Annog pobl i 'ddod 芒 cherrig yn 么l' i draeth yn Sir Benfro

Disgrifiad o'r llun, Mae un cynghorydd lleol yn awyddus i roi arwyddion ar y traeth er mwyn rhybuddio ymwelwyr o effaith cymryd y cerrig ar yr arfordir

Mae cynghorydd lleol yn annog pobl i ddychwelyd cerrig m芒n i draeth poblogaidd ar arfordir De Sir Benfro.

Mae cynghorydd sir De Saundersfoot, Chris Williams, yn honni bod cerrig m芒n wedi cael eu cymryd o鈥檙 traeth ers "blynyddoedd lawer", gan gyfrannu at erydu arfordirol.

Ar 么l i鈥檙 cerrig gael eu gosod dros y blynyddoedd i ddiogelu鈥檙 arfordir, mae鈥檔 dweud ei fod wedi gweld "nifer fawr o bobl" yn mynd 芒 cherrig m芒n o鈥檙 traeth.

Bydd cyfarfod yr wythnos nesaf i edrych ar ffyrdd o ddiogelu鈥檙 Strand a'r cerrig.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Cynghorydd, Chris Williams yn ceisio gwneud pobl yn ymwybodol bod y cerrig "yno am reswm"

Dywedodd y Cynghorydd Chris Williams bod "cerrig o bob rhan o鈥檙 byd ar draeth Saundersfoot".

"Yn y 70au, cafodd mwy o gerrig eu hychwanegu a dyna pam rydych chi'n gweld y cerrig llwyd nawr, dydy鈥檔 nhw ddim yn naturiol i'r traeth hwn, cael eu cludo yma wnaethon nhw.

"Maen nhw鈥檔 helpu i amddiffyn yr eiddo oherwydd bod y cerrig yn torri i lawr, pan fydd gwyntoedd difrifol yn dod neu stormydd, mae鈥檙 cerrig yn gweithredu fel ataliad da rhag torri鈥檙 tonnau hynny.鈥

Ond dywedodd y Cynghorydd ei fod wedi gweld pobl yn mynd 芒 cherrig o'r traeth ac er y gallai fod yn un neu ddau, mae'n honni ei fod wedi cael effaith negyddol dros y blynyddoedd.

鈥淧an rydych chi wedi bod yn gwneud hyn ers amser hir iawn, yn cymryd cerrig, mae鈥檔 amharu ar eu gwaith nhw, i warchod The Strand ac i warchod eiddo yn y pentref.

"Rydw i wedi dal nifer o bobl yn cymryd cerrig... rydych chi'n cerdded o gwmpas y pentref, rydych chi'n gweld llawer o dai gyda cherrig m芒n o'r fan hon, wedi'u hamgylchynu gan y m么r, mae yna gerrig m芒n o gwmpas y pentref鈥

"Rydyn ni'n ceisio gwneud pobl yn ymwybodol bod y cerrig hyn yno am reswm."

Disgrifiad o'r llun, Mae Allan Lunt, 73, yn cyfaddef ei fod e wedi cymryd tair carreg o'r traeth yn ystod ei ymweliad

Wrth fwynhau'r heulwen ar draeth Saundersfoot ddydd Mercher, cyfaddefodd Allan Lunt, 73 mlwydd oed o Gaer ei fod wedi cymryd tair carreg f芒n o'r traeth yn ystod ei ymweliad.

鈥淢ae rhai ohonyn nhw鈥檔 ddeniadol iawn ac yn ail mae gen i bwll pysgod gartref ac rwy鈥檔 eu gosod o amgylch y pwll pysgod.

鈥淢ae鈥檙 cerrig m芒n dwi鈥檔 eu cymryd yn fach iawn, boed hynny鈥檔 cyfrannu at erydiad arfordirol, dydw i ddim yn rhy si诺r.鈥

Dywedodd Sophie, 31, a Jason Powell, 36, o Gaerwrangon nad oedden nhw erioed wedi meddwl mewn gwirionedd am effaith cymryd cerrig m芒n o鈥檙 traeth ar yr arfordir.

Dywedodd Sophie: 鈥淩wy鈥檔 adnabod llawer o bobl sydd wedi mynd 芒 nhw fel souvenirs... mae gennym ni feiros paent acrylig, ac roedden ni鈥檔 mynd i dynnu llun ar rai ohonyn nhw gyda鈥檔 merch fach i wneud atgofion a mynd 芒 nhw adref i ddangos i鈥檙 teulu. 鈥

Ychwanegodd Jason: 鈥淩ydw i wedi bod yn dod yma ers pan oeddwn i鈥檔 blentyn a dyw hi ddim yn ymddangos bod llai o gerrig, dwi ddim wedi sylwi ar unrhyw wahaniaeth鈥.

Disgrifiad o'r llun, Doedd Sophie, 31, a Jason, 36, o Gaerwrangon heb feddwl o'r blaen am effaith cymryd cerrig m芒n o鈥檙 traeth ar yr arfordir

Dywedodd Lauren Murphy, 34 oed o Leeds, nad oedd hi erioed wedi meddwl am y darlun mwy mewn gwirionedd.

鈥淩ydyn ni wedi bod yn casglu cregyn bore ma, ond mae鈥檔 rhywbeth y bydden ni鈥檔 meddwl amdano yn y dyfodol, i beidio 芒 chymryd cerrig m芒n rhag ofn iddo gyfrannu at erydu arfordirol.鈥

Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn Saundersfoot yr wythnos nesaf i drafod opsiynau posib o 鈥榶mestyn Y Strand鈥 ac 鈥榓mddiffyn y bobl sy鈥檔 byw ar y traeth鈥.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Williams y bydd Fforwm Arfordirol Sir Benfro, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Cyngor Cymuned a Chyngor Sir Penfro yn cael eu gwahodd i鈥檙 cyfarfod.

鈥淒oes dim arwyddion ar gael ar hyn o bryd a dwi鈥檔 meddwl mae鈥檔 debyg mai dyna un o鈥檙 pwyntiau cyntaf ar yr agenda i鈥檞 datrys. Mae鈥檔 ymwneud ag ymgysylltu 芒鈥檙 cymunedau, ymgysylltu 芒鈥檙 trigolion a gwrando ar eu barn鈥 meddai.

'Parchwch yr eiddo sydd ar y traeth'

Ychwanegodd y Cynghorydd, Chris Williams: 鈥淵r hyn y byddwn i鈥檔 ei gynghori i bobl yw, ac mae hynny ar gyfer pobl sy鈥檔 dod yma, twristiaid, y trigolion, yw parchwch yr eiddo sydd ar y traeth a gadewch y cerrig lle maen nhw.

"Os oes gennych chi gerrig yn eich t欧, yn eich gardd, mae croeso i chi ddod 芒 nhw yn 么l.鈥

Mae llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn annog trigolion ac ymwelwyr i 鈥渂archu鈥檙 amgylchedd naturiol鈥 ac i gadw at y canllawiau sy鈥檔 gwarchod traethau a鈥檙 arfordir.