鈥檙 prop Harri O鈥機onnor wedi gorfod cael llawdriniaeth wedi g锚m gyfeillgar yn erbyn y Saracens.

Fe adawodd Henry Thomas y cae yn yr un g锚m hefyd. Mae cadw pawb yn ffit yn anodd ar Barc y Scarlets!

Un enw sy鈥檔 si诺r o gynhyrfu o ran yr olwyr yw Blair Murray sy鈥檔 ymuno o Canterbury yn Seland Newydd. Mae鈥檔 gymwys i chwarae dros Gymru felly fe fydd Warren Gatland yn si诺r o鈥檌 wylio yn ofalus

Enwau newydd, gobaith newydd ond yr hen heriau fydd hi i鈥檙 pedwar rhanbarth o Gymru eleni o bosib.

Gwneud y gorau o鈥檙 gwaethaf a鈥檙 sefyllfa ariannol fregus gan obeithio am ganlyniadau i gadw'r cefnogwyr yn hapus ac yn eu seddi.