大象传媒

'Cafodd Mamgu sawl str么c - o'n i ddim yn disgwyl cael un yn 31'

Menyw gyda gwallt du, yn gwisgo siwmper streipiog
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Angharad Dennis str么c fis Mawrth eleni yn 31 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae mam ifanc a gafodd str么c wedi bod yn trafod pwysigrwydd siarad gyda phobl sydd wedi mynd drwy'r un profiad.

Yn gynharach eleni, llai na chwe mis ar 么l priodi, fe gafodd Angharad Dennis str么c - ddyddiau cyn ei phen-blwydd yn 32.

Roedd siarad gyda phobl eraill oedd wedi dioddef yn help iddi drafod ei phrofiad gyda'i theulu - yn enwedig gyda'i merch fach Cari, oedd yn chwech oed ar y pryd.

Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod traean o'r bobl sydd wedi cael str么c yn dweud bod siarad gydag eraill yn allweddol i鈥檞 gwellhad.

Ar Ddiwrnod Str么c y Byd, mae鈥檙 Gymdeithas Str么c yn ceisio tynnu sylw at bwysigrwydd siarad, yn enwedig gyda rhai sy鈥檔 deall y profiad.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Angharad Dennis, ei merch Cari a'i g诺r Joe

Roedd Angharad Dennis, o Gasllwchwr yn Abertawe, a'i theulu wedi dod adre o barc safari fis Mawrth, pan gafodd ei tharo'n wael gyda'r nos.

Mae'n disgrifio teimlo fel petai'n feddw, er nad oedd hi wedi yfed alcohol, a gweld yr ystafell wely'n troi.

Doedd hi ddim yn gallu symud un o'i breichiau ac un o'i choesau, ac fe symudodd ochr o'i hwyneb i lawr.

鈥淎chos bod Mamgu wedi cael sawl str么c, ro鈥檔 i wastad yn meddwl bod risg uwch i fi," meddai.

"Felly o鈥檔 i wastad yn meddwl y gallen i gael un rywbryd yn fy mywyd, ond ddim yn 31 oed...

"O'dd dim byd oedd wedi gwneud i mi feddwl y galle rhywbeth mor traumatic a mawr ddigwydd ar y cyfnod yna yn fy mywyd."

Roedd hi a'i g诺r newydd briodi ychydig fisoedd ynghynt, ac mae Angharad yn cydnabod nad oedd "bywyd ddim i fod i fynd fel hyn... oedd cynllunie i'r dyfodol gyda ni".

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Angharad yn cofio llefain wrth i'w merch orfod ei helpu i wisgo'i sanau ar 么l y str么c, a theimlo bod y sefyllfa'n annheg

Roedd Angharad yn yr ysbyty am ryw wythnos, a鈥檙 holl gyfnod yn anodd iddi yn gorfforol ac yn emosiynol.

鈥淩o鈥檔 i鈥檔 arfer llefen lot yn yr ysbyty, pan o鈥檔 i鈥檔 meddwl am fy merch, Cari," meddai.

鈥淥nd wnaeth fy emosiynau ddim dal lan 'da fi yn iawn tan i fi ddod adre. Dyna pryd nath e' fwrw fi.

"Er bo' fi鈥檔 fam, [o'n i] ddim yn gallu gwneud pethau mae 'Mam' yn 'neud.

"Ac roedd ceisio cael fy merch i ddeall nad o鈥檔 i鈥檔 gallu gwneud pethe' penodol yn eitha' anodd.鈥

Siarad wedi 'achub bywyd'

Yn fuan ar 么l dod adref o'r ysbyty, fe gysylltodd gyda'r Gymdeithas Str么c i gael cymorth.

Daeth hynny drwy law Dave Jones, cydlynydd cefnogi adferiad i'r elusen.

鈥淧an ddaeth Dave i mewn, fy mhrif flaenoriaeth a鈥檙 her fwya' oedd, 鈥榮ut ydw i鈥檔 siarad gyda fy merch am hyn?鈥" meddai Angharad.

"O鈥檔 i ddim yn gwybod sut i esbonio beth oedd str么c."

Mae ymchwil ar ran y Gymdeithas Str么c yn awgrymu mai siarad gyda rhywun sydd wedi cael str么c eu hunain - i lawer - oedd y peth pwysicaf o ran gwellhad.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 gwybod bod gan Dave fab ifanc pan gafodd e鈥檙 str么c... Felly o'dd e鈥檔 gallu dweud wrtha' i y strategaethau mae e' wedi cyflwyno gyda鈥檌 fab, ac o鈥檔 i鈥檔 cael fy ysbrydoli wedyn ar gyfer fy merch," ychwanegodd Angharad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dave Jones yn cefnogi pobl eraill sydd wedi cael str么c, ar 么l cael dwy str么c pan yn 36 oed

Roedd Dave Jones newydd ddod yn dad am y tro cyntaf, ac yn 36 oed, pan gafodd ddwy str么c o fewn blwyddyn i'w gilydd.

"Ro'n i'n euog o ganolbwyntio ar yr hyn nad o'n i'n gallu ei wneud [ar 么l cael str么c]," meddai.

"Ond gyda help pobl [sydd wedi cael yr un profiad], chi'n dechrau canolbwyntio ar 'falle y galla i wneud hyn, beth am roi cynnig arni'."

Ar 么l clywed ei bod hi'n annhebygol y gallai weithio eto ar 么l cael ei str么c yn 2017, mae bellach yn gweithio fel cydlynydd cefnogi gwellhad i'r Gymdeithas Str么c.

Mae'n cefnogi sawl gr诺p, gan gynnwys rhai i ddynion o dan 70 oed. Ond mae oedrannau'r aelodau'n amrywio'n fawr, a rhai mor ifanc 芒 26 oed.

"Dywedodd un o'r dynion ar sawl achlysur, os nad oedd e' yn y gr诺p, na fydde' fe yma nawr - mae'r gr诺p wedi achub ei fywyd."

'Dwi'n fwy cariadus'

Yng Nghymru, mae dros 7,000 o bobl yn cael str么c bob blwyddyn yn 么l y Gymdeithas Str么c, ac mae dros 70,000 o bobl yn byw gyda'r sgil-effeithiau tymor-hir.

Mae Angharad Dennis yn dweud fod y profiad wedi newid ei blaenoriaethau, yn enwedig o ran ei merch.

鈥淒wi isie treulio amser gyda hi... O'n i鈥檔 arfer meddwl mai ennill lot o arian, cael gwyliau a鈥檙 Nadolig gorau erioed oedd y ffordd ymlaen," meddai.

"Ond dim dyna yw e'. 'Na gyd o'dd hi isie oedd fy amser, a fi鈥檔 teimlo na fasen i wedi sylweddoli hynny, tase digwyddiad bywyd fel hyn heb ddigwydd.

"Mewn ffordd, fi鈥檔 ffeindio fe鈥檔 anodd, achos fi鈥檔 ddiolchgar o 'mhrofiad, achos mae e wedi troi fi mewn i rywun mwy tyner, cariadus, sylwgar."

Pynciau cysylltiedig