Mwy na 30 o ysgolion y gogledd ar gau oherwydd rhew ac eira

Ffynhonnell y llun, Weathergirl

Disgrifiad o'r llun, Coedpoeth, Wrecsam fore Iau

Mae mwy na 30 o ysgolion gogledd Cymru wedi methu ag agor ddydd Iau oherwydd perygl rhew ac eira.

Dyma'r trydydd diwrnod yn olynol i rai o ysgolion y gogledd fethu ag agor oherwydd y tywydd.

Mae 'na ysgolion ynghau mewn pedair sir yn y gogledd - Conwy, Dinbych, Wrecsam a'r Fflint.

Roedd rhybudd melyn am rew mewn grym ar gyfer hanner gogleddol Cymru dros nos, ond fe ddaeth i ben am 10:00 fore Iau.

Ond bellach mae rhybudd arall am eira a rhew mewn grym ar gyfer y mwyafrif llethol o'r wlad brynhawn Iau tan fore Gwener.

Ffynhonnell y llun, Rebecca

Disgrifiad o'r llun, Yr olygfa ym Maes-glas, Sir y Fflint fore Iau

Gwiriwch yr ysgolion sydd ar gau yn eich ardal chi:

Ffynhonnell y llun, NorthWalesRuth

Disgrifiad o'r llun, Pentrefoelas, Sir Conwy fore Iau

Ffynhonnell y llun, Janey Liz

Disgrifiad o'r llun, Y golygfeydd ar gyrion Dinbych fore Iau, ble mae amryw o ysgolion ynghau

Cafodd nifer helaeth o ysgolion eu cadw ar gau ar draws Cymru dros y dyddiau diwethaf - gyda dros 160 ohonynt ynghau ddydd Mawrth a tua 50 ddydd Mercher.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd arall am eira a rhew ar gyfer mwyafrif y wlad.

Mae mewn grym rhwng hanner dydd, ddydd Iau, a 10:00 fore Gwener.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod darnau rhewllyd ar ffyrdd yn arwain at rai amodau teithio anodd.

Maen nhw hefyd wedi rhybuddio i gymryd gofal ar balmentydd a llwybrau beicio sydd heb eu graeanu.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd

Disgrifiad o'r llun, Mae'r rhybudd yma am eira a rhew mewn grym tan fore Gwener

Wrth edrych ymlaen at y penwythnos mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am law trwm a gwynt ar gyfer mwyafrif llethol Cymru, wrth i Storm Bert daro.

Fe fydd y rhybudd glaw, rhwng 06:00 ddydd Sadwrn tan 06:00 fore Sul, yn berthnasol i bob sir oni bai am Ynys M么n a Sir Y Fflint.

Mae'r rhybudd gwynt mewn grym ar gyfer ardaloedd gorllewinol Cymru, ac mae hynny rhwng 05:00 a 19:00 ddydd Sadwrn.

Mae disgwyl 50-75mm o law yn gyffredinol a 100-125mm o law ar dir uchel, yn arbennig yn y de, ble mae hyd at 150mm yn bosib mewn rhai mannau wrth i fand o law symud yn araf.

Gyda'r arbenigwyr yn darogan gwyntoedd o hyd at 70mya hefyd, fe allai'r amodau achosi llifogydd mewn mannau a thrafferthion i deithwyr.